Mae Arweinydd y Cyngor a’r Aelod o’r Cabinet ar faterion Addysg a Phobl Ifainc wedi ymweld â safle gwaith Ysgol Cambrian yng Nghwm Clydach i weld yr ysgol Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) newydd arbennig sy'n cael ei hadeiladu. Mae'r gwaith wedi cyrraedd y camau olaf, ac mae disgwyl i'r ysgol agor yn ystod yr Hydref.
Ymwelodd y Cynghorydd Ann Crimmings a'r Cynghorydd Sharon Rees â’r safle ddydd Iau, 24 Medi, gan fanteisio ar y cyfle i weld y lleoliad a fydd yn darparu addysg i blant a phobl ifainc 3-19 oed. Cawson nhw eu croesawu gan garfan contractwr y prosiect, Morgan Sindall Construction, sy’n gweithio ar y safle. Dyma fuddsoddiad pwysig i greu pumed ysgol ADY Rhondda Cynon Taf. Mae’r prosiect yn cael ei gyflawni yn rhan o Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.
Ymunodd Pennaeth yr ysgol newydd, Aron Bradley, Arweinydd yr Ysgol, Nicola Clark, a'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o'r Cabinet a'r Aelod Etholedig dros ward Cwm Clydach ag Aelodau'r Cabinet.
Bydd gan yr adeilad modern o'r radd flaenaf 23 o ystafelloedd dosbarth ynghyd â mannau ategol, gan gynnwys pwll hydrotherapi a chanolfan les. Mae modd i chi ddysgu rhagor ar ein gwefan. Mae'r buddsoddiad yn ymateb i gynnydd yn nifer y disgyblion ADY yn Rhondda Cynon Taf, cymhlethdod cynyddol anghenion disgyblion, a phwysau o ran capasiti yn y bedair ysgol ADY bresennol.
Mae nifer o ardaloedd mewnol yr adeilad newydd bron â chael eu cwblhau, gyda'r gwaith terfynol bellach yn mynd rhagddo. Mae ardaloedd sydd wedi'u cwblhau yn cael eu glanhau'n drylwyr, ac mae gwaith paratoi arall yn cael ei gynnal fel bod modd i staff a disgyblion ddechrau defnyddio’r adeilad. Mae ardaloedd y llawr uchaf bellach yn y cam olaf, tra bod gwaith yn parhau ar y llawr gwaelod, gan gynnwys gwaith ar y cyfleusterau arbenigol a'r pwll hydrotherapi.
Yn allanol, mae gwaith yn mynd rhagddo’n dda o ran gosod wyneb tarmac newydd, gosod cyrbau a ffensys a gwaith tirlunio, ynghyd â gosod offer chwarae. Mae gwaith hefyd yn parhau mewn perthynas â waliau cynnal, y seilwaith draenio ar y safle, gosod palmant y teras to, a chanopïau allanol.
Dros yr wythnosau nesaf, bydd y cerrig milltir allweddol yn cynnwys cwblhau'r holl waith adeiladu, comisiynu'r pwll hydrotherapi, a gosod offer arbenigol fel y trampolîn electronig.
Mae gwaith hefyd wedi'i gwblhau'n ddiweddar i uwchraddio cae chwaraeon 4G bach ar safle'r cae pêl-droed cyfagos, sydd wedi'i reoli gan Ymddiriedolaeth Pentref Cambrian. Cafodd y gwaith o osod wyneb newydd ar y cae, gosod haen amsugno sioc, adnewyddu'r ffens, ac ychwanegu llwybr troed ei ariannu'n rhan o ddatblygiad yr ysgol. Bydd modd i ddisgyblion sy'n mynychu Ysgol Cambrian ddefnyddio'r cyfleuster yn ystod y dydd. Bydd y safle dan reolaeth yr Ymddiriedolaeth a bydd modd i’r gymuned ei ddefnyddio gyda'r nos ac ar benwythnosau.
Bydd Ysgol Cambrian yn darparu cymorth i ddisgyblion sydd ag anhwylderau’r sbectrwm awtistig, anawsterau dysgu difrifol, anawsterau dysgu dwys a lluosog, anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol, ac amhariad ar y synhwyrau.
