Mae PEDAIR siop yn Rhondda Cynon Taf wedi cael gorchymyn i GAU yn dilyn gwaith sylweddol gan Adran Safonau Masnach y Cyngor mewn perthynas â phrynu a gwerthu tybaco a fêps anghyfreithlon yn Rhondda Cynon Taf.
Cafodd y Gorchmynion Cau eu rhoi gan y llys, a'u gorfodi ar yr un diwrnod, yn erbyn:
- Corner Shop, 42 Stryd Hannah, Porth
- Express Convenience Store, 33 Sgwâr Fictoria, Aberdâr
- Taff Mini Market, 36 Stryd y Taf, Pontypridd
- Ponty Mini Market, 8 Stryd Fawr, Pontypridd
Mae'r camau ar y cyd yn golygu bod gwaith gorfodi sylweddol wedi'i gynnal i fynd i'r afael â phrynu a gwerthu tybaco a fêps anghyfreithlon yn Rhondda Cynon Taf.
Roedd ymchwiliadau yn y siopau yn cynnwys ymweld â nhw ar sail cudd-wybodaeth, ymarferion siopa cudd i brynu cynhyrchion, atafaelu cynhyrchion anghyfreithlon, a gwaith gorfodi amlasiantaeth a gafodd ei gynnal ar y cyd â phartneriaid, gan gynnwys Cyllid a Thollau EM, Heddlu De Cymru ac Ymgyrch CeCe.
Yn ystod y pedwar ymchwiliad, roedd swyddogion wedi prynu 41 o eitemau'n llwyddiannus wrth gynnal ymarferion siopa cudd, ac wedi mynd i'r afael â 15 o gwynion ac 14 o adroddiadau cudd-wybodaeth, gan atafaelu cannoedd o sigaréts, cynhyrchion tybaco a fêps anghyfreithlon.
Yn sgil y gwaith atafaelu, fydd cynhyrchion tybaco a fêps anghyfreithlon gwerth tua £10,000 ar y stryd yn y DU bellach ddim ar gael i gymunedau Rhondda Cynon Taf.
Roedd yr ymchwiliad wedi dod o hyd i fwy na 400 o becynnau o sigaréts anghyfreithlon, dwsinau o becynnau o dybaco rholio â llaw anghyfreithlon, ac amrywiaeth o gynhyrchion fêps anghyfreithlon yn y pedair siop.
Yn ystod yr ymchwiliadau, daeth swyddogion o hyd i dystiolaeth o fannau storio cudd soffistigedig mewn waliau, gosodiadau a ffitiadau, a oedd wedi'u cynllunio yn benodol i osgoi cael eu canfod gan swyddogion gorfodi. Cafodd niferoedd sylweddol o gynhyrchion tybaco a fêps anghyfreithlon eu hatafaelu, ac roedd amheuaeth bod llawer ohonyn nhw'n torri rheoliadau tybaco, deddfau diogelwch cynhyrchion a deddfwriaeth nodau masnach.
Roedd y siopau i gyd wedi bod yn destun ymweliadau gorfodi dro ar ôl tro, gwaith yn seiliedig ar gudd-wybodaeth, cwynion gan y cyhoedd a chyngor ffurfiol gan swyddogion yr Adran Safonau Masnach. Er gwaethaf rhybuddion a chyfleoedd dro ar ôl tro i gydymffurfio â'r gyfraith, fe aeth y prynu a'r gwerthu anghyfreithlon yn ei flaen, gan arwain swyddogion i fynd ar drywydd Gorchmynion Cau drwy'r llysoedd.
Mae'r camau gweithredu yn adlewyrchu gwaith parhaus y Cyngor i amddiffyn trigolion rhag cynhyrchion anghyfreithlon a chynhyrchion sydd o bosibl yn anniogel, cefnogi busnesau lleol cyfreithlon, a mynd i'r afael â gweithgarwch troseddol sy'n niweidio cymunedau.
Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Cymunedau:
"Dyma ganlyniad arwyddocaol sy'n anfon neges glir iawn na fydd gwerthu tybaco a fêps anghyfreithlon yn cael ei oddef yn Rhondda Cynon Taf.
"Mae maint yr ymgyrch yma'n gwbl amlwg i bawb. Yn y pedair siop yma, fe ddaeth ein swyddogion o hyd i gannoedd o becynnau o sigaréts, tybaco a fêps anghyfreithlon a dulliau cuddio soffistigedig wedi'u cynllunio i osgoi cael eu canfod."
"Mae'r gwaith atafaelu yma wedi cael gwared ar gynhyrchion â gwerth manwerthu posibl o tua £10,000 o'n cymunedau, ac mae'n dangos pa mor benderfynol rydyn ni i fynd i'r afael â phrynu a gwerthu anghyfreithlon lle bynnag y mae'n digwydd.
"Roedd y siopau dan sylw wedi bod yn destun ymchwiliadau hir a gwaith gorfodi dro ar ôl tro. Er gwaethaf derbyn cyngor a rhybuddion, fe wnaethon nhw barhau i dorri'r gyfraith a rhoi elw o flaen lles y cymunedau maen nhw'n eu gwasanaethu.
