Skip to main content

£4 miliwn ar gyfer gwelliannau i barciau a mannau chwarae ledled Rhondda Cynon Taf

parks

Mae cynllun buddsoddi gwerth £3.3 miliwn i ddatblygu'r cyfleusterau chwarae, chwaraeon a hamdden gorau posibl i drigolion wedi sicrhau hwb pellach gwerth £750,000. 

Mae penderfyniad y Cabinet i ddyrannu buddsoddiad ychwanegol i barciau, parciau gwledig a mannau chwarae yn golygu y bydd cyfanswm o £4 miliwn yn cael ei wario ar wella'r mannau agored dros y flwyddyn ariannol. 

O ganlyniad i'r buddsoddiad, bydd modd cynnal mwy o waith i greu mannau agored, gan gynnwys mannau chwarae a pharciau sglefrfyrddio ar eu newydd wedd ar gyfer ein trigolion ieuengaf, cyfleusterau eithriadol ar gyfer timau chwaraeon o bob oed, yn ogystal â pharciau a pharciau gwledig hardd, a fydd yn cael eu cynnal a'u cadw'n dda er mwyn i drigolion ac ymwelwyr eu mwynhau. 

Yn ogystal â chyhoeddiad heddiw am gyllid ychwanegol i wella mannau chwarae, parciau a pharciau gwledig ymhellach, dyma gadarnhad y bydd dau bad sblasio newydd yn cael eu hagor ym Mharc Coffa Ynysangharad, Pontypridd (yn amodol ar gymeradwyaeth gan Is-bwyllgor Parc Coffa Ynysangharad) a Pharc Gelligaled, Ystrad, gan wella'r cynnig sydd ar gael i drigolion ymhellach. 

Bydd y cyllid gwerth £750,000 a gadarnhawyd heddiw yn cael ei ddefnyddio i gynyddu a gwella'r gwaith parhaus i: 

  • Creu mannau chwarae newydd a gwella rhai presennol, gan gyflwyno offer chwarae a chwarae synhwyraidd newydd ar gyfer ystod o oedrannau, ynghyd â nodweddion hygyrch fel cylchoedd troi ar lefel y ddaear i blant mewn cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio.
  • Ailadeiladu dau barc sglefrfyrddio yn Ystrad a Beddau er budd pobl ifainc sy'n mwynhau beicio, sglefrfyrddio a sgwtera.
  • Gosod ffensys ac arwyneb diogelwch o ansawdd uchel mewn mannau chwarae i amddiffyn ein hymwelwyr ieuengaf a'u teuluoedd.
  • Gwella mynediad i fannau chwarae i sicrhau eu bod nhw mor hygyrch â phosibl.
  • Parhau ag archwiliadau drwy gydol y flwyddyn a gwasanaeth atgyweirio ymatebol i sicrhau bod pob man chwarae yn parhau i fod o'r safon uchaf bosibl a bod diffygion neu ddifrod yn cael eu hatgyweirio ar unwaith.
  • Diogelu a gwella manteision cymdeithasol a hamdden ein parciau a'n parciau gwledig, gan fuddsoddi mewn llwybrau newydd, meysydd parcio a ffensys.
  • Gwella a chynnal a chadw mannau i'r gymuned megis toiledau neu glybiau.
  • Cynnal safonau cyffredinol ac apêl y mannau agored drwy baentio, cynnal a chadw ac atgyweirio.
  • Buddsoddi mewn cyfleusterau chwaraeon ar gyfer pob oed a diddordeb, gan gynnwys buddsoddi mewn caeau chwaraeon, eisteddleoedd, ystafelloedd newid a chlybiau.
  • Gweithio gyda thimau i sicrhau bod y cyfleusterau maen nhw'n eu defnyddio yn diwallu eu hanghenion a'u dyheadau chwaraeon nawr ac yn y dyfodol. 

Mae hyn yn golygu mwy o waith gwella ar draws parciau, mannau chwarae a pharciau gwledig. 

Mae'r Cyngor yn falch o gael ystod drawiadol o fannau agored lle gall trigolion o bob oed dreulio amser yn cymdeithasu, ymarfer corff a mwynhau amser hamdden. 

Meddai'r Cynghorydd Louisa Addiscott, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Seilwaith Cyfalaf: “Mae cyllid ychwanegol sylweddol heddiw yn dod â chyfanswm y buddsoddiad mewn parciau, parciau gwledig a mannau chwarae i £4 miliwn. 

“Mae gan bawb eu rhesymau arbennig eu hunain pam maen nhw wrth eu bodd â’u parc neu’u man agored lleol.

 “P’un a ydych chi eisiau cerdded ym myd natur, cwrdd â ffrindiau, cael hwyl yn y man chwarae, mwynhau picnic, ymuno â ras hwyl, sgwtera, sglefrfyrddio, reidio’ch beic neu gystadlu mewn chwaraeon, mae ein parciau’n cynnig y cyfle i wneud hynny'n rhad ac am ddim! 

“Dyna pam mae mor bwysig bod y mannau yma'n cael eu gwella a’u cynnal a’u cadw i’r safonau uchaf posibl, fel bod pawb yn ein cymunedau'n gallu parhau i'w mwynhau yn eu ffordd eu hunain. 

“Ochr yn ochr â’r buddsoddiad mewn parciau, mannau chwarae a pharciau gwledig mae’r cyhoeddiad cyffrous am gynlluniau i agor dau bad sblasio newydd a gwella trydydd un, sy’n golygu bod bywyd y parciau ar fin mynd yn fwy cyffrous fyth i drigolion yn y dyfodol.”

 

Mae cynlluniau'r parciau, mannau chwarae a pharciau gwledig y cytunwyd arnyn nhw gan y Cabinet y bore yma'n rhan o becyn buddsoddi ehangach gwerth £12 miliwn ar gyfer meysydd gwasanaeth a gwelliannau blaenoriaeth yn 2026/27, yn ychwanegol at y rhaglen gyfalaf ar gyfer y flwyddyn ariannol yma sy'n cael ei chyflawni ar hyn o bryd. 

 

Mae'r cyllid wedi'i ddyrannu fel a ganlyn:

 

  • Priffyrdd a Ffyrdd – £3.5 miliwn
  • Coridor Trafnidiaeth Gynaliadwy Llanharan – £3 miliwn
  • Coridor Trafnidiaeth Porth Gogledd Cwm Cynon – £3 miliwn
  • Gwaith Lliniaru Llifogydd - £250,000
  • Ffyrdd heb eu mabwysiadu – £150,000
  • Padiau Sblasio – £800,000
  • Parciau a Mannau Gwyrdd – £500,000
  • Parciau Gwledig – £150,000
  • Mannau Chwarae – £100,000
  • Gwelliannau Gofal y Strydoedd (biniau) – £25,000
  • Cymorth ynni, trydydd sector – £60,000

Datblygiadau sydd yn yr arfaeth yn rhan 

Wedi ei bostio ar 22/09/2026