Meddai'r Cynghorydd Sharon Rees, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Phobl Ifainc: “Mae'n gyfnod cyffrous iawn i Ysgol Cambrian, ac roeddwn i wrth fy modd yn ymweld â'r safle adeiladu i weld y datblygiad gwych wrth i ni gychwyn ar gam olaf y gwaith. Mae'r adeilad newydd a'r ardaloedd awyr agored yn arbennig, ac yn cynnwys cyfleusterau pwrpasol ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Bydd yr ysgol yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi disgyblion a theuluoedd, ac mae achlysuron pontio wedi cael eu cynnal i helpu disgyblion y dyfodol a'u teuluoedd i baratoi ar gyfer symud i'r lleoliad newydd.
“Mae’r Cyngor wedi rhoi'r buddsoddiad uchelgeisiol yma ar waith mewn ymateb i dwf yn nifer y disgyblion sy’n mynychu ein pedair ysgol ADY bresennol dros nifer o flynyddoedd, ac mewn ymateb i gynnydd o ran cymhlethdod anghenion y disgyblion. Byddwn ni hefyd yn buddsoddi mewn bloc addysgu newydd ym Muarth y Capel yn Ynys-y-bwl, safle lloeren ADY Ysgol Tŷ Coch – fe gafodd y prosiect pwysig yma ganiatâd cynllunio yn ddiweddar ym mis Awst. Mae'r rhain yn dilyn estyniad gwerth £1.5 miliwn a gafodd ei gyflawni yn Ysgol Arbennig Maesgwyn yng Nghwmdâr yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf, ac mae lleoliad ADY y Blynyddoedd Cynnar newydd wedi agor yn Nhonyrefail.
“Rydw i wrth fy modd yn gweld bod Ysgol Cambrian wedi cyrraedd camau olaf y gwaith adeiladu, ac rwy’n siŵr y bydd y gymuned yn falch iawn o‘r ysgol am genedlaethau i ddod. Hoffwn i ddiolch i gontractwr y Cyngor, Morgan Sindall, am ei ymroddiad parhaus wrth gyflawni'r prosiect.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Ann Crimmings, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Mae buddsoddi yn ein hysgolion yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i’r Cyngor, ac mae gweld lleoliad arall bron â’i gwblhau yn dangos ein hymrwymiad ar waith. Mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, fe wnaethon ni ddarparu saith adeilad ysgol newydd yn 2024 a 2025– ac rydyn ni nawr yn canolbwyntio ar y rownd nesaf o brosiectau yn rhan o ymrwymiad gwerth £414 miliwn ar gyfer y blynyddoedd i ddod.
“Ysgol Cambrian yw’r cyntaf o’r prosiectau yma, a bydd ysgol newydd ar gyfer cymuned Glyn-coch – Ysgol Gynradd Glyn-coch – yn agor yn gynnar yn 2027. Rydyn ni hefyd yn dylunio ac yn datblygu blociau addysgu newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Ioan Fedyddiwr yr Eglwys yng Nghymru yn Aberdâr, a Buarth y Capel yn Ynys-y-bwl. Rydyn ni hefyd yn gwneud cynnydd da mewn perthynas â’r buddsoddiadau arfaethedig ar gyfer dwy o’n hysgolion Cymraeg, Ysgol Cwm Rhondda ac Ysgol Llanhari.
“Roedd hi’n wych ymweld ag Ysgol Cambrian ddydd Iau, ac rwy’n siŵr y bydd y lleoliad newydd yn gwneud argraff ar y disgyblion a’u teuluoedd. Bydd y Cyngor yn cyhoeddi trefniadau agor yr ysgol yn fuan, unwaith y byddan nhw wedi'u cwblhau.”
Mae modd i chi ddysgu rhagor am fuddsoddiad mawr y Cyngor mewn ysgolion ledled Rhondda Cynon Taf ar ein tudalennau gwe #TrawsnewidRhCT.
Wedi ei bostio ar 25/09/2026