Skip to main content

Disgwyl i Ddeddfau Tybaco a Fêps Newydd Ddiogelu Cenedlaethau'r Dyfodol yn Rhondda Cynon Taf

Mae busnesau a thrigolion ledled Rhondda Cynon Taf yn cael eu hannog i fod yn ymwybodol a pharatoi ar gyfer newidiadau pwysig i gyfreithiau tybaco a fepio sy'n anelu at amddiffyn plant a phobl ifainc rhag bod yn gaeth i nicotin a'r niweidiau hirdymor sy'n gysylltiedig ag ysmygu.

Mae'r mesurau newydd, a gyflwynwyd drwy Ddeddf Tybaco a Fêps 2026, yn cael eu cyflwyno fesul cam, gyda'r cyntaf yn dod i rym fis diwethaf (o 29 Hydref 2026) ac yna o 1 Ionawr 2027, gan gyflwyno cyfyngiadau llymach ar werthiant cynhyrchion tybaco, fepio a nicotin, ochr yn ochr â phwerau gorfodi cryfach i awdurdodau lleol a charfanau Safonau Masnach.

Mae'r ddeddfwriaeth yn rhan o ymdrech ehangach i greu cenhedlaeth ddi-fwg drwy atal plant a phobl ifainc rhag cael mynediad at gynhyrchion tybaco a nicotin.

Ers 29 Hydref 2026, daeth yn anghyfreithlon gwerthu cynhyrchion fepio neu nicotin i unrhyw un o dan 18 oed. Mae troseddau newydd sy'n ymwneud â phrynu nwyddau newydd, rhoddion hyrwyddo a gostyngiadau sylweddol hefyd wedi'u cyflwyno, tra na chaniateir i beiriannau gwerthu werthu cynhyrchion tybaco, fepio na nicotin yn uniongyrchol mwyach.

O 1 Ionawr 2027 ymlaen, bydd manwerthwyr yn cael eu gwahardd rhag gwerthu cynhyrchion tybaco, cynhyrchion ysmygu llysieuol neu bapurau sigaréts i unrhyw un a aned ar neu ar ôl 1 Ionawr 2009.

Mae'n ofynnol i fusnesau sy'n gwerthu cynhyrchion tybaco yng Nghymru arddangos hysbysiad dwyieithog yn y Gymraeg a'r Saesneg yn amlwg ym mhob man gwerthu.

Yn aml gofynnir i'r Cyngor pa bwerau sydd ganddo i reoleiddio siopau fêps ac i fynd i'r afael â phryderon ynghylch gwerthu cynhyrchion fepio.

Er bod gan awdurdodau lleol bwerau eisoes i ymchwilio i werthiannau i blant dan oed ac i fynd i'r afael â chynhyrchion tybaco a fepio anghyfreithlon, nid oes gofyniad i siopau fêps ddal trwydded cyn agor ar hyn o bryd.

Mae'r ddeddfwriaeth newydd yn cryfhau'r fframwaith sydd ar gael i wasanaethau Safonau Masnach drwy gyflwyno troseddau ychwanegol, hysbysiadau cosb sefydlog a mesurau gorfodi llymach ar gyfer busnesau sy'n methu â chyflawni eu cyfrifoldebau. Mae hefyd yn darparu adnoddau newydd i helpu i atal cynhyrchion tybaco a nicotin rhag cyrraedd plant a phobl ifainc.

Ysmygu yw un o brif achosion salwch y mae modd ei atal a marwolaethau cynamserol yng Nghymru o hyd ac mae'n parhau i roi pwysau sylweddol ar wasanaethau iechyd a chymunedau. Mae'r rhan fwyaf o ysmygwyr yn dechrau ysmygu cyn dod yn oedolion, gan wneud mesurau sy'n atal pobl ifainc rhag dechrau ysmygu yn y lle cyntaf yn arbennig o bwysig.

Mae'r ddeddfwriaeth newydd wedi'i chynllunio i leihau nifer y plant a phobl ifainc sy'n dechrau ysmygu neu'n dod yn gaeth i nicotin, gan helpu i wella deilliannau iechyd a lleihau niwed sy'n gysylltiedig ag ysmygu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Drwy gyfyngu ar fynediad at gynhyrchion tybaco a nicotin a chryfhau mesurau gorfodi, bydd y ddeddfwriaeth yn cefnogi ymdrechion ehangach i wella iechyd y cyhoedd a lleihau anghydraddoldebau iechyd ledled Cymru.

Mae carfan Safonau Masnach Cyngor RhCT eisoes yn cynnal ymarferion prynu prawf rheolaidd ledled y Fwrdeistref Sirol i helpu i sicrhau bod busnesau'n cydymffurfio â deddfau gwerthu sydd â chyfyngiadau oedran ac i atal cynhyrchion tybaco, fepio a nicotin rhag cael eu gwerthu i blant a phobl ifainc.

