‘Yn ystod cyfnodau anoddach maethu, yr hyn sydd wedi ein cadw ni’n frwdfrydig yw gweld y gwahaniaeth rydyn ni’n ei wneud i’w bywydau.’
Gofalwyr maeth yn Rhondda Cynon Tafyn rhannu’r eiliadau hynny sy’n dangos datblygiad ar gyfer Pythefnos Gofal Maeth.
Y tro cyntaf i blentyn chwerthin, trafod ei ddiwrnod, gofyn i wylio ffilm; mae'r rhain yn eiliadau y gallai llawer eu cymryd yn ganiataol, ond i ofalwyr maeth yng Nghymru, maent yn symbol o un peth, sef datblygiad.
Mae plant sydd wedi profi trawma yn aml yn datblygu ffyrdd o amddiffyn eu hunain. Gallai hyn gynnwys ymddygiadau fel pryder, tynnu yn ôl yn emosiynol, ymateb mewn ffordd ddwys neu ei chael hi’n anodd dilyn rheolau.
Mae arolwg cenedlaethol a gomisiynwyd gan Maethu Cymru wedi darganfod bod tua 80% o ofalwyr a holwyd wedi cefnogi plant wnaeth arddangos ymddygiadau fel hyn. Er y gall yr heriau hyn fod yn anodd, dywedodd hanner y gofalwyr maeth a holwyd hefyd eu bod wedi sylwi ar ddatblygiadau ystyrlon o fewn y chwe mis cyntaf.
Rhannodd gofalwyr maeth fod yr eiliadau arloesol hyn yn aml yn ymwneud â’r cyfnodau bach o gysylltiad, ond maent yn cynrychioli mwy na hynny: i blant mewn gofal, mae'n golygu eu bod wedi gwneud cynnydd, eu bod wedi dechrau teimlo'n ddiogel, eu bod wedi dechrau gwella, teimlo eu bod yn cael eu caru a’u cefnogi wedi trawma plentyndod.
O ganlyniad i brofiad, cefnogaeth ac arweiniad proffesiynol, dywedodd bron pob gofalwr (93%) eu bod bellach yn hyderus wrth ymateb i ymddygiad sy'n gysylltiedig â thrawma.
Caiff y canfyddiadau hyn eu rhyddhau cyn Pythefnos Gofal Maeth, ymgyrch flynyddol fwyaf y DU sy'n digwydd bob mis Mai i godi ymwybyddiaeth o faethu. Mae thema eleni, Dyma yw Maethu, yn amlygu profiadau go iawn gofalwyr maeth a'r rôl hanfodol y maent yn ei chwarae wrth helpu plant i deimlo'n ddiogel.
Mae Katie Bounds o Rhondda Cynon Taf yn un o 120 o ofalwyr maeth a ymatebodd i arolwg Maethu Cymru.
Mae Katie wedi bod yn maethu ers dros 10 mlynedd ac mae ganddi gyfoeth o brofiad a gwybodaeth o ran delio â gwahanol sefyllfaoedd ac ymddygiadau.
“Mae’r ysgol wedi bod yn her fawr gan nad yw’n addas i bob plentyn ac nid yw o reidrwydd yn diwallu eu galluoedd gorau. Mae ein plant yn casáu amseroedd gwely gan eu bod yn gwybod beth sydd i ddod y diwrnod canlynol, ac yna maent yn gwrthod codi. Mae’u gwisgo a gadael drwy’r drws yn dasg enfawr ac yn emosiynol flinedig i bob un ohonom.
"I’w helpu i deimlo’n ddiogel ac yn dawel eu meddwl, rydym yn gwneud ein gorau glas i ddangos amynedd, dealltwriaeth a chysur. Mae angen iddynt wybod ei bod yn normal cael teimladau negyddol am yr ysgol. Mae cyfathrebu â’r ysgol a sicrhau eu bod yn parhau i helpu ac y gall eu hathrawon roi cymorth iddynt yn bwysig. Rydym yn rhoi pethau bychain iddynt edrych ymlaen atynt os ydynt yn llwyddo i ymdopi â diwrnod/wythnos ac ati, ac rydym yn cadw at derfynau.
"Yn ystod y cyfnodau anoddach o faethu, yr hyn sydd wedi’n cadw’n llawn cymhelliant yw gweld y gwahaniaeth rydym yn ei wneud i’w bywydau. Mae’r cyflawniadau y maent yn eu hennill yn yr ysgol wedi bod yn ffordd wych o ddathlu gyda nhw a meithrin eu hyder. Y peth mwyaf sydd wedi meithrin ein hyder ein hunain yw cael system gymorth mor anhygoel o’n cwmpas."
Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf sy'n gyfrifol am Ofal Maeth: “Mae Pythefnos Gofal Maeth yn gyfle i ni ddathlu’r dynion a’r menywod anhygoel ledled ein bwrdeistref sirol sy’n darparu’r gofal lleol gorau i blant lleol.
“Mae hefyd yn rhoi’r cyfle inni dynnu sylw at bwysigrwydd Gofal Maeth ac annog hyd yn oed rhagor o bobl yn Rhondda Cynon Taf i ystyried maethu – neu o leiaf i ddysgu rhagor am y nifer o wahanol ffyrdd y gallan nhw gymryd rhan!
“Ar gyfer Pythefnos Gofal Maeth 2026, mae gofalwyr Maethu Cymru RhCT wedi bod yn rhannu’r adegau pwysig maen nhw wedi’u rhannu gyda phlentyn neu berson ifanc yn eu gofal. Gallai hyn fod yn chwerthin ar y cyd wrth glywed jôc, sgwrs ar ôl ysgol wrth fwrdd y gegin neu dderbyn y gwahoddiad i ymuno â noson ffilmiau’r teulu. Mae’r momentau bach yma'n sbardunoysylltiad a'r posibilrwydd o feithrin perthynas ystyrlon gyda'r plentyn neu'r person ifanc maen nhw'n gofalu amdano, ac mae’r rhyngweithiadau yma’n eu hatgoffa unwaith eto o ba mor bwysig yw maethu a bod yn ofalwr.”
I gael gwybod mwy am ddod yn ofalwr maeth yng Nghymru, ewch i fosterwales.llyw.cymru
Y Pythefnos Gofal Maeth hwn, gallwch gwrdd â’ch tîm Maethu Cymru lleol yn:
- Pontypridd Parkrun, Dydd Sadwrn 16eg Mai, 9am
- Llyfrgell Abercynon, Dydd Mawrth 19eg Mai, 2-5pm
- Aberdare Festival, Dydd Sadwrn 23ain Mai, 11-5pm
Wedi ei bostio ar 12/05/2026