Bydd yr achlysur trawiadol a phwysig yma, a gynhelir mewn partneriaeth â'r Lleng Brydeinig Frenhinol, yn cael ei gynnal yn Y Muni, Pontypridd ddydd Sul, 1 Tachwedd.
Gwahoddir pobl o bob oed i ymuno â ni i ddangos cefnogaeth i bersonél ein Lluoedd Arfog o'r gorffennol a'r presennol yn yr hyn a fydd yn noson emosiynol o berfformiadau.
Bydd plant talentog Côr Ysgol Y Pant, Côr Merched Taf-elái, Band Tylorstown, yr unawdydd Heather Jones, yng nghwmni nifer o gludwyr baneri o'r Lleng Brydeinig Frenhinol, yn perfformio ar y noson. Bydd Stuart Davidson yn chwarae'r pibau wrth fynd i mewn i'r adeilad, ac ar ddiwedd y gwasanaeth.
Mae gan Ysgol y Pant draddodiad cyfoethog o gelfyddydau perfformio a pherfformion nhw yng Nghyngerdd Goffa'r llynedd. Rydyn ni'n croesawu disgyblion yr ysgol yn ôl am y trydydd tro.
Mae Band Tylorstown, sy'n gyn-bencampwr yr Eisteddfod, yn cystadlu'n genedlaethol ar lefel bencampwriaeth ledled y DU a bydd yn cynnig perfformiad cryf a theimladwy.
Grŵp o fenywod ychydig i'r de o Donyrefail yw Côr Merched Taf-elái. Ers iddo gael ei sefydlu, mae'r côr wedi perfformio ledled y rhanbarth a Gorllewin Lloegr. Rhywbeth sy'n tanio balchder yn y côr yw ei ymddangosiad yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd yn 2024.
Mae Heather Dolly Jones yn gantores-gyfansoddwraig cerddoriaeth werin-bop o Bontypridd, De Cymru. Graddiodd hi ym mis Gorffennaf 2026 o LIPA (Sefydliad Celfyddydau Perfformio Lerpwl) gyda BA (Anrh) Dosbarth Cyntaf mewn Cerddoriaeth (Poblogaidd, Cyfoes a Masnachol) ac enillodd wobr Sefydliad Addysgol Buddy Holly. Cafodd hyfforddiant lleisiol gan David Fortey a'i mentora gan Peter Mitchell, ac mae Heather hefyd wedi mynychu dosbarthiadau meistr gydag eiconau fel Bjorn Ulvaeus o ABBA a Mike Joyce o The Smiths.
Bydd y Parchedig Charlotte Rushton o Eglwys Santes Catrin, Pontypridd yn arwain y gwasanaeth coffa.
Nid yn unig gwledd o gerddoriaeth, canu a pherfformiadau milwrol ydy'r achlysur, mae'r Gyngerdd Goffa hefyd yn brydferth yn weledol. Bydd y gynulleidfa'n mwynhau gweld lliwiau'r baneri, y gwisgoedd, ac wrth gwrs y foment ysblennydd wrth i'r pabïau gwympo o do Y Muni.
Yr arweinydd corawl adnabyddus John Asquith fydd yn arwain y noson. Mae John, sy'n dod o Gwm Rhondda, wedi bod yn rhan allweddol o'r Gyngerdd Goffa ers dros ugain mlynedd. Mae wedi perfformio fel arweinydd corawl ledled y byd ac mae hefyd yn hyfforddi Rwsieg i lawer o gymdeithasau corawl a chwmnïau opera enwog gan gynnwys Opera Cenedlaethol Cymru.
Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog: "Rydyn ni unwaith eto yn gynnal y Gyngerdd Goffa yn Y Muni, Pontypridd, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at groesawu cynifer o bobl ag sy'n bosib i'r achlysur ar 1 Tachwedd.
“Yn bwysicach na dim, mae gyda ni gefnogaeth cymuned y Lluoedd Arfog wrth i gludwyr baneri'r Lleng Brydeinig Frenhinol arwain yr achlysur.
Achlysur ffurfiol a thrawiadol yw'r Gyngerdd Goffa, ar gyfer talu teyrnged i'r rhai sydd wedi, neu sy'n parhau, i wasanaethu'n gwlad. Ond mae hefyd yn achlysur cerddorol a gweledol pwerus y gall pawb ei fwynhau."
Cynhelir y Gyngerdd Goffa yn Y Muni, Pontypridd ddydd Sul, 1 Tachwedd am 6.30pm (drysau'n agor am 6pm). Pris tocynnau yw £10 ac maen nhw ar gael i’w prynu ar-lein yma neu drwy ffonio’r Swyddfa Docynnau ar 03300 554488.
Mae parcio am ddim ar gael ar y diwrnod ym mhob maes parcio'r Cyngor ym Mhontypridd. Cliciwch yma am fanylion.
Wedi ei bostio ar 23/09/2026