Dyma roi gwybod y bydd gofyn cau Ffordd Mynydd Llanwynno o fore Mawrth tan nos Wener (16-19 Mehefin) er mwyn gwneud atgyweiriadau brys iddi.
Bydd y ffordd yn cael ei chau rhwng Heol Blaenllechau / Stryd y Fasnach yng Nghwm Rhondda Fach hyd at bwynt ger Eglwys Gwynno Sant a thafarn y Brynfynnon yn Llanwynno – fel sy'n cael ei ddangos ar y map.
Yn sgil cau'r ffordd, bydd modd gwneud atgyweiriadau iddi mewn modd diogel – bydd y gwaith yn dechrau am 8am ddydd Mawrth 16 Mehefin ac yn dod i ben erbyn diwedd dydd Gwener, 19 Mehefin. Bydd y llwybr ar gau yn ystod y dydd a'r nos ar gyfer y pedwar diwrnod o waith.
Mae modd i yrwyr ddefnyddio llwybr amgen o dafarn y Brynfynnon i Heol Llanwynno, Trem Hyfryd, Heol-Y-Mynach, Heol Clydach, Teras Clydach, Heol Newydd, Heol Ynysybwl, Heol Berw, Heol Gelliwastad, Stryd y Santes Catrin, yr A4058, yr A4233 i ardal Glynrhedynog, Heol yr Orsaf a Stryd y Fasnach. Mae'r llwybr yma hefyd wedi'i ddangos ar y map yn y ddolen uchod.
Bydd mynediad ar gael o hyd ar gyfer cerbydau’r gwasanaethau brys ac at eiddo, gan gynnwys eiddo preswyl ar Heol Blaenllechau.
Diolch ymlaen llaw i gymunedau lleol a defnyddwyr y ffordd am eich cydweithrediad.
Wedi ei bostio ar 12/06/2026