Skip to main content

Sesiynau Nofio mewn Dŵr Oer Lido Ponty yn dychwelyd ar 24 Hydref

Ar ôl tymor Haf arall a groesawodd dros 110,000 o nofwyr, mae Lido Ponty - Lido Cenedlaethol Cymru, yn paratoi ar gyfer dechrau tymor y sesiynau nofio mewn dŵr oer.

Mae'r sesiynau poblogaidd dros y gaeaf yn dychwelyd i'r atyniad trawiadol gyda sesiynau ar y penwythnos yn unig rhwng 24 Hydref  a 28 Tachwedd.

Bydd tocynnau ar gyfer y sesiynau nofio mewn dŵr oer yn mynd ar werth am 9am, ddydd Llun, 5 Hydref.

Bydd tymheredd y pyllau awyr agored yn cael ei ostwng i 15 gradd ar gyfer tymor y dŵr oer, sy'n parhau i dyfu mewn poblogrwydd bob blwyddyn, gan groesawu nofwyr o bob cwr o'r DU.

Os nad ydych chi wedi rhoi cynnig ar nofio mewn dŵr oer yn Lido Ponty eto, yna 2026 yw eich cyfle!  Mae'r sesiynau ar y penwythnos ar agor i bawb sy'n 16 oed a hŷn, ac mae croeso i chi wisgo hetiau nofio a menyg/esgidiau bwtîs neu hyd yn oed siwtiau gwlyb.

Mae'r sesiynau wedi bod yn boblogaidd gyda nofwyr achlysurol, nofwyr perfformio a'r rhai sy'n paratoi ar gyfer achlysuron sy'n rhoi prawf ar wytnwch corfforol a thriathlonau.

Y peth gwych am sesiynau nofio mewn dŵr oer yn Lido Ponty yw eich bod chi'n cadw eich lle mewn sesiwn ac yna'n defnyddio'r amser sydd gyda chi yn y pyllau sut bynnag y dymunwch – mae croeso i chi drochi eich traed, plymio neu dreulio awr yn nofio hyd y pwll!

Mae'r ystafelloedd newid a'r cawodydd dan do yn gynnes iawn ac yn barod ar eich cyfer ar ôl i chi ddod allan o'r pwll – neu mae croeso i chi barhau i ddefnyddio'r cawodydd awyr agored os dyna sy'n well gyda chi.

Hefyd, mae gan ganol tref hardd Pontypridd lwyth o leoliadau i chi ymweld â nhw am baned o de, coffi neu siocled poeth neu dosti cynnes, powlen o gawl, crwst neu hyd yn oed rhywfaint o fwyd stryd sbeislyd er mwyn eich cynhesu ar ôl bod yn y pwll.

Meddai'r Cynghorydd Scott Emanuel, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Cymunedau, Hamdden a Diwylliant: “Mae wedi bod yn dymor gwych arall i Lido Ponty - Lido Cenedlaethol Cymru, gyda dros 110,000 o nofwyr yn mwynhau'r sesiynau nofio'n gynnar yn y bore, sesiynau hwyl i’r teulu a’r cyfle i ymdrochi yn yr awyr agored mewn amgylchedd prydferth.

“Roedd y tywydd hyfryd yn golygu bod Lido Ponty yn eithriadol o brysur yn ystod y prif dymor ac rydyn ni'n diolch i staff anhygoel y Lido am eu gwaith caled ac, wrth gwrs, i’r nifer o nofwyr a ymwelodd o bob cwr o Gymru a thu hwnt oedd wedi teithio i Bontypridd i fwynhau Lido Ponty.

“Ond dyw’r hwyl ddim wedi dod i ben eto,  mae'n bleser cadarnhau bod sesiynau nofio mewn dŵr oer yn dychwelyd unwaith yn rhagor. Mae'r sesiynau yn parhau i dyfu mewn poblogrwydd, flwyddyn ar ôl blwyddyn. Fe ddechreuon ni'r sesiynau yn rhan o gynllun peilot er mwyn cynyddu'r cynnig yn Lido Ponty ac maen nhw wedi bod yn boblogaidd iawn!

“Bydd y sesiynau nofio mewn dŵr oer yn parhau tan fis Tachwedd, cyn i Lido Ponty gau am ychydig wythnosau er mwyn paratoi ar gyfer achlysuron Gŵyl San Steffan a Dydd Calan.”

Wedi ei bostio ar 22/09/2026