Skip to main content

Adolygu sut y caiff e-feiciau ac e-sgwteri eu defnyddio mewn cymunedau lleol

e-scooter

Mae'r Cabinet wedi trafod adroddiad ar y cyfreithiau a chyfrifoldebau gorfodi ar gyfer defnyddio e-feiciau ac e-sgwteri – gan drafod pryderon y cyhoedd ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol, diogelwch, a defnydd anghyfreithlon yn ein cymunedau lleol.

Roedd yr Aelodau’n cytuno bod problemau lleol yn cael eu tan-adrodd yn sylweddol ac nad yw data digwyddiadau’n adlewyrchu’r sefyllfa bresennol – mae’n debyg oherwydd nad yw trigolion yn gwybod sut i roi gwybod am broblemau neu pwy y dylid rhoi gwybod iddyn nhw am broblemau. Cytunodd y Cabinet i'r Cyngor weithio gyda Heddlu De Cymru i gynnal ymgyrch ymwybyddiaeth, gan sicrhau bod trigolion yn gwybod am fecanweithiau adrodd yr heddlu, a'u hannog i ddechrau defnyddio'r rhain pan fydd digwyddiadau'n codi yn y dyfodol.

Bydd yr ymarfer hwn yn cynnwys yr holl Aelodau Etholedig fel cynrychiolwyr cymunedol, sy'n derbyn pryderon gan y cyhoedd yn rheolaidd. Bydd y broses yn llywio ac yn darparu tystiolaeth ar gyfer trafodaethau yn y dyfodol ynghylch a fyddai modd i'r Cyngor fabwysiadu ei bwerau ei hun i fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud ag e-feiciau ac e-sgwteri.

Trafododd y Cabinet yr adroddiad ddydd Llun, 15 Mehefin, mewn ymateb i Rybudd o Gynnig blaenorol a wnaed i'r Cyngor a oedd yn gofyn am asesiad o'r ddeddfwriaeth bresennol. Roedd yr adroddiad yn nodi bod cyfrifoldebau’r Cyngor yn y maes hwn yn deillio o’i Safonau Masnach – sef sicrhau bod cerbydau sy'n cael eu rhoi ar y farchnad yn ddiogel, gan ganolbwyntio ar y cynnyrch yn hytrach na'r person sy'n ei ddefnyddio.

Mae'r sefyllfa gyfreithiol bresennol yn nodi bod e-feic sy'n cydymffurfio yn gyfreithlon – gyda dyletswydd ar feicwyr i ymddwyn mewn modd diogel a chyfrifol, fel sydd wedi’i amlinellu yn Rheolau'r Ffordd Fawr. Mae pob e-sgwter sy'n eiddo preifat yn anghyfreithlon ar ffyrdd cyhoeddus, palmentydd a llwybrau beicio, a dim ond mewn treialon llogi cymeradwy y caniateir eu defnyddio.

Heddlu De Cymru, yn hytrach na'r Cyngor, sydd â'r cyfrifoldeb i fynd i'r afael â defnydd anghyfrifol neu anghyfreithlon o e-feiciau ac e-sgwteri. Mae deddfwriaeth berthnasol yn ymdrin ag ystod o droseddau y mae modd eu cosbi sy'n ymwneud â throseddau traffig ffyrdd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae fframwaith wedi'i sefydlu, ac mae gan yr Heddlu'r pwerau i'w gorfodi.

Partneriaethau presennol, cofnodi digwyddiadau, ac opsiynau ar gyfer y dyfodol 

Mae'r Cyngor yn rhan o Bartneriaeth Cymunedau Diogel RhCT – lle mae swyddogion yn gweithio gyda'r heddlu i leihau effaith ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn cymunedau. Mae'r gwaith yma'n ymdrin ag effaith cerbydau oddi ar y ffordd (beiciau cwad, beiciau modur, e-feiciau). Mae Grŵp Sefydliadol Cerbydau Oddi ar y Ffordd Morgannwg Ganol hefyd yn cwrdd bob deufis ac yn cael ei gadeirio gan Brif Arolygydd ar gyfer Cymunedau Diogel a Phartneriaethau Heddlu De Cymru.

Mae digwyddiadau neu gwynion sy'n ymwneud ag e-feiciau ac e-sgwteri yn cael eu cofnodi gan yr heddlu o dan ystod ehangach o gategorïau ymddygiad gwrthgymdeithasol. Does dim data penodol yn cael ei gofnodi ar gyfer e-feiciau nac e-sgwteri, gan fod digwyddiadau yn cael eu cynnwys mewn categori ymddygiad gwrthgymdeithasol ehangach 'sy'n gysylltiedig â'r ffordd' . O 1 Ebrill 2025 i 31 Mawrth 2026, dim ond 65 o ddigwyddiadau ymddygiad gwrthgymdeithasol 'sy'n gysylltiedig â'r ffordd' a gafodd eu cofnodi, sy'n cynrychioli llai nag 1% o gyfanswm y digwyddiadau ymddygiad gwrthgymdeithasol ar gyfer y flwyddyn gyfan.

