Dyma roi gwybod i drigolion y bydd y cynllun atgyweirio i'r bont ar yr A4059 ger Cwm-bach (gweler y llun) yn ailddechrau ddechrau mis Ebrill 2026, a bydd gwaith paratoi ac ymchwilio cychwynnol ar y gweill o'r wythnos hon. Bydd yr holl waith sy'n gofyn am gau ffordd yn cael ei gynnal yn y nos er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl.
Mae Pont Afon Cynon ar y darn o ffordd rhwng cylchfannau Cwm-bach ac Asda, sy'n croesi Afon Cynon a'r rheilffordd. Mae angen cynllun cynnal a chadw mawr, ac fe ddechreuodd y gwaith yma'r llynedd wrth i waith atgyweirio i'r blocfeini a'r sgwrfa gael ei gynnal. Cafodd y cynllun ei ymestyn wedi hynny i 2026 oherwydd cyfyngiadau o ran dylunio, iechyd a diogelwch, a mynediad.
Dyma roi gwybod i drigolion fod y contractwr Horan Construction Ltd wedi dechrau gwaith paratoi'r safle yn Ystad Ddiwydiannol Parc Aberaman yn ddiweddar ar 25 Mawrth, gyda'r ymchwiliad cychwynnol bellach ar y gweill. Bydd y prif atgyweiriadau i'r bont yn dechrau o ddydd Mawrth, 7 Ebrill, ac yn parhau drwy gydol y flwyddyn.
Bydd y cynllun yn cynnwys gosod berynnau ar draws y strwythur, cwblhau atgyweiriadau concrit i wynebau blaen yr ategweithiau a'r waliau balast, gosod uniadau symud newydd yn lle uniadau dec y bont, gosod rhan newydd o ganllaw sydd wedi'i difrodi, atgyweirio wal gerrig, gwaith paentio cynnal a chadw, ac atgyweirio'r llwybr troed o dan y bont. Bydd y gwaith canlynol yn cael ei gynnal ddechrau mis Ebrill:
- Tyllau prawf a chludo nwyddau i'r safle (8pm-6am ddydd Mawrth, 7 Ebrill, a dydd Mercher, 8 Ebrill) - bydd angen goleuadau traffig dwyffordd ar y bont.
- Cau'r hawl tramwy cyhoeddus o dan y bont dros dro o ddydd Iau, 9 Ebrill. Bydd hyn yn parhau trwy gydol y cynllun atgyweirio ehangach, er mwyn sicrhau diogelwch y gweithlu a'r cyhoedd.
Bydd y prif gynllun atgyweirio yn dilyn y gwaith cychwynnol hwn. Mae'r rhaglen wedi'i hamlinellu'n fras isod, er ei bod yn destun newid yn seiliedig ar nifer o ffactorau sy'n cynnwys amodau tywydd gwael a materion annisgwyl. Bydd yr holl waith sy'n gofyn am gau ffordd yn cael ei gynnal yn y nos er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar ddefnyddwyr y ffordd:
- Codi'r bont i alluogi gwaith gosod berynnau newydd, sy'n gofyn am gau'r ffordd gyda’r nos. Ar ôl ei gwblhau, bydd angen cau’r ffordd eto i ostwng y bont (i'w ddisgwyl yn y gwanwyn, 2026).
- Bydd ailosod uniadau ymestyn y bont yn gofyn am gau'r ffordd yn llawn (i'w ddisgwyl yn yr haf, 2026).
- Bydd cael gwared ar sgaffaldiau ar y bont yn gofyn am gau'r ffordd yn llawn (i'w ddisgwyl yn yr hydref, 2026).
Bydd y Cyngor yn cyfathrebu'r holl drefniadau yn ymwneud â'r holl waith allweddol yma, gan gynnwys y mesurau rheoli traffig angenrheidiol, unwaith y byddan nhw wedi'u cwblhau.
Wedi ei bostio ar 27/03/2026