Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn nodi 680 mlynedd ers Brwydr Crécy eleni. Mae’r frwydr yn rhan bwysig o’n hanes lleol a hanes Cymru ac mae’r berthynas rhwng Llantrisant a thref Crécy-en-Ponthieu yn Ffrainc yn parhau i fod yn gadarn bron i saith canrif yn ddiweddarach.
Teithiodd grŵp o bobl o Lantrisant i ogledd Ffrainc ar 20 Awst i gymryd rhan mewn achlysuron i nodi'r frwydr enwog a ddigwyddodd ar 26 Awst 1345.
Roedd y grŵp yn cynnwys chwe chynrychiolydd o Gyngor Cymuned Llantrisant, Neuadd y Dref ac Ymddiriedolaeth y Dref, yn ogystal â dau lysgennad ifanc o Ysgol Bryncelynnog ac Ysgol Gyfun Llanhari. Aeth dros 40 aelod o Gôr Meibion Llantrisant hefyd ar y daith, gan berfformio'n rhan o'r achlysuron.
Tynnodd yr ymweliad sylw at y berthynas gryf sydd wedi datblygu rhwng Llantrisant a Crécy-en-Ponthieu. Cafodd y berthynas yma'i chydnabod trwy'r Siarter Cyfeillgarwch a gafodd ei lofnodi gan Gyngor Cymuned Llantrisant, gyda chefnogaeth gan Gôr Meibion Llantrisant ac Ymddiriedolaeth Tref Llantrisant.
Mae'r cysylltiad rhwng y ddwy dref yn dyddio'n ôl i Frwydr Crécy, sef un o frwydrau enwocaf y Rhyfel Can Mlynedd. Yn ystod y frwydr, trechodd lluoedd Brenin Edward III fyddin Ffrainc a oedd llawer yn fwy. Chwaraeodd wŷr bwa hir medrus Llantrisant ran bwysig yn y fuddugoliaeth yna ac hyd heddiw, cyfeirir at y saethwyr buddugol o Gymru fel ‘Y Fyddin Ddu’.
Yn ôl cofnodion hanesyddol, brwydrodd wŷr bwa hir Llantrisant ochr yn ochr ag Edward III a'r Tywysog Du, gan helpu i drechu Brenin Bohemia. Yn ddiweddarach, cafodd siarter ei roi i Lantrisant i gydnabod eu cyfraniad. Sefydlodd y siarter yma hawliau a thraddodiadau sy'n parhau i gael eu dathlu heddiw.
Un o'r traddodiadau yma yw'r seremoni Cerdded y Ffin enwog, sy'n cael ei chynnal bob saith blynedd. Mae miloedd o drigolion a Rhyddfreinwyr yn cerdded ffiniau hynafol Llantrisant i ddathlu hanes a threftadaeth unigryw'r dref.
Meddai'r Cynghorydd Scott Emanuel, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Cymunedau, Diwylliant a Hamdden: "Mae hanes gwŷr bwa hir Llantrisant yn un o'r hanesion mwyaf nodedig yn hanes Rhondda Cynon Taf. Mae nodi 680 mlynedd ers Brwydr Crécy yn rhoi cyfle i ni fyfyrio ar y dreftdaeth yna a dathlu'r cyfeillgarwch parhaus rhwng Llantrisant a Crécy-en-Ponthieu.
"Mae’n hyfryd gweld pobl ifainc yn cymryd rhan yn ein dathliadau eleni, gan helpu i gynnal y cysylltiadau hanesyddol pwysig yma ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."
Meddai'r Cynghorydd Ron Hunt, Cadeirydd Cyngor Cymuned Llantrisant : Mae'r Siarter Cyfeillgarwch yn adlewyrchu'r berthynas gadarnhaol sydd wedi datblygu rhwng ein dwy gymuned dros gyfnod o sawl blwyddyn. Er bod ein stori gyffredin wedi dechrau ar faes y gad, mae wedi datblygu i fod yn gyfeillgarwch y mae cyfnewid diwylliannol, dealltwriaeth a pharch yn sail iddi.”
Mae Crécy-en-Ponthieu yn parhau i gofio'r frwydr drwy gynnal achlysuron canoloesol blynyddol a thrwy ddiogelu maes y frwydr. Mae'r daith i nodi'r frwydr yn rhoi cyfle i ni gofio a chryfhau’r berthynas rhwng y ddwy dref, gan fanteisio ar gyfleoedd cyfnewid diwylliannol.
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o gefnogi mentrau sy'n dathlu hanes cyfoethog y fwrdeistref sirol wrth feithrin cysylltiadau a chyfeillgarwch sy'n dod â chymunedau at ei gilydd ar draws cenedlaethau.
Wedi ei bostio ar 09/09/2026