Skip to main content

Cyn-filwyr o Rhondda Cynon Taf yn cael eu cydnabod yn rownd derfynol Gwobrau Cyn-filwyr Cymru

Welsh Veterans Awards Finalist Logo

Mae cyn-filwyr a sefydliadau o Rhondda Cynon Taf wedi cael eu cydnabod am eu cyfraniadau rhagorol i gymuned y Lluoedd Arfog ar ôl cyrraedd rhestr fer Gwobrau Cyn-filwyr Cymru 2026.

Bydd y gwobrau mawreddog yn cael eu cynnal ar 8 Gorffennaf yng Ngwesty 4* 'The Vale' a byddan nhw’n cael eu cyflwyno gan Polly James o Radio X. Bydd cyflawniadau cyn-filwyr, gwirfoddolwyr a sefydliadau ledled Cymru yn cael eu dathlu yn rhan o'r noson. 

Eleni, mae Rhondda Cynon Taf yn cael ei gynrychioli gan nifer o ymgeiswyr balch mewn chwe chategori:

  • Nigel Locke – Gwobrau Cymunedol
  • Nigel Locke – Codwr Arian y Flwyddyn i Elusen Filwrol
  • Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg (GIG Cymru i Gyn-filwyr) – Gwobr Iechyd a Lles
  • Grŵp Cyn-filwyr Cwm Cynon – Grŵp Cyn-filwyr y Flwyddyn
  • Phil Richards – Gwirfoddolwr y Flwyddyn
  • Liam O'Leary (Grŵp Cyn-filwyr Maerdy) – Gwirfoddolwr y Flwyddyn
  • Gareth Pennell – Cyflawniad Oes

Mae Gwobrau Cyn-filwyr Cymru yn cydnabod ymroddiad, gwydnwch ac effaith gadarnhaol cyn-filwyr a'r rhai sy'n eu cefnogi. Eleni yw'r flwyddyn lle bu'r nifer uchaf o geisiadau ar gyfer unrhyw un o'u gwobrau yn y DU.

Mae’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol o Rhondda Cynon Taf wedi cael eu cydnabod am ystod eang o waith, gan gynnwys cefnogi cyn-filwyr eraill, codi arian ar gyfer achosion pwysig, a helpu i wella gwasanaethau iechyd a lles ar gyfer cymuned y Lluoedd Arfog.

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber BEM, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog: “Rydyn ni'n hynod falch o weld cynifer o unigolion a sefydliadau Rhondda Cynon Taf yn cael eu cydnabod ar lefel genedlaethol yn rhan o Wobrau mawreddog Cyn-filwyr Cymru. Mae'r cyflawniad gwych yma'n cyfleu cryfder, ymroddiad ac ysbryd cymunedol ein rhwydwaith Lluoedd Arfog lleol.

“Mae’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol eleni yn tynnu sylw at y gwaith gwerthfawr sy’n cael ei wneud i gefnogi cyn-filwyr a’u teuluoedd ledled y Fwrdeistref Sirol. Hoffwn ddymuno’r gorau i bob un sydd wedi cyrraedd rownd derfynol y seremoni wobrwyo sy'n cael ei chynnal ym mis Gorffennaf.”

Cafodd Gwobrau Cyn-filwyr Cymru eu sefydlu yn 2018 i ddathlu cyflawniadau cyn-filwyr, milwyr wrth gefn a phersonél y Lluoedd Arfog sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd. Cefnogir y gwobrau ledled y DU gan brif noddwr yr achlysur, Thales Group, gyda Sierra Nevada Mission Systems UK yn brif noddwr yng Nghymru, i gefnogi Cronfa Elusennol y Fyddin ac Elusen Morlu Brenhinol y Llynges Frenhinol.

Nod y gwobrau yw ysbrydoli'r rhai sy'n gadael y gwasanaeth ar hyn o bryd ac yn y dyfodol trwy arddangos cyflawniadau'r rhai sydd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol ym mywyd sifil.

Mae pawb a gyrhaeddodd y rhestr fer wedi cael gwahoddiad i achlysur cyflwyno tystysgrif a rhyngweithio arbennig  yng Nghaerdydd cyn y seremoni wobrwyo, gan roi cyfle iddyn nhw ddathlu eu cyflawniadau waeth beth fo'r canlyniadau terfynol. Mae modd gweld y rhestr lawn o'r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yma.

Dysgwch ragor: Gwobrau Cyn-filwyr Cymru - Gwobrau'r Cyn-filwyr

Mae Gwasanaeth Cyngor i Gyn-filwyr y Cyngor yn cynnig cymorth a chyngor penodol, diduedd am ddim i gyn-filwyr a'u teuluoedd.  I siarad â swyddogion ymroddedig yn gwbl gyfrinachol, ffoniwch 07747 485 619 (Dydd Llun i ddydd Gwener, 8.30am tan 5pm), neu e-bostiwch: GwasanaethiGynfilwyr@rctcbc.gov.uk

Os hoffech chi ddysgu rhagor am ymrwymiad ehangach y Cyngor i'r Lluoedd Arfog a chymuned y cyn-filwyr, ewch i: Cyfamod y Lluoedd Arfog Rhondda Cynon Taf

Wedi ei bostio ar 15/06/2026