Skip to main content

Cau lôn er mwyn ailddatblygu safle Marks & Spencer yn effeithio ar fynediad i'r parc

M&S bridge grid - Copy

Oherwydd gwaith sydd ar ddod yn rhan o ailddatblygu hen safle Marks & Spencer ym Mhontypridd, mae rhaid cau'r lôn wrth ei ymyl dros dro. Mae'r gwaith hanfodol yma'n golygu fydd dim modd mynd i Barc Coffa Ynysangharad ar hyd pont droed Marks & Spencer am 3 wythnos, o 10 Ebrill ymlaen.

Dechreuodd y gwaith ailddatblygu ar safle Marks & Spencer/Dorothy Perkins yn Stryd y Taf y llynedd, ac yn unol â'r amserlen, dylai'r contractwr Horan Construction Ltd gwblhau'r gwaith erbyn diwedd y gwanwyn eleni. Bydd prosiect 'plaza glan-yr-afon' yn creu man cyhoeddus croesawgar, gyda choed a phlanhigion, siopau bwyd a diod bach, a golygfeydd o'r Afon Taf.

Gan fod y gwaith ar safle Marks & Spencer bron â'i gwblhau, mae angen mynediad i'r lôn gerllaw'r safle er mwyn cynnal gwaith gwella hanfodol, gan gynnwys gosod wyneb newydd. Mae hyn yn golygu bydd raid cau'r lôn o ddydd Gwener 10 Ebrill tan ddydd Gwener 1 Mai. Mae'r Cyngor yn rhoi rhybudd ymlaen llaw o hyn, oherwydd bydd angen rhoi'r gorau i ddefnyddio pont Marks & Spencer am y tro.

Sylwch, bydd Parc Coffa Ynysangharad ar agor o hyd yn ystod ei oriau tymhorol arferol, ac mae 3 mynedfa arall i'r parc i ymwelwyr. Mae'r rhain wrth y prif gatiau oddi ar Stryd y Bont, ar hyd pont Llys Cadwyn ger Maes Parcio'r Weithfa Nwy, ac ar hyd llwybr Taith Taf ger y caeau pêl-droed.

Bydd swyddogion y Cyngor yn gosod arwyddion rhybudd ymlaen llaw wrth bont Marks & Spencer i roi cymaint o rybudd â phosibl i'r rheiny sy'n defnyddio'r parc ac yn ymweld â chanol y dref. Bydd y Cyngor hefyd yn cydweithio'n agos â threfnwyr unrhyw achlysuron lleol yn yr wythnosau nesaf. Fydd y gwaith yma ddim yn effeithio ar y Parkrun bob bore Sadwrn na thymor Lido Ponty. Hefyd, fydd dim effaith ar fusnesau canol y dref a byddan nhw ar agor yn ôl yr arfer.

Sylwch hefyd bydd modd defnyddio cilfachau parcio'r Cyngor ar gyfer pobl anabl yn y parc o hyd yn ystod y cyfnod pan fydd y bont ar gau. Diolch ymlaen llaw i drigolion ac ymwelwyr am eu cydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 31/03/2026