Mae pawb yn gwybod y bydd plant yn rhoi pethau yn eu cegau, yn enwedig os ydyn nhw'n edrych fel bwyd lliwgar ac yn cael eu gwerthu fel ‘teganau’ synhwyraidd.
Mae'r chwiw newydd sydd wedi disodli'r 'Labubu' yr un mor beryglus, neu falle hyd yn oed yn fwy peryglus, wrth i'r galw am deganau ystwyth ‘squishy’ siâp twmplen, menyn neu gaws fynd dros ben llestri yn Rhondda Cynon Taf!
Mae carfan Safonau Masnach Cyngor Rhondda Cynon Taf bellach yn annog rhieni a gwarcheidwaid i fod yn ofalus iawn wrth brynu teganau ar ôl i 224 o deganau ystwyth peryglus gael eu hildio'n wirfoddol gan fasnachwyr er mwyn cael eu dinistrio.
Mae'r casgliad yn cynnwys y teganau ystwyth poblogaidd siâp twmplen a siâp menyn, a theganau tebyg i frand 'NeeDoh'. Roedd nifer fawr ohonyn nhw'n anghydymffurfio â Rheoliadau Teganau (Diogelwch) 2011. Mae swyddogion hefyd wedi codi pryderon y gallai rhai eitemau fod yn ffug.
Daw'r rhybudd yn dilyn pryder cenedlaethol cynyddol ynghylch diogelwch teganau 'twmplenni ystwyth', sydd wedi cael eu hyrwyddo'n eang ar y cyfryngau cymdeithasol ac sydd bellach yn destun hysbysiadau galw cynnyrch yn ôl a chamau gorfodi ledled y DU.
Mae profion diweddar ar gynhyrchion tebyg wedi nodi cemegion peryglus, gan gynnwys bensen ('benzene'), mewn rhai teganau siâp twmplen – sylweddau sy'n gysylltiedig â chosi poenus a risgiau iechyd hirdymor.
Mae ymchwiliadau eraill wedi canfod teganau sy'n rhyddhau arogl cemegion cryf ac yn cynnwys cyfansoddion peryglus, ynghyd â theganau heb wybodaeth diogelwch nac olrhain ar y pecyn.
Ar ben y pryderon o ran cemegion, gall teganau ystwyth o ansawdd gwael hollti neu dorri, gan beri perygl o dagu. Mae nifer o'r teganau'n cynnwys sylwedd gwyn hufennog a allai ymddangos yn ddiniwed ac yn flasus i blant ifainc.
Mae plant ifainc yn naturiol yn arbrofi â gwrthrychau trwy eu cnoi neu eu sugno, sy'n gwneud teganau sy'n edrych fel bwyd yn arbennig o beryglus os nad ydyn nhw'n ddiogel.
Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Cymunedau:
"Mae pawb yn gwybod y bydd plant yn rhoi pethau yn eu cegau – yn enwedig teganau sy'n edrych fel bwyd. Dyna pam mae'n rhaid i'r cynhyrchion hyn fodloni safonau diogelwch llym.
"Y neges allweddol yw – os yw'n edrych fel bwyd, mae'n debygol y bydd plentyn yn ei roi yn ei geg. Gwnewch yn siŵr ei fod yn ddiogel cyn iddyn nhw wneud hynny.
"Yn anffodus, doedd yr eitemau wedi'u casglu gan y garfan ddim yn bodloni'r gofynion hynny o gwbl ac efallai bydden nhw wedi rhoi plant mewn perygl.
"Mae modd i'r teganau ffug, ansawdd gwael yma dorri ac achosi anafiadau neu beri peryglon tagu, ac mae sylweddau anniogel yn gallu llosgi'r croen ac achosi niwed difrifol.
"Unwaith eto, mae'r rheiny sy'n cyflenwi'r teganau ffug yma'n elwa o'r cyffro sy'n gysylltiedig â'r teganau ac yn blaenoriaethu elw dros ddiogelwch. Yn ogystal â thorri rheolau nod masnach y cynnyrch, dydyn nhw ddim yn cynnal y profion gofynnol i sicrhau bod y cynnyrch yn ddiogel."