"Mae tybaco anghyfreithlon yn tanseilio busnesau cyfreithlon, mae yn aml yn gysylltiedig â gweithgarwch troseddol ehangach ac mae'n gallu ei gwneud hi'n haws i bobl ifainc gael gafael ar gynhyrchion niweidiol. Mae'r un pryderon yn berthnasol i gynhyrchion fêps sy'n anghyfreithlon ac sydd ddim yn cydymffurfio â'r rheoliadau.
"Mae ein swyddogion yr Adran Safonau Masnach yn gweithio'n ddiflino ar y cyd â phartneriaid i gasglu tystiolaeth ynghyd a dod ag achosion gerbron y llys. Mae cau'r siopau yma'n dangos y byddwn ni'n defnyddio pob offeryn gorfodi sydd ar gael i amddiffyn ein trigolion, cefnogi busnesau cyfrifol a chadw ein cymunedau'n ddiogel."
Mae prynu a gwerthu tybaco anghyfreithlon yn parhau i fod yn faes blaenoriaeth ar gyfer ein swyddogion gorfodi, gan ei fod yn peri risgiau i iechyd y cyhoedd ac yn cyfrannu at weithgarwch troseddol cyfundrefnol.
Mae carfanau Safonau Masnach yn Rhondda Cynon Taf yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau i ganfod cynhyrchion anghyfreithlon, gan gynnwys gwaith sy'n seiliedig ar gudd-wybodaeth a gweithio'n rhan o bartneriaeth yn lleol ac yn genedlaethol.
Os oes gan aelodau o'r cyhoedd unrhyw wybodaeth am bobl sy'n ymwneud â phrynu a gwerthu anghyfreithlon, dyma'u hannog i roi gwybod amdano'n uniongyrchol i'r Adran Safonau Masnach gan ddefnyddio'r Ffurflen Gweithgarwch Anghyfreithlon Ar-lein.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: www.rctcbc.gov.uk/SafonauMasnach.
Corner Shop, 42 Stryd Hannah, Porth
- Dwy gŵyn a chudd-wybodaeth wedi dod i law ynghylch gwerthu tybaco anghyfreithlon
- Wyth eitem (sigaréts anghyfreithlon) wedi'u prynu'n llwyddiannus wrth gynnal ymarferion siopa cudd
- Atafaelu nifer fawr o sigaréts a thybaco rholio â llaw anghyfreithlon o fan guddio soffistigedig wedi'i chynllunio i edrych fel bwrdd ffiwsiau trydanol
- Y llwyddiant mwyaf yn cynnwys atafaelu 179 o becynnau o sigaréts a 37 o becynnau o dybaco
- Amcangyfrif o werth manwerthu'r nwyddau a gafodd eu hatafaelu: £3,750
- Amcangyfrif o'r dreth dybaco wedi'i cholli: £2,101.85
Express Convenience Store, 33 Sgwâr Fictoria, Aberdâr
- Dwy gŵyn a dau adroddiad cudd-wybodaeth wedi dod i law
- Saith eitem (sigaréts anghyfreithlon) wedi'u prynu'n llwyddiannus wrth gynnal ymarferion siopa cudd
- Adroddiadau cudd-wybodaeth yn cynnwys pryderon ynghylch gwerthu i blant
- Nifer o achosion o atafaelu sigaréts, tybaco a chynhyrchion fêps anghyfreithlon
- Y llwyddiant mwyaf yn cynnwys atafaelu mwy na 250 o becynnau o sigaréts, 14 o becynnau o dybaco a 27 o fêps anghyfreithlon
Taff Mini Market, 36 Stryd y Taf, Pontypridd
- Saith eitem wedi'u prynu'n llwyddiannus wrth gynnal ymarferion siopa cudd ers i'r siop agor ym mis Gorffennaf 2026
- Swyddogion wedi dod o hyd i gynhyrchion tybaco wedi'u cuddio, a chuddfan soffistigedig yn y siop
- Y llwyddiant mwyaf yn cynnwys atafaelu sigaréts a thybaco rholio â llaw wedi'u cuddio mewn cyflau poptai
- Amcangyfrif o'r gwerth manwerthu: £861.75
- Amcangyfrif o'r dreth dybaco wedi'i cholli: £522.33
Ponty Mini Market, 8 Stryd Fawr, Pontypridd
- Pump o gwynion ac un ar ddeg o adroddiadau cudd-wybodaeth wedi dod i law
- Un deg naw o eitemau (sigaréts, tybaco a chynhyrchion fêps anghyfreithlon) wedi'u prynu'n llwyddiannus wrth gynnal ymarferion siopa cudd
- Cudd-wybodaeth yn awgrymu bod y siop yn gwerthu i blant
- Y siop wedi parhau i fasnachu'n anghyfreithlon er gwaethaf gwaith gorfodi dro ar ôl tro a chyngor gan swyddogion Adran Safonau Masnach y Cyngor
Wedi ei bostio ar 22/09/2026