Mae Cortile Coffee Ltd, busnes sydd wedi'i leoli ym Mhontypridd, wedi cael ei erlyn ar ôl iddyn nhw fethu ag arddangos Sgôr Hylendid Bwyd.
Yng Nghymru, mae gan gwsmeriaid hawl gyfreithiol i wybod sgôr hylendid bwyd pob caffi, bwyty, siop cludo bwyd (tecawê) neu fusnes lleol sy'n gwerthu bwyd. Mae methu ag arddangos yr wybodaeth yma yn anghyfreithlon a bydd yn arwain at roi Hysbysiad Cosb Benodedig gwerth £200 i'r busnes.
Yn dilyn archwiliad hylendid bwyd arferol, a gynhaliwyd gan Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Rhondda Cynon Taf, nodwyd bod perchennog Cortile Coffee Ltd, Mr Richard Metcalfe, wedi methu ag arddangos sgôr hylendid bwyd o 2. Rhoddodd y swyddogion wybod i Mr Metcalfe bod arddangos sticer sgôr hylendid bwyd yn ofyniad cyfreithiol, rhaid sicrhau bod modd i'r cyhoedd ei weld. Yna anfonwyd sticer sgôr hylendid bwyd newydd at y busnes, ond anwybyddodd Cortile Coffee Ltd y cyngor ac unwaith eto methodd ag arddangos y sgôr yma.
O ganlyniad i hyn, roedd yn rhaid i'r Cyngor gyflwyno Hysbysiad Cosb Benodedig o £200 i Mr Metcalfe. Fodd bynnag, ni chafodd y ddirwy ei thalu a chafodd y mater ei gyfeirio at y Llys am fethu ag arddangos sgôr hylendid bwyd.
Cafodd yr achos ei drafod yn Llys Ynadon Merthyr Tudful, nid oedd cynrychiolydd o'r busnes yn bresennol. Profwyd y mater a dyfarnwyd Mr Richard Metcalfe o Cortile Coffee Ltd yn euog o'r drosedd.
Cafodd Cortile Coffee Ltd ddirwy gwerth cyfanswm o £1,016 (mae hyn yn cynnwys y ddirwy a chostau cysylltiedig) a rhoddwyd dirwy ychwanegol gwerth £280 i Mr Richard Metcalfe, cyfarwyddwr y cwmni.
Meddai'r Cynghorydd Robert Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Cymunedau:
"Yma yng Nghymru, yn wahanol i'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr, rhaid i fusnesau arddangos sticer sgôr hylendid bwyd gwyrdd a du yn rhan o ofyniad cyfreithiol.
"Mae'r Cynllun Sgôr Hylendid Bwyd yn adnodd hanfodol ar gyfer sicrhau iechyd y cyhoedd ac mae'n rhoi cipolwg uniongyrchol i gwsmeriaid ar y safonau hylendid y tu ôl i ddrysau'r gegin."
“Yn eu tro, mae’r sgoriau’n caniatáu i drigolion ac ymwelwyr â Rhondda Cynon Taf wneud dewis gwybodus ynghylch ble maen nhw’n prynu eu bwyd.
“Mae ein swyddogion yn awyddus i weithio gyda busnesau lleol i gynnal a gwella safonau hylendid bwyd, ac mae’r mwyafrif helaeth ohonynt yn arddangos eu sgôr yn glir.
“Fodd bynnag, byddwn ni'n cymryd camau gorfodi yn erbyn busnesau sy’n ceisio cuddio eu sgoriau neu gamarwain y cyhoedd.
“Pe bai'r perchennog wedi arddangos ei sgôr hylendid bwyd yn glir, fyddai dim angen yr erlyniad yma.
“Gallen nhw fod wedi talu'r Hysbysiad Cosb Benodedig, yn hytrach na gorfod wynebu costau gwerth £1296.
Dylai'r achos diweddaraf yma atgoffa POB busnes bwyd yng Nghymru, gan gynnwys bwytai, siopau cludo bwyd, a masnachwyr symudol, fod yn rhaid iddynt:
- Arddangos eu sticer sgôr hylendid bwyd dilys ym mhob mynedfa sy'n cael ei ddefnyddio gan gwsmeriaid.
- Gwneud yn siŵr bod y sticer wedi'i osod mewn lle amlwg, hawdd ei ddarllen, cyn i'r cwsmer ddod i mewn i'r busnes.
- Rhannu manylion sgôr hylendid bwyd â chwsmeriaid ar lafar (e.e. dros y ffôn).
Bydd swyddogion Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor bob amser yn ceisio cefnogi busnesau cyn cymryd unrhyw gamau ac os oes angen mwy o gyngor ar fusnes neu os hoffech chi drefnu archwiliadau ail-sgorio, bydd y garfan yn hapus i'ch helpu. Fodd bynnag, mae'r gyfraith ynghylch arddangos y sgôr gyfredol yn parhau i fod yn ddiamod.
Am ragor o wybodaeth am ofynion hylendid bwyd yng Nghymru, ewch i wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yma: food.gov.uk/sgoriau.
Mae modd i chi ddod o hyd i sgoriau hylendid bwyd busnesau yn Rhondda Cynon Taf yma
I gael rhagor o wybodaeth am hylendid bwyd yn Rhondda Cynon Taf, ewch i https://www.rctcbc.gov.uk/hylendidbwyd.
Wedi ei bostio ar 11/03/2026