Skip to main content

Diweddariad ynghylch adeiladu rhan olaf Llwybr Teithio Llesol Cwm Rhondda Fach

Rhondda Fach Active Travel 2 - Copy

Mae'r Cyngor wedi darparu'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd cam olaf Llwybr Teithio Llesol Cwm Rhondda Fach rhwng Glynrhedynog a Tylorstown, wrth i'r gwaith adeiladu ar y prif lwybr gyrraedd ei gamau olaf.

Bydd y prosiect yn darparu llwybr cerdded a beicio pwrpasol a fydd yn ymestyn dros 10 cilomedr o’r Maerdy i Tylorstown – buddsoddiad mawr gyda Llywodraeth Cymru dros nifer o flynyddoedd.

Mae'r prosiect wedi'i rannu'n bum cam adeiladu, gyda cham olaf y prif lwybr yn cael ei adeiladu ar hyn o bryd rhwng Canolfan Hamdden Rhondda Fach yng Nglynrhedynog a throsbont Stanleytown.

Mae'r gwaith yn parhau i fynd rhagddo'n dda ar y safle. Mae disgwyl i waith allweddol fel gosod wyneb ar y llwybr a gosod ffensys perimedr gael ei gwblhau yr wythnos nesaf (wythnos yn dechrau ar 18 Mai). Yn fuan wedyn, bydd y cyswllt newydd â Chanolfan Chwaraeon Rhondda Fach yn cael ei gwblhau.

Yna bydd y prif lwybr a'r cyswllt â'r ganolfan chwaraeon yn cael eu hagor gyda'i gilydd, ac ar hyn o bryd mae disgwyl i hynny ddigwydd erbyn diwedd mis Mai 2026. Cadwch lygad allan am gyhoeddiad gan y Cyngor yn cadarnhau'r trefniadau agor. Nodwch, hyd nes y byddwn ni’n cyhoeddi’r diweddariad yma yn y dyfodol, fod rhan olaf y llwybr cyffredinol yn parhau i fod ar gau – ddylai'r trigolion ddim ceisio cael mynediad iddo ar sail diogelwch.

Bydd rhan bresennol y llwybr ar gau am ddau ddiwrnod hefyd (cam pedwar), wrth y cyfleuster BMX yng Nglynrhedynog, ger Heol yr Orsaf/Stryd y Taf. Bydd hyn yn hanfodol er mwyn ymgymryd â gwaith adfer. Bydd y Cyngor yn cyhoeddi trefniadau ar gyfer hyn maes o law. Oherwydd gwaith angenrheidiol i'r cwlfer, bydd y cyswllt â Meddygfa Tylorstown yn parhau i fod ar gau tan ddiwedd mis Gorffennaf.

Mae'r buddsoddiad yma wedi bod yn bosibl diolch i gefnogaeth gan Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru dros nifer o flynyddoedd.

Hoffen ni ddiolch i'r gymuned am ei chydweithrediad parhaus.

Wedi ei bostio ar 13/05/2026