Dyma roi gwybod i drigolion y bydd y Cyngor yn cynnal gwaith arferol ar Domen Gilfach Goch o'r wythnos nesaf ymlaen, gan ddefnyddio cyllid gan Lywodraeth Cymru.
Bydd y gwaith yn cynnwys ymchwiliadau tir ar y domen wastraff, a hynny er mwyn asesu cyflwr y safle, yn rhan o'r gwaith arolygu arferol sy'n cael ei gynnal gan Garfan Diogelwch Tomenni benodol y Cyngor.
Mae'r Cyngor wedi penodi Jackson Geo Services Ltd i gynnal y gwaith, a fydd yn dechrau ddydd Llun 13 Hydref, ac yn para tua tair wythnos.
Bydd y contractwr yn cael mynediad i safle'r domen ar hyd Teras Bryn-rhosyn, felly mae'n bosibl y bydd trigolion yn gweld cynnydd yn nifer y cerbydau adeiladu yn lleol yn ystod yr oriau gwaith (8am-5pm).
Dim ond at ddibenion cael mynediad i safle'r domen lo ac oddi yno y bydd cerbydau yn teithio ar hyd y strydoedd preswyl cyfagos.
Mae'r gwaith yma wedi'i ariannu trwy ddefnyddio'r dyraniad gwerth £11.49 miliwn o Grant Diogelwch Tomenni Glo Llywodraeth Cymru. Mae'r Cyngor wedi sicrhau'r cyllid yma i fonitro a chynnal a chadw tomenni glo Rhondda Cynon Taf yn 2025/26.
Diolch ymlaen llaw i'r gymuned am eich cydweithrediad.
Wedi ei bostio ar 10/10/2025