Mae'r ymarferion yma'n rhan o weithgarwch gorfodi ehangach i fynd i'r afael â gwerthiannau anghyfreithlon, amddiffyn cymunedau a chefnogi busnesau lleol cyfrifol. Mae swyddogion Safonau Masnach yn parhau i weithio gydag asiantaethau partner i nodi ac ymchwilio i fusnesau sy'n ymwneud â gwerthu cynhyrchion tybaco a fepio yn anghyfreithlon ledled Rhondda Cynon Taf. Mae gwybodaeth o weithgarwch gorfodi diweddar y Cyngor yn tynnu sylw at sut y gall gwerthiannau tybaco a fêps anghyfreithlon ei gwneud hi'n haws i bobl ifainc gael mynediad at gynhyrchion niweidiol a thanseilio ymdrechion gan ysmygwyr i roi'r gorau iddi.

Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau: 

"Mae'r cyfreithiau newydd yma'n ymwneud â diogelu plant a phobl ifainc a helpu i greu dyfodol iachach i'r genhedlaeth nesaf.

"Rydyn ni'n gwybod mai ysmygu yw un o brif achosion salwch y mae modd ei atal a marwolaeth gynamserol yng Nghymru o hyd, a bod llawer o ysmygwyr yn dechrau'r arfer yn ifanc. Atal mynediad at gynhyrchion tybaco a nicotin yn y lle cyntaf yw un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o leihau niwed sy'n gysylltiedig ag ysmygu yn y dyfodol.

"Mae trigolion yn aml yn gofyn pam y gall siopau fêps agor heb drwydded a pha bwerau sydd gan Gynghorau i'w rheoleiddio. Er bod gan Safonau Masnach rôl bwysig eisoes wrth orfodi deddfau gwerthu sydd â chyfyngiadau oedran ac wrth fynd i'r afael â chynhyrchion anghyfreithlon, mae'r mesurau newydd yma'n cryfhau'r ddeddfwriaeth sydd ar gael i ni ac yn darparu opsiynau gorfodi ychwanegol lle mae busnesau'n methu â chyflawni eu cyfrifoldebau.

"Mae ein carfan Safonau Masnach eisoes yn cynnal ymarferion prynu prawf rheolaidd ledled Rhondda Cynon Taf a bydd yn parhau i weithio'n agos gyda manwerthwyr i gefnogi cydymffurfiaeth â'r ddeddfwriaeth newydd."

"Mae'r mwyafrif helaeth o fusnesau'n gweithredu'n gyfrifol, ond lle mae rheolau a gynlluniwyd i amddiffyn pobl ifainc yn cael eu hanwybyddu, fyddwn ni ddim yn oedi cyn cymryd camau gorfodi priodol."

"Gall gwerthiant tybaco a fêps anghyfreithlon ei gwneud hi'n haws i bobl ifainc gael mynediad at gynhyrchion niweidiol, tanseilio busnesau lleol cyfreithlon ac yn aml maen nhw'n gysylltiedig â gweithgaredd troseddol ehangach." Dyna pam mae mynd i'r afael â'r materion yma'n parhau i fod yn flaenoriaeth hynod bwysig.

"Mae gan bawb rôl i'w chwarae wrth amddiffyn pobl ifainc rhag y niwed sy'n gysylltiedig ag ysmygu a dibyniaeth ar nicotin. Drwy leihau mynediad at gynhyrchion tybaco, fepio a nicotin ymhlith plant a phobl ifainc, mae gan y newidiadau yma'r potensial i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i iechyd y cyhoedd am genedlaethau i ddod.

Caiff busnesau sy'n gwerthu cynhyrchion tybaco, fepio neu nicotin eu hannog i adolygu eu gweithdrefnau, y ddeddfwriaeth newydd ac ymgyfarwyddo â'r canllawiau manwl a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys gwybodaeth am gyfyngiadau oedran, hysbysiadau cosb sefydlog, gofynion arwyddion a chyfyngiadau ar beiriannau gwerthu.

Mae swyddogion Safonau Masnach yn parhau i weithio gydag asiantaethau partner i nodi ac ymchwilio i fusnesau sy'n ymwneud â gwerthu cynhyrchion tybaco a fepio yn anghyfreithlon ledled Rhondda Cynon Taf.

Rydyn ni'n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am werthu tybaco, sigaréts neu fêps anghyfreithlon i roi gwybod amdanyn nhw drwy ffurflen ar-lein y Cyngor ar gyfer Gweithgarwch Anghyfreithlon.

Mae modd i drigolion hefyd roi gwybod am bryderon yn ddienw drwy borth adrodd ASH Cymru Dim Esgus, Byth.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: www.rctcbc.gov.uk/SafonauMasnach  

Gellir hefyd roi gwybod am broblemau i'r gwasanaeth Safonau Masnach lleol drwy:

Drwy gydweithio, gall busnesau, trigolion, Safonau Masnach ac asiantaethau partner helpu i atal gwerthiannau anghyfreithlon, amddiffyn pobl ifainc rhag cael mynediad at gynhyrchion sydd â chyfyngiad oedran a gwella iechyd y cyhoedd ledled Rhondda Cynon Taf.

Wedi ei bostio ar 11/11/2026