Mae trigolion, busnesau ac ymwelwyr yn cael eu gwahodd i fod yn rhan o lunio cais Pontypridd i ddod yn Dref Diwylliant gyntaf erioed y DU yn 2028, gydag agoriad Hwb Diwylliannol Pontypridd28 newydd yng nghanol y dref a lansiad gwefan swyddogol y cais.
Mae'r hwb newydd ym Marchnad Dan Do Pontypridd, yn Arcêd Penuel, yn darparu lle pwrpasol i bobl ddod i wybod rhagor am y cais, rhannu straeon, awgrymu syniadau ar gyfer y cais a dathlu popeth sy'n gwneud Pontypridd yn arbennig. Mae'r hwb ar agor o ddydd Mercher i ddydd Sadwrn, 10am i 4pm ac mae croeso i bawb alw heibio, dod yn rhan o bethau a helpu i lunio cam nesaf taith Pontypridd28.
Mae agoriad yr Hwb Diwylliannol yn dilyn y cyhoeddiad diweddar bod Pontypridd wedi cyrraedd y rhestr fer o ddim ond 15 tref o bob cwr o'r DU yn y gystadleuaeth i ddod yn Dref Diwylliant gyntaf erioed y DU yn 2028. Mae'r cais yn dathlu treftadaeth gyfoethog y dref, ei sîn gelfyddydol a diwylliannol ffyniannus, a'i naws gymunedol gref.
Yn ogystal â'r hwb newydd, mae carfan Pontypridd28 wedi lansio gwefan bwrpasol: www.pontypridd28.com.
Mae'r wefan yn cynnwys casgliad cynyddol o straeon gan bobl ledled Pontypridd yn rhannu beth mae diwylliant yn ei olygu iddyn nhw a beth sy'n gwneud y dref yn unigryw. Mae'r garfan eisiau i bawb fod yn rhan o daith Pontypridd28 drwy uwchlwytho eu stori eu hunain ar ffurf fideo, ffotograff neu gyflwyniad ysgrifenedig.
Meddai'r Cynghorydd Scott Emanuel, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Cymunedau, Diwylliant a Hamdden: "Mae cais Tref Diwylliant Pontypridd yn ymwneud â'i phobl, ac rydyn ni eisiau cynifer o leisiau â phosibl i helpu i lunio'r hyn sy'n dod nesaf."
"Mae'r Hwb Diwylliannol newydd yn cynnig lle croesawgar i bobl ddod i wybod rhagor am y cais, rhannu eu syniadau a dathlu'r diwylliant, y creadigrwydd a'r ysbryd cymunedol anhygoel sydd gan Bontypridd i'w cynnig."
"Rydyn ni hefyd yn gyffrous i lansio'r wefan newydd, sy'n rhoi cyfle i bawb adrodd eu stori a dangos beth mae diwylliant yn ei olygu iddyn nhw. Boed yn draddodiad lleol, yn hoff le, yn grŵp cymunedol neu'n daith greadigol bersonol, mae pob stori'n helpu i greu darlun o'r hyn sy'n gwneud Pontypridd yn lle mor arbennig."
Gall pobl ymweld â'r Hwb Diwylliannol yn Arcêd Penuel, Marchnad Dan Do Pontypridd, rhwng 10am a 4pm bob dydd Mercher, dydd Iau, dydd Gwener a dydd Sadwrn neu fynd i wefan www.pontypridd28.comi gael gwybod rhagor, rhannu stori a dilyn y datblygiadau diweddaraf yng nghais y dref i fod yn Dref Diwylliant y DU 2028.
#Pontypridd28 #TrefDiwylliantyDu
Wedi ei bostio ar 22/09/2026