"Mae'r teganau yma'n ddeniadol i blant ond mae modd iddyn nhw fod yn beryglus iawn. Yn aml, maen nhw'n byrstio, rhwygo neu ffrwydro'n fuan ar ôl eu prynu ac yna'n peri peryglon tagu. Mae dod i gysylltiad â rhai o'r cemegion sydd ynddyn nhw, sydd wedi'u gwahardd mewn teganau dilys, yn gallu achosi niwed.
"Hoffen ni atgoffa POB masnachwr fod ganddyn nhw gyfrifoldeb i sicrhau bod teganau'n bodloni gofynion diogelwch y DU cyn eu rhoi ar werth.
"Mae gorfodi bob amser yn ddewis olaf, a dim ond pan fydd y garfan yn credu bod cyfraith wedi'i thorri a fyddai'n achosi niwed i'r cyhoedd y caiff hyn ei wneud – ond mae'r neges yn glir, os ydych chi'n cael eich dal yn gwerthu'r eitemau yma, byddwn ni'n cymryd camau gweithredu yn eich erbyn!"
Mae'r garfan Safonau Masnach yn parhau i archwilio busnesau lleol ac yn cael gwared â chynhyrchion sydd ddim yn cydymffurfio â gofynion masnachu. Gall hyn arwain at erlyn masnachwyr sy'n gwybod yn iawn eu bod nhw'n torri'r gyfraith.
Pan gafodd y teganau eu casglu a'u gwirio gan y garfan, daeth i'r amlwg nad oedden nhw'n bodloni gofynion cyfreithiol allweddol Rheoliadau Teganau (Diogelwch) 2011, gan gynnwys:
- Diffyg manylion y gwneuthurwr neu'r mewnforiwr
- Diffyg marciau diogelwch
- Dim rhif swp na manylion olrhain
- Diffyg rhybuddion neu gyfarwyddiadau diogelwch
Heb yr wybodaeth yma, mae'n anodd nodi pwy sy'n gyfrifol os bydd rhywbeth yn mynd o'i le.
Mae'r garfan yn annog rhieni i wneud gwiriadau syml yn y siop cyn iddyn nhw brynu'r 'teganau' yma.
PEIDIWCH â dibynnu ar ymddangosiad yn unig a gwiriwch bod y canlynol ar y pecyn cyn prynu:
- Enw a chyfeiriad y gwneuthurwr
- Manylion y mewnforiwr (os cafodd ei wneud y tu fas i'r DU)
- Marc diogelwch UKCA neu CE
- Rhif swp er mwyn olrhain
- Rhybuddion a chyfarwyddiadau clir
- Dim arogl cemegion cryf/anarferol
Nodyn pwysig: Dyw marc CE neu UKCA yn unig ddim yn ddigon – dylai'r holl fanylion yma fod ar y pecyn.
Dyma argymhellion ychwanegol i rieni a gwarcheidwaid:
- Byddwch yn ofalus gyda theganau sy'n edrych fel bwyd
- Dylech chi osgoi cynhyrchion rhad neu gynhyrchion heb frand sy'n cael eu gwerthu'n anffurfiol
- Stopiwch ddefnyddio unrhyw degan sy'n arogli'n gryf o gemegion neu sy'n dangos difrod
- Cadwch eitemau amheus allan o gyrraedd plant ifainc
Os oes unrhyw amheuaeth, peidiwch â gadael i'ch plentyn chwarae ag ef.
Os oes gan fusnesau neu'r cyhoedd unrhyw bryderon am Ddiogelwch Teganau, mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y gwefannau canlynol (ar gael yn Saesneg yn unig): Toys | Business Companion Toys, Child Accident Prevention trust Toy Safety; neu mae modd i chi roi gwybod am achosion o deganau ffug i'ch gwasanaeth safonau masnach lleol trwy ffonio Adran Cymorth i Gwsmeriaid Cyngor ar Bopeth ar 0808 123 1133 neu e-bostio: safonaumasnach@rctcbc.gov.uk.
Wedi ei bostio ar 02/07/2026