Skip to main content

Cymuned yn nodi Canmlwyddiant Cofeb Ryfel Penrhiwceiber a Matthewstown

Cafodd achlysur dan arweiniad y gymuned ei gynnal ddydd Sul, 18 Hydref, er mwyn coffáu 100 mlynedd ers dadorchuddio Cofeb Ryfel Penrhiwceiber a Matthewstown.

Cafodd ei drefnu gan Valleys Re-Told a Phwyllgor Cadoediad Penrhiwceiber, gan ddod â chenedlaethau'r gymuned ynghyd ger y gofeb, sydd wedi bod yn fan cofio lleol ers canrif. Roedd y Cyngor wedi cynorthwyo'r achlysur gyda'r trefniadau gan gynnwys cau ffyrdd, a darparu offer sain a  chymorth cyntaf.

Roedd nifer o unigolion uchel eu parch wedi mynychu'r achlysur, gan gynnwys Arglwydd Raglaw Morgannwg Ganol, Peter Vaughan QPM CStJ, yn cynrychioli Ei Fawrhydi y Brenin, ochr yn ochr â'r Cynghorydd Ann Crimmings, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf; y Cynghorydd Maureen Webber BEM, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog; Jamie Ireland, Swyddog Cyswllt Lluoedd Arfog y Cyngor, a chynrychiolwyr etholedig lleol ac arweinwyr cymunedol.

Roedd y gwasanaeth coffa yn cynnwys gosod torchau, areithiau, perfformiadau cerddorol a chyfle i fyfyrio.  Cafodd arlwy gerddorol ei darparu gan ensemble bach o Fand y Cymry Brenhinol, corau ysgol o Ysgolion Cynradd Penrhiwceiber a Phengeulan, a chantorion Clwb Rygbi Aberpennar.

Darllenodd disgyblion o'r ddwy ysgol enwau'r 146 o ddynion a bechgyn lleol sy'n cael eu coffáu ar y gofeb, gan greu cysylltiad nodedig rhwng y genhedlaeth bresennol a'r rhai a wnaeth yr aberth eithaf yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Cafodd ymchwil i hanes y gofeb ei rannu yn yr achlysur hefyd. Bu aelodau Valleys Re-Told yn gweithio gydag Amgueddfa Cwm Cynon i gael mynediad at lyfr cofnodion gwreiddiol Pwyllgor y Gofeb Ryfel er mwyn ei drawsgrifio. Mae'r llyfr yn cofnodi datblygiad y gofeb o'r cynlluniau cyntaf hyd at ei chwblhau.

Wedi'i chwblhau ym 1926 a'i hariannu gan roddion gan y gymuned leol, adeiladwyd y gofeb restredig Gradd II gan ddefnyddio carreg o hen Gamlas Aberdâr.  Mae tŵr y cloc yn cynnwys plac sy'n coffáu pobl leol a gollodd eu bywydau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gyda phlaciau pellach wedi cael eu hychwanegu'n ddiweddarach er cof am y rhai a fu farw yn ystod yr Ail Ryfel Byd a Rhyfel Corea.

Mae'r Cyngor wedi cynorthwyo â rhaglen adfer helaeth ar gyfer y gofeb yn flaenorol, gan gynnwys glanhau'r strwythur a'i baneli pres sydd wedi'u hysgythru, adfer y pedwar wyneb cloc ac atgyweirio'r goleuadau o'i gwmpas.

Meddai'r Uwchgapten Huw Williams MBE DL o Valleys Re-Told a Phwyllgor Cadoediad Penrhiwceiber: “Mae wedi bod yn anrhydedd gweithio gyda grŵp mor ymroddedig o bobl sy'n canolbwyntio ar gofio'r dynion o Benrhiwceiber a Matthewstown wnaeth dalu'r aberth eithaf yn ystod y Rhyfel Mawr. Mae'r Gofeb Ryfel yn fan canolog ar gyfer myfyrio a chofio, ac roedd yn wirioneddol wych gweld cynifer o bobl yn dod i ddangos eu parch.

