Mae Cabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cytuno i ymestyn y mesurau presennol i fynd i’r afael â baw cŵn a hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol ledled y Fwrdeistref Sirol am dair blynedd arall. Cafodd y penderfyniad yma ei wneud ar ôl i'r cyhoedd fynegi'u cefnogaeth o blaid y mesurau yn ystod ymgynghoriad a gynhaliwyd yn ddiweddar.
Ers cyflwyno’r Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus gwreiddiol ym mis Hydref 2017, mae'r swyddogion gorfodi wedi gallu arfer eu pwerau i fynd i'r afael â baw cŵn a pherchnogaeth anghyfrifol.
Yn ystod y cyfnod yma, mae'r Cyngor wedi cyhoeddi miloedd o Hysbysiadau Cosb Benodol am dorri Rheolau’r Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus sy'n ymwneud â mesurau Rheoli Cŵn, tra bod tystiolaeth hefyd yn dangos gostyngiad sylweddol mewn baw cŵn ar strydoedd y Fwrdeistref Sirol o'i gymharu â'r lefelau a gofnodwyd cyn cyflwyno'r mesurau.
Bydd y penderfyniad yma hefyd yn cefnogi ymgyrch 'Cadw RhCT yn Daclus' y Cyngor, sy'n annog trigolion i ymfalchïo yn eu cymunedau drwy fynd i'r afael â materion fel baw cŵn, sbwriel, tipio'n anghyfreithlon a throseddau amgylcheddol eraill, gan sicrhau bod swyddogion gorfodi yn cadw'r pwerau sydd eu hangen i weithredu yn erbyn perchnogion cŵn anghyfrifol.
Yn gynharach eleni, cafodd trigolion eu gwahodd i gymryd rhan mewn ymgynghoriad chwe wythnos ynghylch a ddylid parhau â'r mesurau presennol y tu hwnt i fis Medi 2026.
Mae'r ymateb i'r ymgynghoriad yma wedi bod yn hynod gadarnhaol, gydag 89% o'r ymatebwyr yn cefnogi dull y Cyngor o fynd i'r afael â baw cŵn ac adnewyddu'r Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus am dair blynedd arall. Derbyniodd pob elfen unigol o'r Gorchymyn gefnogaeth gan o leiaf 88% o bobl.
Bydd y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus yn golygu bod y rheolau canlynol yn parhau i gael eu gorfodi:
- RHAID i berchenogion cŵn godi baw cŵn ar unwaith a chael gwared ar y baw mewn modd addas.
- RHAID i berchnogion cŵn gario bagiau, neu ryw ddull addas arall, er mwyn cael gwared ar y baw ar bob adeg.
- RHAID i berchnogion cŵn ddilyn cyfarwyddyd Swyddog Awdurdodedig i roi ci ar dennyn.
- Mae cŵn wedi'u GWAHARDD o holl ysgolion, mannau chwarae i blant, a chaeau chwaraeon sy wedi'u marcio y mae'r Cyngor yn eu cynnal a'u cadw.
- RHAID cadw cŵn ar dennyn ar bob adeg ym mynwentydd y mae'r Cyngor yn eu cynnal a'u cadw.
Mae'r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus yn caniatáu i Swyddogion Gorfodi gyhoeddi Hysbysiad Cosb Benodedig o £100 i unrhyw un yn methu â chadw at amodau'r Gorchymyn.
Bydd y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus ar wahân sydd ar waith ym Mharc Aberdâr hefyd yn parhau am dair blynedd arall. Mae'r Gorchymyn yn ei gwneud hi'n ofynnol i berchnogion gadw eu cŵn ar dennyn ar bob adeg yn y parc ac felly'n cynnal mesur rheoli sydd wedi bod ar waith yn y parc ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Dywedodd y Cynghorydd Louisa Addiscott, Aelod o Gabinet Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd a Seilwaith Cyfalaf:
"Er bod y mwyafrif helaeth o berchnogion cŵn yn ymddwyn mewn modd cyfrifol ac yn codi baw eu hanifeiliaid anwes, yn anffodus mae nifer fach o bobl yn parhau i siomi eu cymunedau".
"Dangosodd yr ymgynghoriad bod y mwyafrif helaeth o bobl o blaid y mesurau yma, ac mae'r Cabinet wedi gwrando ar eu sylwadau. Mae ymestyn y pwerau yma'n golygu y bydd modd i ni barhau i gymryd camau yn erbyn perchnogion cŵn anghyfrifol, diogelu ein mannau cyhoeddus ac adeiladu ar y cynnydd sydd wedi'i wneud ers cyflwyno'r mesurau am y tro cyntaf NAW mlynedd yn ôl."
"Mae'r rhan fwyaf o drigolion yn ein helpu ni i gadw'n mannau cyhoeddus yn DACLUS, ond mae rhai pobl yn dal i gadw'n carfanau gorfodi'n brysur. Mae ymestyn y pwerau yma'n golygu y bydd modd i'n Wardeiniaid Cymunedol a'n Swyddogion Gorfodi barhau i gymryd camau yn erbyn y rhai sy'n anwybyddu'r rheolau ac yn difetha ein parciau, strydoedd, caeau chwaraeon a mannau cyhoeddus."
"Mae'r neges yn syml: Bagiwch e. Biniwch e. Peidiwch â'i adael e. Mae ein hymgyrch Cadw RhCT yn Daclus yn annog pawb i fod yn fro-garwyr tra mad. Fodd bynnag, lle nad yw ein hymdrechion i addysgu'r cyhoedd a chodi ymwybyddiaeth yn llwyddo, byddwn ni'n parhau i arfer ein pwerau i fynd i'r afael â pherchnogion anghyfrifol."
Rydyn ni'n annog trigolion i roi gwybod am faterion sy'n ymwneud â baw cŵn trwy fynd i: www.rctcbc.gov.uk/AdroddBawCwn fel bod modd i ni dargedu ein gwaith gorfodi yn yr ardaloedd hynny sydd â'r angen mwyaf.
Hefyd, mae gyda ni restr o lefydd y mae modd i chi fynd â'ch chi am dro yn Rhondda Cynon Taf – yn ogystal â llefydd sydd wedi’u gwahardd. Ewch i www.rctcbc.gov.uk/CiamDro.
Mae rhagor o wybodaeth am Ymgyrch Cadw RhCT yn Daclus ar gael yma: https://www.rctcbc.gov.uk/CY/GetInvolved/KeepItTIDYRCT.aspx
Wedi ei bostio ar 21/09/2026