Skip to main content

Cyngor Rhondda Cynon Taf yn nodi 680 mlynedd ers Brwydr Crécy

BOC please

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn nodi 680 mlynedd ers Brwydr Crécy eleni. Mae’r frwydr yn  rhan bwysig o’n hanes lleol a hanes Cymru  ac mae’r berthynas rhwng Llantrisant a thref Crécy-en-Ponthieu yn Ffrainc yn parhau i fod yn gadarn bron i saith canrif yn ddiweddarach.

Teithiodd grŵp o bobl o Lantrisant i ogledd Ffrainc ar 20 Awst i gymryd rhan mewn achlysuron i nodi'r frwydr enwog a ddigwyddodd ar 26 Awst 1345.

Roedd y grŵp yn cynnwys chwe chynrychiolydd o Gyngor Cymuned Llantrisant, Neuadd y Dref ac Ymddiriedolaeth y Dref, yn ogystal â dau lysgennad ifanc o Ysgol Bryncelynnog ac Ysgol Gyfun Llanhari. Aeth dros 40 aelod o Gôr Meibion Llantrisant hefyd ar y daith, gan berfformio'n rhan o'r achlysuron.

Tynnodd yr ymweliad sylw at y berthynas gryf sydd wedi datblygu rhwng Llantrisant a Crécy-en-Ponthieu. Cafodd y berthynas yma'i chydnabod trwy'r Siarter Cyfeillgarwch a gafodd ei lofnodi gan Gyngor Cymuned Llantrisant, gyda chefnogaeth gan Gôr Meibion Llantrisant ac Ymddiriedolaeth Tref Llantrisant.

Mae'r cysylltiad rhwng y ddwy dref yn dyddio'n ôl i Frwydr Crécy, sef un o frwydrau enwocaf y Rhyfel Can Mlynedd. Yn ystod y frwydr, trechodd lluoedd Brenin Edward III fyddin Ffrainc a oedd llawer yn fwy. Chwaraeodd wŷr bwa hir medrus Llantrisant ran bwysig yn y fuddugoliaeth yna ac hyd heddiw, cyfeirir at y saethwyr buddugol o Gymru fel ‘Y Fyddin Ddu’.

Yn ôl cofnodion hanesyddol, brwydrodd wŷr bwa hir Llantrisant ochr yn ochr ag Edward III a'r Tywysog Du, gan helpu i drechu Brenin Bohemia. Yn ddiweddarach, cafodd siarter ei roi i Lantrisant i gydnabod eu cyfraniad. Sefydlodd y siarter yma hawliau a thraddodiadau sy'n parhau i gael eu dathlu heddiw.

Un o'r traddodiadau yma yw'r seremoni Cerdded y Ffin enwog, sy'n cael ei chynnal bob saith blynedd. Mae miloedd o drigolion a Rhyddfreinwyr yn cerdded ffiniau hynafol Llantrisant i ddathlu hanes a threftadaeth unigryw'r dref.

Meddai'r Cynghorydd Scott Emanuel, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Cymunedau, Diwylliant a Hamdden: "Mae hanes gwŷr bwa hir Llantrisant yn un o'r hanesion mwyaf nodedig yn hanes Rhondda Cynon Taf. Mae nodi 680 mlynedd ers Brwydr Crécy yn rhoi cyfle i ni fyfyrio ar y dreftdaeth yna a dathlu'r cyfeillgarwch parhaus rhwng Llantrisant a Crécy-en-Ponthieu.

"Mae’n hyfryd gweld pobl ifainc yn cymryd rhan yn ein dathliadau eleni, gan helpu i gynnal y cysylltiadau hanesyddol pwysig yma ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

Meddai'r Cynghorydd Ron Hunt, Cadeirydd Cyngor Cymuned Llantrisant : Mae'r Siarter Cyfeillgarwch yn adlewyrchu'r berthynas gadarnhaol sydd wedi datblygu rhwng ein dwy gymuned dros gyfnod o sawl blwyddyn. Er bod ein stori gyffredin wedi dechrau ar faes y gad, mae wedi datblygu i fod yn gyfeillgarwch y mae cyfnewid diwylliannol, dealltwriaeth a pharch yn sail iddi.”

Mae Crécy-en-Ponthieu yn parhau i gofio'r frwydr drwy gynnal achlysuron canoloesol blynyddol a thrwy ddiogelu maes y frwydr. Mae'r daith i nodi'r frwydr yn rhoi cyfle i ni gofio a chryfhau’r berthynas rhwng y ddwy dref, gan fanteisio ar gyfleoedd cyfnewid diwylliannol.

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o gefnogi mentrau sy'n dathlu hanes cyfoethog y fwrdeistref sirol wrth feithrin cysylltiadau a chyfeillgarwch sy'n dod â chymunedau at ei gilydd ar draws cenedlaethau.

Wedi ei bostio ar 09/09/2026