Skip to main content

Y diweddaraf ar ddatblygiad cyffrous ar safle hen gartref gofal Bronllwyn

Bronllwyn, Gelli 1 - Copy

Mae gwaith adeiladu ar lety gofal arbenigol newydd yn ardal Gelli, ar gyfer oedolion a phobl hŷn ag anableddau dysgu, yn parhau i fynd rhagddo ar y safle. Bydd y cynllun yn cael ei gyflawni'r flwyddyn nesaf, ac mae'n rhan o ymrwymiad parhaus y Cyngor i foderneiddio opsiynau gofal i bobl hŷn.

Dechreuodd y gwaith ar safle hen Gartref Gofal Preswyl Bronllwyn yn Heol Colwyn ddiwedd y llynedd, gan y contractwr a benodwyd gan y Cyngor, sef Langstone Construction Group. Bydd y datblygiad o'r radd flaenaf yn cynnwys 14 ystafell ag ystafell ymolchi gyda darpariaeth gofal seibiant, wedi'u hadeiladu ar lawr gwaelod is, llawr gwaelod, a llawr cyntaf. 

Mae'r cyfleusterau modern yn y datblygiad yn cynnwys tair ystafell oriau dydd a thair ystafell synhwyraidd, ynghyd â chegin fasnachol, siop trin gwallt, ystafelloedd ymolchi â chymorth ac ystafell hyfforddi. Bydd ardal awyr agored hefyd wedi'i lleoli ger yr adeilad, tra bod maes parcio a phrif bwynt mynediad presennol y safle yn cael eu cadw.

Bronllwyn, Gelli 2 - Copy

Yn dilyn cynnydd pwysig a wnaed dros fisoedd yr haf, mae diweddariad cynnydd bellach wedi'i rannu. Fel sydd i’w weld yn y delweddau diweddaraf o'r safle gwaith, mae'r gwaith adeiladu yn parhau i fynd rhagddo ar y waliau, y lloriau a'r elfennau allanol, ynghyd â systemau draenio a gwanhau'r safle. Mae'r waliau blaen a thrawstiau'r to hefyd wedi'u gosod ar y llawr gwaelod is. Mae gwaith i osod y draeniau mewnol a draeniau carthffosiaeth hefyd yn mynd rhagddo ar hyn o bryd.

Yn ogystal â hyn, mae gwaith wedi mynd rhagddo i adeiladu sylfeini'r craen tŵr, sydd ei angen ar gyfer cam nesaf y broses adeiladu. Ar hyn o bryd, mae'r datblygiad cyffredinol ar y trywydd iawn i'w gwblhau yn yr haf, 2026.

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Gofal Cymdeithasol, sydd â chyfrifoldeb am y Gwasanaethau i Oedolion: “Mae’r adroddiad cynnydd diweddaraf yma o’r datblygiad llety gofal arbenigol yn ardal Gelli yn dangos bod elfennau llawr is yr adeilad yn dechrau siapio, ynghyd â gosod cydrannau allweddol megis systemau draenio’r safle. Mae delweddau'r safle yn dangos sut rydyn ni'n trawsnewid safle'r hen gartref gofal preswyl nad yw'n cael ei ddefnyddio, ac yn ei ailddefnyddio yng nghanol y gymuned.

“Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i foderneiddio opsiynau gofal preswyl i bobl hŷn, ac mae’r cynllun yma yn ardal Gelli yn cael ei adeiladu ar yr un pryd â chynllun gofal ychwanegol newydd â 60 gwely yn ardal Porth. Rydyn ni eisoes wedi darparu gofal ychwanegol yn Aberaman a'r Graig, tra bod prosiect yn y dyfodol sy'n cymysgu gofal ychwanegol, gofal dementia a 'Byw'n Hŷn' yn Aberpennar wedi derbyn caniatâd cynllunio.

“Bydd y cynllun yn ardal Gelli yn arbenigo mewn gofalu am oedolion a phobl hŷn ag anableddau dysgu, wrth i ni ddiwallu anghenion presennol a rhai’r dyfodol. Mae'r Cyngor hefyd wedi ymrwymo i ddarparu cyfleuster gofal dementia pwrpasol yn nhref Glynrhedynog, a llety i oedolion ag anableddau dysgu ym Mhentre'r Eglwys – gyda'r ddau brosiect yma'n cael eu datblygu.

“Hoffwn ddiolch i’n contractwr, Langstone Construction Group, am ei ymrwymiad i fwrw ymlaen â’r datblygiad yn ardal Gelli. Rydw i'n edrych ymlaen at weld cynnydd pellach y broses adeiladu yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf, wrth i'r prosiect symud tuag at ei ddyddiad cwblhau a drefnwyd, sef yr haf y flwyddyn nesaf.”

Mae'r cam adeiladu yn mynd rhagddo gyda chyn lleied o darfu â phosibl ar y gymuned leol. Os oes gan drigolion unrhyw ymholiadau mewn perthynas â'r gwaith neu weithgarwch ar y safle, cysylltwch â Rheolwr Prosiect y Contractwr (rthomas@langstoneconstruction.com) neu Reolwr Gwerth Cymdeithasol y Cynllun: (rcarey@langstoneconstruction.com).

Wedi ei bostio ar 10/10/2025