Mae'r Cabinet wedi cytuno sut y bydd cyllid ychwanegol ar gyfer Priffyrdd a Pheirianneg eleni (2026/27) yn cael ei ddyrannu. Mae'n cynnwys cyllid sylweddol ar gyfer gwaith datblygu Coridor Trafnidiaeth Gynaliadwy Llanharan a Ffordd Gyswllt Porth Cwm Cynon – yn ogystal â dyraniadau ar gyfer 28 o gynlluniau gosod wyneb newydd ar ffyrdd ychwanegol, 15 o gynlluniau gwaith ar lwybrau troed, dau brosiect newydd ar gyfer ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu, a chyllid ychwanegol ar gyfer lliniaru llifogydd.
Cafodd adroddiad yn amlinellu buddsoddiad arfaethedig gwerth £12.13 miliwn ym meysydd blaenoriaeth y Cyngor ei drafod gan y Cabinet ddydd Llun, 21 Medi – a chafodd y cyllid untro yma ei gymeradwyo gan yr Aelodau ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol. Ar gyfer Priffyrdd a Thrafnidiaeth, mae'n cynnwys cyllid ar gyfer ffyrdd/llwybrau troed (£3.5 miliwn), Coridor Trafnidiaeth Gynaliadwy Llanharan (£3 miliwn), Ffordd Gyswllt Porth Cwm Cynon (£3 miliwn), lliniaru llifogydd (£250,000), a ffyrdd heb eu mabwysiadu (£150,000).
Wedi iddo gael ei gymeradwyo, trafododd yr Aelodau adroddiad ar wahân mewn perthynas â Rhaglen Gyfalaf Priffyrdd Atodol arfaethedig, a oedd yn amlinellu sut y byddai'r cyllid yn cael ei ddyrannu. Bydd yn cael ei chyflawni yn ychwanegol at raglen gyfalaf y flwyddyn gyfredol ar gyfer Priffyrdd a Thrafnidiaeth, gwerth £41.9 miliwn, y cytunwyd arni gan y Cabinet ym mis Mawrth 2026 ac sy'n cael ei chyflawni drwy gydol 2026/27.
Manylion y Rhaglen Gyfalaf Priffyrdd Atodol
Bydd y cyllid y cytunwyd arno'n ddiweddar yn golygu y bydd 28 o gynlluniau gosod wyneb newydd ar ffyrdd ychwanegol yn cael eu cyflawni, yn ogystal â 15 o gynlluniau gwaith atgyweirio llwybrau troed – a hefyd yn clustnodi cyllid pwysig arall ar gyfer trin wyneb, atgyweiriadau canolradd a gwaith atgyweirio tyllau. Mae'r cynlluniau ffyrdd a llwybrau troed newydd wedi'u rhestru'n llawn yn Atodiadau adroddiad y Cabinet dydd Llun. Mae modd ei ddarllen yn llawn ar wefan y Cyngor.
Hefyd wedi'u cynnwys mae dau gynllun newydd ar gyfer ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu, gan ychwanegu at y rhaglen waith bresennol i osod wyneb newydd ar ffyrdd preifat sydd wedi bod mewn cyflwr gwael iawn ers nifer o flynyddoedd. Bydd y rhain yn cael eu mabwysiadu gan y Cyngor er mwyn iddo eu cynnal a'u cadw yn y dyfodol. Bydd cynlluniau sydd newydd gael eu cymeradwyo yn cael eu datblygu yn Heol y Fferm yn Aberaman, a rhwng Stryd Gadlys a Heol Glan, Gadlys, Aberdâr.
Bydd y cyllid ychwanegol ar gyfer lliniaru llifogydd yn parhau i gynorthwyo gwaith ar raddfa fach ar welliannau draenio tir, draenio priffyrdd a chynlluniau lliniaru llifogydd – yn faes blaenoriaeth. Bydd buddsoddiad y Cyngor yn parhau i ategu cyllid gwerth tua £4 miliwn sydd wedi'i sicrhau gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2026/27.
Bydd Coridor Trafnidiaeth Gynaliadwy Llanharan yn derbyn cyllid ychwanegol gwerth £3 miliwn er mwyn parhau â'i ddatblygiad. Bwriad y prosiect arfaethedig yw mynd i'r afael â phroblemau hirdymor o ran tagfeydd traffig, diogelwch ffyrdd, traffig cerbydau nwyddau ac ansawdd aer, ar hyd yr A473 trwy Lanharan. Bydd yn creu coridor trafnidiaeth newydd 4 cilometr o hyd, a fydd yn cynnwys llwybr cerdded a beicio. Ym mis Ebrill 2026, cyrhaeddodd y prosiect garreg filltir bwysig wrth i gais cynllunio gael ei gyflwyno’n ffurfiol.
