Skip to main content

Pŵer Lleol ar gyfer Gofal Lleol: Fferm Solar Coedelái bellach yn pweru Ysbyty Brenhinol Morgannwg

Solar Farm Oct 1

Mae Fferm Solar Coedelái bellach wedi'i throi ymlaen yn swyddogol ac yn cyflenwi trydan yn uniongyrchol i Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Mae hyn yn golygu bod un o'n gwasanaethau cyhoeddus pwysicaf yn cael ei bweru gan ynni a gynhyrchir yma yn ein cymuned.

Mae’r fferm wedi'i hadeiladu ar safle glofa wedi'i adfer, mae'r fferm solar yn cynnwys 9,000 o baneli ac yn cynhyrchu digon o drydan i bweru tua 1,800 o gartrefi bob blwyddyn, ac yn ogystal â phweru cartrefi, mae'r ynni hwnnw'n helpu i gadw'r goleuadau ymlaen, peiriannau'n rhedeg, a gofal yn llifo yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

Mae'r prosiect wedi creu swyddi lleol ac wedi cynhyrchu gwariant gwerth dros £600,000 gyda busnesau a chyflenwyr lleol. Mae'r garfan wedi gweithio'n galed i wella bioamrywiaeth trwy blannu gwrychoedd a gosod pyst gwenyn, blychau adar a blychau ystlumod ochr yn ochr â'r Fferm Solar.

Cafodd Fferm Solar Coedelái ei hariannu ar y cyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, a’i hariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru.

Meddai’r Cynghorydd Ros Davis, Aelod o’r Cabinet ar faterion Adnoddau: “Mae’r garreg filltir yma’n cynnwys gweld yr holl waith caled yn dwyn ffrwyth wrth i Ysbyty Brenhinol Morgannwg dderbyn ei hwb cyntaf o bŵer o’r fferm solar. Mae’r prosiect uchelgeisiol yma’n gyfle unigryw i ddarparu ynni er budd ein cymunedau.

“Bydd unrhyw drydan a nad yw'n cael ei ddefnyddio gan yr ysbyty yn cael ei fwydo i'r Grid Cenedlaethol, gan helpu i gryfhau diogelwch ynni cyffredinol y DU. Ond mae 'lleol' yn pwysig I’r prosiect hwn, pŵer lleol ac effaith leol.”

Meddai Mark Williams, Cyfarwyddwr Partneriaethau Vital Energi: “Mae gweld ynni glân, carbon isel yn cael ei drosglwyddo i Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn fwy na chyflawniad technegol yn unig, mae’n dangos sut y gall y sector cyhoeddus gydweithio i gyflawni ei nodau sero net. Dyma ychwanegiad gwych arall at seilwaith ynni carbon isel Cymru ac un a fydd yn cyfrannu at ddyfodol glanach a mwy cynaliadwy i bawb.

“Hoffen ni longyfarch Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar gynllun gweledigaethol a greodd dempled ar gyfer cydweithio y mae modd ei ailadrodd ledled Cymru a thu hwnt.”

Adeiladwyd Fferm Solar Coedelái ar safle glofa wedi’i hadfer, gan droi 84 erw o hen dir diwydiannol yn ased ynni adnewyddadwy ar gyfer y rhanbarth. Fel un o'r prosiectau solar mwyaf awdurdod lleol yng Nghymru, mae'n cynhyrchu digon o ynni glân i bweru tua 8,000 o gartrefi bob blwyddyn wrth gyfrannu 5MW at y grid.

Meddai Claire Thompson, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Thrawsnewid: “Dyma gam pwysig i’n bwrdd iechyd ac i Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Mae troi ynni’r haul ymlaen yn fwy na chyflawniad technegol yn unig – mae’n symbol o’n hymrwymiad i ddarparu gofal iechyd mewn ffordd gynaliadwy, blaengar.

“Rydyn ni’n falch o fod yn rhan o brosiect sy’n lleihau ein hôl troed carbon ac yn cryfhau ein partneriaeth â Chyngor Rhondda Cynon Taf a Vital Energi. Dim ond dechrau ein taith tuag at ddyfodol mwy gwyrdd yw hwn.

“Diolch o galon i’n holl gydweithwyr y gwnaeth eu hymroddiad a’u gwaith caled y garreg filltir yma’n bosibl.”

Ychwanegodd Matt Ace, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Stantec yng Nghymru: “Roedd y prosiect uchelgeisiol yma yn gofyn am wybodaeth ofalus a helaeth ynghylch dylunio solar a chyflenwi pŵer, yn ogystal ag ymchwiliadau daearegol cymhleth a modelu economaidd dibynadwy. Rydyn ni’n falch o fod wedi bod yn rhan o garfan brosiect hynod gydweithredol a blaengar. Credwn fod y cynllun yma’n dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd partneriaid cyhoeddus a phreifat yn rhannu gwydnwch, effeithlonrwydd ac arloesodd fel nodau cyffredin.”

Wedi ei bostio ar 08/10/2025