Byddai gan opsiynau yn y dyfodol i'r bartneriaeth ddatblygu pwerau pellach drothwy uchel iawn ar gyfer tystiolaeth. Gyda dim ond 65 o ddigwyddiadau wedi'u cofnodi ar draws Rhondda Cynon Taf gyfan dros 12 mis, dydy tystiolaeth o'r fath ddim yn ddigonol ar hyn o bryd.

Gyda thystiolaeth, un opsiwn posibl fyddai mabwysiadu Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (PSPO). Mae modd defnyddio'r rhain ar gyfer ystod eang o faterion, a gall Awdurdodau Lleol roi eu gwaharddiadau eu hunain ar waith. Er mwyn cyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus, rhaid bod y Cyngor yn fodlon bod y gweithgaredd yn cael effaith andwyol ar ansawdd bywyd y sawl sy'n defnyddio man cyhoeddus, ac y byddai'r gweithgaredd yn debygol o barhau heb ymyrraeth. Opsiwn posibl arall yw is-ddeddf newydd. Byddai angen tystiolaeth gadarn ar Swyddogion o broblem sy'n benodol i safle, ac nad oes modd mynd i'r afael â'r gweithgaredd drwy ddeddfwriaeth arall.

Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Cymunedau, Diwylliant a Hamdden: "Mae'r cynnydd ym mhoblogrwydd e-feiciau ac e-sgwteri wedi arwain at nifer gynyddol o bryderon gan y cyhoedd am eu defnydd yn ein cymunedau, lle mae ymddygiad anghyfrifol neu beryglus yn rhoi pobl mewn perygl. Mae gan yr heddlu gyfrifoldeb i fynd i'r afael â'r mater yn ein cymunedau, gyda'r Cyngor yn chwarae rhan bwysig o ran gweithio mewn partneriaeth a rhannu gwybodaeth i helpu gweithgarwch gorfodi'r heddlu.

"Roedd cryfhau partneriaethau o'r fath wedi’i nodi’n argymhelliad yn yr adroddiad a gyflwynwyd i'r Cabinet ddydd Llun, ac er y cytunwyd ar hynny, roedd ymdeimlad cryf gan Aelodau bod angen gwneud rhagor. Cytunodd y Cabinet nad yw'r cyhoedd na'r Aelodau Etholedig yn glir ynghylch nifer o ffactorau - y rheolau ar gyfer e-feiciau ac e-sgwteri, pwy sy'n gyfrifol am orfodi, a sut i roi gwybod am ddigwyddiad. Roedd consensws rhwng yr Aelodau hefyd fod y 65 digwyddiad o ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig â'r ffordd a gafodd eu cofnodi ar draws Rhondda Cynon Taf dros gyfnod o flwyddyn gyfan yn tangynrychioli'n sylweddol y broblem sy'n cael ei hwynebu.

"Mae Aelodau wedi cytuno felly i'r Cyngor weithio gyda Heddlu De Cymru i gynnal ymgyrch ymwybyddiaeth, lle mae modd i ni ddeall yn well y problemau y mae'r cyhoedd yn eu hwynebu - a hefyd rhoi gwybod i drigolion fod modd iddyn nhw roi gwybod yn ffurfiol am broblem gydag e-feiciau ac e-sgwteri. Dros amser, mae'n debygol y bydd hyn yn cael yr effaith ganlyniadol o gynyddu nifer y digwyddiadau sy'n cael eu cofnodi, fel bod modd cymryd camau priodol i fynd i'r afael â phroblemau y mae ein cymunedau'n eu hwynebu. Os oes angen, gall y data newydd hwnnw ddarparu tystiolaeth ar gyfer unrhyw ystyriaethau ynglŷn â phwerau newydd a allai fod ar gael i'r Cyngor - megis Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus neu is-ddeddf. Bydd hyn yn destun trafodaeth yn y dyfodol unwaith y byddwn ni'n deall y darlun ehangach, a pha mor effeithiol yw'r ddeddfwriaeth bresennol wrth fynd i'r afael â'r broblem.

"Bydd Swyddogion yn mynd ati i weithio gyda'n partneriaid i gyflwyno'r ymgyrch ymwybyddiaeth sydd wedi'i chytuno gan y Cabinet. Bydd hyn yn cael ei hysbysebu'n gyhoeddus maes o law."

Wedi ei bostio ar 18/06/2026