Mae Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn falch o gyhoeddi ei bod wedi cael ei chydnabod â gwobr fawreddog Tripadvisor Travellers' Choice Award 2026, gan ei gosod ymhlith yr atyniadau i ymwelwyr sydd â'r sgôr uchaf ledled y byd yn seiliedig ar adolygiadau a sgoriau rhagorol yn gyson gan ymwelwyr.
Mae'r wobr yn dathlu busnesau sy'n darparu profiadau rhagorol, gydag Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn derbyn canmoliaeth uchel am ei dehongliad deniadol o dreftadaeth lofaol Cymru, ei thaith danddaearol unigryw, ei gweithgareddau sy'n addas i deuluoedd, a'i chroeso cynnes i bob ymwelydd.
Wedi'i lleoli yng nghanol Cymoedd De Cymru, mae'r amgueddfa'n cynnig cipolwg unigryw ar hanes y diwydiant glo a luniodd y rhanbarth. Mae modd i ymwelwyr fwynhau ystod eang o brofiadau, gan gynnwys Taith yr Aur Du, sy'n mynd â gwesteion yn ddwfn i stori bywyd fel glöwr, dan arweiniad cyn-lowyr gwybodus sy'n dod â'r gorffennol yn fyw.
Yn ogystal â'i theithiau sy’n cynnig profiad i ymgolli ynddo, mae Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn cynnwys:
- Arddangosfeydd rhyngweithiol yn edrych ar hanes cymdeithasol a diwydiannol Cymoedd y Rhondda
- Siop anrhegion Cymreig gyda chrefftau a chynnyrch lleol
- Caffi ar y safle sy'n cynnig detholiad o luniaeth a seigiau wedi'u hysbrydoli'n lleol
- Profiadau grŵp gan gynnwys Arian, Glo ac Iechyd Da – cynnig gwych i deithiau grŵp lle caiff ymwelwyr fynd ar deithiau yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda, Profiad y Bathdy Brenhinol a Distyllfa Castell Hensol.
- Cynnig addysg gwych lle mae modd i ysgolion brofi ystod eang o weithgareddau sy'n cysylltu â'r cwricwlwm.
- Calendr blynyddol o achlysuron gan gynnwys Achlysur Ŵy-a-sbri , Sioe Ceir Clasur, Rhialtwch Calan Gaeaf ac Ogof Siôn Corn, sy'n hynod boblogaidd!
Mae'r atyniad yn parhau i esblygu, gan gynnal achlysuron, sesiynau ymchwil hanes lleol, a dathliadau diwylliannol yn rheolaidd sy'n apelio at ymwelwyr o bob oed.
Meddai'r Cynghorydd Scott Emanuel, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Cymunedau, Diwylliant a Hamdden:
Mae Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn llawn haeddu ennill gwobr Tripadvisor Travellers’ Choice Award 2026. Mae'r gydnabyddiaeth hon yn arbennig o ystyrlon gan ei bod yn adlewyrchu adborth a chefnogaeth ymwelwyr â'r Amgueddfa a Rhondda Cynon Taf. Mae'r tîm yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn angerddol dros warchod a rhannu treftadaeth gyfoethog Cymoedd y Rhondda, ac yn ymdrechu'n gyson i greu profiad deniadol a chofiadwy i bawb sy'n ymweld. Rydyn ni'n edrych ymlaen at groesawu gwesteion newydd a rhai sy'n dychwelyd drwy gydol y flwyddyn.
Mae gwobrau 'Travellers’ Choice Awards' yn anrhydeddu cyrchfannau ac atyniadau sy'n dangos ymrwymiad i ragoriaeth yn gyson, gan roi Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn gadarn ar y map fel un o'r safleoedd treftadaeth y mae'n rhaid ymweld â nhw yng Nghymru.
Am ragor o wybodaeth, oriau agor, ac i gynllunio eich ymweliad, ewch i www.parctreftadaethcwmrhondda.com
Wedi ei bostio ar 11/06/2026