"Roedd clywed plant Ysgolion Cynradd Penrhiwceiber a Phengeulan yn cymryd rhan ac yn darllen enwau Meirw’r Rhyfel yn deimladwy iawn. Diolch arbennig i Fand y Cymry Brenhinol a chantorion Clwb Rygbi Aberpennar, roedd eu cynnwys nhw ar y diwrnod wedi sicrhau bod yr achlysur yn deimladwy iawn.

"Rydyn ni'n gwerthfawrogi'r cymorth gafodd ei dderbyn gan ein cyngor lleol yn fawr, ni fyddai'r diwrnod pwysig yma wedi digwydd heb eu cymorth."

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber BEM, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog: “Ers 100 mlynedd, mae Cofeb Ryfel Penrhiwceiber a Matthewstown wedi sefyll wrth wraidd y gymuned leol, gan ddarparu lle pwysig i bobl ddod at ei gilydd, i fyfyrio a chofio. 

“Roedd achlysur dydd Sul yn ffordd addas o nodi’r garreg filltir arwyddocaol yma a thalu teyrnged i’r milwyr lleol - bydd eu haberthion yn cael eu cofio am byth.

“Roedd yn hyfryd gweld y gymuned yn dod ynghyd i gydnabod pwysigrwydd parhaol y gofeb i Benrhiwceiber a Matthewstown.  Roedd y Cyngor yn falch o gynorthwyo'r achlysur cymunedol yma ac mae'n parhau i fod wedi ymrwymo i anrhydeddu ein cymuned Lluoedd Arfog, yn y gorffennol ac yn y presennol.”

Mae'r gofeb hefyd wedi'i chynnwys ym Mhrosiect Cofebion Rhyfel ehangach y Cyngor, gafodd ei lansio ym mis Tachwedd 2023 er mwyn digideiddio cofebion ledled Rhondda Cynon Taf ac er mwyn ymchwilio i straeon y bobl sydd â'u henwau wedi'u nodi arnyn nhw. Mae hyn yn rhan o raglen fuddsoddi dros 5 mlynedd, gwerth £250,000 mewn cofebion rhyfel fydd yn cael ei chynnal rhwng 2022 a 2027. Am ragor o wybodaeth am y prosiect ac i gymryd rhan, e-bostiwch: GwasanaethTreftadaeth@rctcbc.gov.uk.

Rhagor yma: Prosiect Cofebion Rhyfel - Ein Treftadaeth Rhondda Cynon Taf

Mae Rhondda Cynon Taf yn gartref i fwy na 7,500 o gyn-aelodau'r Lluoedd Arfog. Roedd y Cyngor ymhlith yr awdurdodau lleol cyntaf yng Nghymru i lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog yn 2012, gan ailddatgan ei ymrwymiad yn 2018.

Yn gydnabyddiaeth o'i gefnogaeth, derbyniodd y Cyngor Wobr Aur Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn yn 2017. Cadwyd yr anrhydedd yma ym mis Hydref 2022 ar ôl i'r Cyngor gyflwyno’r Cynllun Gwarantu Cyfweliad ar gyfer cyn-filwyr a milwyr wrth gefn ym mis Ionawr 2022.

Mae Llinell Gyngor i Gyn-filwyr y Cyngor yn cynnig cymorth cyfrinachol am ddim i gyn-filwyr a'u teuluoedd. I siarad â swyddogion ymroddedig yn gwbl gyfrinachol, ffoniwch 01443 425 020 (Dydd Llun i ddydd Gwener, 8.30am tan 5pm), neu lenwi'r ffurflen atgyfeirio ar-lein i gael cymorth: Gwasanaeth Cyngor i Gyn-filwyr | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Rhagor o wybodaeth: Cyfamod Lluoedd Arfog RhCT

Wedi ei bostio ar 21/10/2026