Skip to main content

Y Cyngor yn agor Ardal Goffa Treorci yn swyddogol

Untitled (900 x 600 px)

Mae Ardal Goffa hardd newydd wedi agor ym Mynwent Treorci, wrth i Gyngor Rhondda Cynon Taf gyflawni'r addewid a wnaeth i bob trigolyn sydd mewn galar i agor mannau o'r fath ym mhob un o'i fynwentydd.

Mae gan yr ardal newydd drawiadol feinciau addurnedig sy'n cynnig lle heddychlon i unrhyw un sydd eisiau eistedd, myfyrio, cofio a galaru.

Gall ymwelwyr ddanfon llythyrau, negeseuon, cerddi, lluniau neu waith celf i anwyliaid coll drwy flwch post Llythyrau i'r Nefoedd. Mae'r rhain wedi bod yn boblogaidd mewn lleoliadau eraill, yn enwedig gyda phlant a phobl ifainc mewn profedigaeth.

Mae yna hefyd ddarn o gelf ysmudiadol, wedi'i orchuddio ag adar a gloÿnnod byw, sy'n gofeb i bob baban heb fan claddu hysbys sydd wedi marw yn ystod beichiogrwydd neu enedigaeth.

Gall perthnasau'r babanod hynny gysylltu â charfan Gwasanaethau Profedigaethau'r Cyngor i gael deilen fetel wedi'i gwneud a'i hysgythru, a fydd yn cael ei hychwanegu at y gofeb.

Mynwent Treorci, sy'n 155 mlwydd oed, yw'r drydedd fynwent i gael Ardal Goffa. Mae gan Fynwentydd Trealaw a Maes-yr-Arian ardaloedd coffa eisoes sy'n boblogaidd iawn gydag ymwelwyr.

Cafodd cynlluniau ar gyfer yr Ardal Goffa ym Mynwent Treorci eu creu ar ddechrau'r flwyddyn yma, yn syth ar ôl agor yr Ardaloedd Coffa ym Mynwent Trealaw ym mis Hydref a Mynwent Maes-yr-Arian ym mis Chwefror.

Mae gwaith i ddechrau ar greu rhagor o Ardaloedd Coffa yn y misoedd nesaf.

Mae darparu mannau diogel a gorffwysol i drigolion sy'n galaru ym mhob un o'i fynwentydd yn un o'r ymrwymiadau yn Strategaeth Profedigaeth y Cyngor.

Yn ogystal â darparu gwasanaeth urddasol a phroffesiynol ar ran y rhai sydd wedi marw, mae'r Strategaeth hefyd yn cydnabod yr angen i roi cymorth i bobl y gymuned wrth iddyn nhw alaru.

Dim ond rhan o'r cymorth sy'n cael ei gynnig yw'r Ardaloedd Coffa, Llythyrau i'r Nefoedd a'r cofebau. Mae'r Cyngor hefyd yn gweithio'n agos gydag asiantaethau partner, gan hybu achlysuron pwysig megis y gwasanaeth Ton o Oleuni yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod.

Aeth y Cynghorydd Scott Emanuel, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf sydd â chyfrifoldeb am Wasanaethau Profedigaethau, i agoriad swyddogol yr Ardal Goffa gyda chynghorwyr ward Treorci, y Cynghorydd Bob Harris a'r Cynghorydd Richard Clarke.

Meddai:  "Ym mhob un o'r tair Ardal Goffa rydyn ni wedi'u hagor hyd yn hyn, mae cymaint o adborth gan y cyhoedd wedi dangos faint mae'r mannau arbennig yma'n ei olygu i bobl sy'n galaru ar ôl colli anwylyd – ni waeth faint o flynyddoedd sydd wedi mynd heibio.

"Rydyn ni'n gwybod bod yna bobl sy'n treulio amser ar y meinciau yn bwyta hoff losin eu diweddar dad ar Sul y Tadau ac eraill sy'n postio gwaith celf eu plant ym mlychau post Llythyrau i'r Nefoedd i anwyliaid coll eu hedmygu.

"Y peth hyfryd am y Gerddi Coffa yw eu bod nhw ar gael i unrhyw un eu defnyddio i alaru, myfyrio a chofio yn eu ffordd eu hunain ac rwy'n falch bod y Cyngor yn parhau i gyflawni'r ymrwymiad pwysig yma mae wedi'i wneud."

 

I ofyn am osod deilen wedi'i hysgythru ar y gofeb ym Mynwent Treorci, anfonwch e-bost at Gwasanaethau Profedigaethau 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Wedi ei bostio ar 25/09/2026