Bydd Ffordd Gyswllt Porth Cwm Cynon yn derbyn cyllid gwerth £3 miliwn ar gyfer gwaith dylunio a datblygu. Bydd y ffordd gyswllt 1.2 cilometr o hyd arfaethedig yn cysylltu'r A4059 Ffordd Osgoi Aberdâr â Ffordd Blaenau'r Cymoedd – gan gryfhau cysylltiadau trafnidiaeth rhwng y gogledd a'r de, lleddfu tagfeydd traffig yn lleol gan gynnwys yn Llwydcoed, a chefnogi twf economaidd y rhanbarth. Mae'r broses penodi prif gontractwr wedi cychwyn, gyda gwaith dylunio manwl ar y gweill i ddechrau'r flwyddyn nesaf.
Nodwch, mae'r buddsoddiad ychwanegol yma mewn Priffyrdd a Thrafnidiaeth yn amodol ar y cyllid Blaenoriaethau Buddsoddi ehangach gwerth £12.13 miliwn – y cytunwyd arno gan Aelodau'r Cabinet yn eu cyfarfod ddydd Llun – yn cael ei gymeradwyo gan bob Aelod Etholedig yng nghyfarfod y Cyngor Llawn mis Medi 2026.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Seilwaith Cyfalaf: “Ddydd Llun, fe gymeradwyodd y Cabinet fuddsoddiad sylweddol, untro gwerth £12.13 miliwn ar gyfer meysydd blaenoriaeth y Cyngor eleni. Ar ôl cymeradwyo'r buddsoddiad pwysig yma, fe drafododd yr Aelodau adroddiad ar wahân mewn perthynas â'r cyllid gwerth bron i £10 miliwn sydd wedi'i ddyrannu ar gyfer Priffyrdd a Pheirianneg, gan fanylu ar sut y byddai'r cyllid yn cael ei ddyrannu.
“Bydd ein cynlluniau trafnidiaeth mawr sydd wedi’u cynllunio ar gyfer Llanharan a gogledd Cwm Cynon yn derbyn cyllid gwerth £3 miliwn ychwanegol yr un, wrth i swyddogion fwrw ymlaen â’r gwaith dylunio a datblygu. Roedd y ddau brosiect wedi'u cynnwys yn flaenorol yn Adolygiad Ffyrdd Cymru, ac maen nhw wedi'u diwygio i sicrhau eu bod nhw'n cydymffurfio â Pholisi Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru. Mae'r Cyngor yn parhau i fod wedi'i ymrwymo'n llwyr i'r rhain – ac mae'r cyllid ychwanegol sylweddol yma yn dangos hyn.
“Mae'r gwaith atgyweirio, cynnal a chadw a buddsoddi parhaus yn ein ffyrdd ledled y Fwrdeistref Sirol yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol – ac rydyn ni wedi gwneud cynnydd rhagorol dros fisoedd yr haf i gyflawni 70 o gynlluniau gosod wyneb newydd ar ffyrdd ers mis Ebrill 2026. Gwerth y rhaglen bresennol ar gyfer 2026/27 oedd £6.6 miliwn, ac mae buddsoddiad pellach gwerth £3.5 miliwn wedi ychwanegu'n sylweddol at hyn – gan ein galluogi ni i ychwanegu 28 o ffyrdd a 15 o lwybrau troed ychwanegol at y gwaith i'w wneud eleni.
“Byddwn ni hefyd yn ychwanegu dau gynllun newydd ar gyfer ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu – yn Aberaman a'r Gadlys. Bydd y rhain yn mynd i'r afael â strydoedd preifat sydd mewn cyflwr annerbyniol. Rydyn ni wedi cyflawni o leiaf 35 o gynlluniau o'r fath yma ers 2021. Yn olaf, mae cyllid ychwanegol gwerth £250,000 wedi'i ddyrannu ar gyfer cyllideb lliniaru llifogydd eleni, wrth i ni barhau i ddatblygu a chyflawni gwaith wedi'i dargedu yn ein cymunedau lleol ar gyfer lleoliadau sydd mewn perygl, gan ymateb i fygythiad newid yn yr hinsawdd.”
Dysgwch ragor am ein buddsoddiad parhaus mawr mewn Priffyrdd a Pheirianneg ar ein tudalennau gwe #TrawsnewidRhCT.
Wedi ei bostio ar 23/09/2026