Mae Rhieni maeth yn Rhondda Cynon Taf yn dathlu cyfraniad allweddol eu plant eu hunain yn y daith maethu.
Yn rhan o Wythnos Plant Rhieni Maeth (rhwng 13 Hydref a 19 Hydref), mae Maethu Cymru RhCT yn rhannu straeon am sut y mae eu plant wedi helpu i wneud y rheiny sydd yn eu gofal i deimlo'n hapusach, yn gartrefol, ac yn ddiogel a'u bod nhw'n cael eu caru.
Mae rhai pobl yn dweud mai'r effaith bosibl ar eu plant yw un o'r rhwystrau i ddechrau maethu, ond mae llawer o blant yn gweld manteision o fod yn rhan o deulu sy'n maethu. Gall gweld bywyd o safbwynt rhywun arall fod yn brofiad cyfoethog a gall helpu plentyn i ddysgu a datblygu. Mae plant hefyd yn dysgu y gallan nhw ddatblygu eu cysylltiadau eu hunain â phlant sy'n cael eu maethu yn eu cartref.
Rhannodd Ruth Hawkins ei stori o gynnwys eu plant yn y broses o faethu trwy Maethu Cymru RhCT:
"Mae ein merched wedi addasu'n dda iawn i faethu. Maen nhw wedi dangos amynedd, cydnerthedd ac agoredrwydd naturiol i groesawu eraill i'n cartref. O'r dechrau oll, maen nhw wedi bod yn chwilfrydig, yn garedig ac yn awyddus i helpu, sydd wedi gwneud y cyfnod trosglwyddo'n llyfnach i'r plant sy'n dod i fyw gyda ni. Rydyn ni wedi'u gweld nhw'n datblygu cysylltiadau cryf yn gyflym, gan gynnig cysur, hwyl ac ymdeimlad o berthyn. Mae hi wedi bod yn wych i'w gwylio nhw'n tyfu i fod yn fwy ystyriol ac yn hyblyg, gan ddysgu bod modd rhannu teulu a bod cariad yn ffynnu.
Rydyn ni fwyaf balch o sut mae'r merched wedi cofleidio maethu i fod yn rhan o bwy ydyn nhw. Maen nhw wedi dangos empathi a thosturi - p'un ai os ydyn nhw'n rhannu teganau, yn rhoi cwtsh ar yr adeg iawn neu'n helpu Maen nhw wedi magu hyder ac aeddfedrwydd, ac yn dysgu i weld y byd trwy lygaid eraill. Mae eu gwylio nhw'n camu i'r rôl o fod yn frodyr a chwiorydd cefnogol wedi bod yn hyfryd, rydyn ni'n hynod falch o sut y maen nhw wedi helpu i wneud maethu'n brofiad i'r teulu cyfan."
Rhannodd merched Ruth, Paisley a Willow, eu profiadau hefyd:
Paisley (age 7): "Rwy'n teimlo'n ofalgar ac yn garedig, ac rwy'n hoffi cael plant eraill yn ein tŷ ni. Rwy'n croesawu plentyn newydd i mewn i'n tŷ ni a'n teulu trwy ddangos cariad, bod yn chwaer dda iddyn nhw a'u dangos nhw o amgylch y tŷ. Rwy'n helpu mami a dadi hefyd i brynu unrhyw beth sydd angen ar eu cyfer nhw.
Y peth gorau am faethu yw fy mod i'n gallu gwneud i blant eraill deimlo'n hapus, ac mae'n gwneud i fi deimlo'n ddiolchgar am beth rydyn ni'n ei wneud. Rwy'n credu y dylai llawer o bobl eraill ddechrau maethu a helpu'r holl blant sydd angen cymorth a chartref."
Willow (13 oed): "Rwy'n teimlo'n dda fy mod i'n gallu helpu i wneud gwahaniaeth ym mywydau'r plant yma. Rwy'n hoffi eu gwneud nhw i deimlo'n gynnes ac yn gartrefol trwy ddangos cariad, rhoi gwybod iddyn nhw fy mod i bob tro yma a heb os, eu bod nhw'n rhan o'r teulu. Y peth gorau am faethu yw gallu rhannu fy mywyd hapus a'u croesawu nhw i'n teulu cariadus pan fyddan nhw ei angen fwyaf.
Rwy'n teimlo fy mod i'n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol ym mywydau plant ac yn ddiolchgar i fod yn rhan o deulu sy'n maethu. Hoffwn i annog teuluoedd eraill i ddod yn rieni maeth a rhoi gwybod iddyn nhw ei fod wir werth chweil, y diwrnodau da a'r drwg. Mae'n werth gwneud er mwyn helpu'r plant yma ym mhob ffordd posibl."
Meddai'r Cynghorydd Sharon Rees, Aelod o'r Cabinet ar faterion Gofal Cymdeithasol: “Mae maethu'n daith sy’n cynnwys y teulu cyfan, ac mae rôl plant biolegol yn aml yn un o’r rhannau mwyaf pwerus ac ysbrydoledig o’r stori yna.
"Yn Rhondda Cynon Taf, rydyn ni'n falch o ddathlu cyfraniad anhygoel brodyr a chwiorydd maeth. Dyma bobl ifainc sy'n dangos tosturi, cydnerthedd a chapasiti ddofn ar gyfer empathi. Mae eu caredigrwydd yn helpu plant mewn gofal maeth i deimlo'n ddiogel, yn gartrefol a chariad o'r cychwyn.
"Mae plant fel Paisley a Willow yn ein hatgoffa ni nid darparu cartref yn unig yw maethu, ond am feithrin teulu lle mae cariad a chymorth yn gyffredin. Mae eu lleisiau a'u profiadau'n dangos sut y mae maethu'n gallu cyfoethogi bywydau pob un sydd ynghlwm, gan eu helpu i siapio dyfodol disglair a chymunedau cryfach."
I gael gwybod rhagor am faethu yn Rhondda Cynon Taf, ewch i www.rhct.maethucymru.llyw.cymru
Wedi ei bostio ar 16/10/2025