Mae pobl ifainc o bob cwr o Rondda Cynon Taf yn parhau i lywio dyfodol eu cymunedau drwy gymryd rhan yn Fforwm Ieuenctid y Sir yma yn Rhondda Cynon Taf. Mae'r Fforwm yn darparu llwyfan i drigolion ifainc drafod materion sydd o bwys iddyn nhw a dylanwadu ar benderfyniadau lleol.
Beth yw Fforwm Ieuenctid y Sir?
Mae Fforwm Ieuenctid y Sir yn dod â phobl ifainc angerddol ac ymroddedig o bob cwr o'r fwrdeistref sirol at ei gilydd, gan roi cyfleoedd iddyn nhw rannu eu barn, datblygu sgiliau arweinyddiaeth a gweithio ochr yn ochr ag Aelodau Etholedig, swyddogion y Cyngor a sefydliadau partner ar faterion sy'n effeithio ar bobl ifainc.
Drwy gyfarfodydd rheolaidd, ymgynghoriadau a gwaith ymgysylltu, mae aelodau’r fforwm yn chwarae rhan bwysig wrth sicrhau bod lleisiau pobl ifainc yn cael eu clywed mewn perthynas ag ystod eang o faterion gan gynnwys addysg, lles, yr amgylchedd, trafnidiaeth, diogelwch y gymuned a mynediad at gyfleoedd.
Mae'r fforwm hefyd yn rhoi profiadau gwerthfawr i bobl ifainc o ran siarad cyhoeddus, gweithio'n rhan o dîm, datblygu prosiectau a chyfranogiad dinesig, gan eu helpu i feithrin hyder a grymuso'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr cymunedol.
Sut mae'n gweithio?
Mae croeso i aelodau Fforwm Ieuenctid y Sir ddod i Siambr y Cyngor yn rheolaidd ac maen nhw'n gweithio'n agos gyda Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid y Cyngor, gan gyfrannu at ymgynghoriadau, cefnogi ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth a chynrychioli barn eu cyfoedion ar faterion lleol a chenedlaethol.
Hyd yn hyn eleni, mae'r cyfleoedd yma i ymweld â chanolbwynt democratiaeth yn Rhondda Cynon Taf wedi rhoi cyfle ymarferol i gannoedd o bobl ifainc ddysgu am faes llywodraeth leol. Mae cyfranogwyr wedi cwrdd ag Aelodau’r Cabinet, wedi gofyn cwestiynau am faterion sy’n bwysig iddyn nhw, ac wedi gweld sut mae eu hawgrymiadau wedi cael eu rhoi ar waith.
Trwy'r rhaglen werthfawr hon, rydyn ni'n ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ddinasyddion gweithredol, ac yn helpu pobl ifainc i ddeall y broses ddemocrataidd gan sicrhau eu bod nhw wedi'u grymuso i ddweud eu dweud ar faterion sy'n effeithio ar eu cymunedau.
Fe ddywedaist ti - fe wnaethon ni!
Neges allweddol gan Fforwm Ieuenctid y Sir yw “Fe ddywedaist ti - fe wnaethon ni” - gan sicrhau bod pobl ifainc yn deall nad siop siarad yn unig yw hon, ond democratiaeth ar waith.
Yng nghyfarfod diweddaraf Fforwm Ieuenctid y Sir, a gafodd ei gynnal yn Siambr y Cyngor ar 2 Gorffennaf, cafodd pobl ifainc o ysgolion ledled Rhondda Cynon Taf gyfle i gwrdd ag Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ann Crimmings, i drafod amrywiaeth o bynciau pwysig, gan gynnwys democratiaeth, newid yn yr hinsawdd a rheoli perygl llifogydd.
Rhoddwyd sicrwydd i aelodau'r Fforwm fod y sylwadau a syniadau a gafodd eu nodi mewn cyfarfodydd blaenorol wedi cael eu rhannu â phwyllgorau craffu'r Cyngor, ac wedi helpu i lywio eu rhaglenni gwaith. Mae awgrymiadau gan Fforwm Ieuenctid y Sir hefyd yn cael eu rhannu â staff y Cyngor ledled RhCT, gan sicrhau bod llais pobl ifainc yn cael ei glywed ar draws y sefydliad.
Cafodd y bobl ifainc yr wybodaeth ddiweddaraf am brydau mewn ysgolion uwchradd, a chawson nhw wybod am sut mae eu hadborth wedi dylanwadu ar newidiadau sydd ar y gweill i'r fwydlen. Roedden nhw wrth eu boddau i glywed bod pob awgrym gan Fforwm Ieuenctid y Sir wedi cael ei gynnwys yn y bwydlenni newydd i ysgolion uwchradd, a fydd yn cael eu rhoi ar waith yn ddiweddarach eleni. Roedd aelodau o'r Fforwm wedi rhoi cymeradwyaeth trwy glapio ar ôl clywed y cyhoeddiad, gan ddangos yr effaith gadarnhaol y gall pobl ifainc ei chael pan gaiff camau gweithredu eu cymryd ar ôl iddyn nhw leisio eu barn.
Meddai'r Cynghorydd Sharon Rees, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Phobl Ifainc:
Mae Fforwm Ieuenctid y Sir yn enghraifft wych o bobl ifainc yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eu cymunedau. Mae egni, brwdfrydedd ac ymrwymiad ei aelodau yn helpu i sicrhau bod barn pobl ifainc yn cael ei hystyried wrth wneud penderfyniadau lleol ac wrth ddatblygu polisïau.
"Rydyn ni'n falch o gefnogi Fforwm sy'n sicrhau bod modd i bobl ifainc ddefnyddio eu llais, ac sy'n darparu cyfleoedd iddyn nhw ddatblygu sgiliau newydd, magu hyder ac ysgwyddo rôl weithredol wrth lywio dyfodol Rhondda Cynon Taf.
Wedi ei bostio ar 03/07/2026