Dyma roi gwybod i drigolion am waith clirio llystyfiant ar safle Hen Lofa'r Maritime ger Maes-y-Coed drwy gydol gweddill mis Hydref.
Mae'r cynllun wedi'i ariannu gan gyllid Llywodraeth Cymru, ac mae'n rhan o'r gweithgarwch archwilio a chynnal a chadw arferol y mae Carfan Diogelwch Tomenni'r Cyngor yn ei gyflawni.
Bydd y gwaith clirio llystyfiant yn mynd rhagddo ar hyd y llwybrau a gafodd eu clirio y llynedd. Mae hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod modd cael mynediad i'r safle at ddiben archwiliadau a gwaith cynnal a chadw yn y dyfodol.
Bydd hyn hefyd yn atal llystyfiant rhag aildyfu, gan helpu a gwella bioamrywiaeth ar hyd yr ardaloedd a gafodd eu clirio'n flaenorol.
Dechreuodd y gwaith ddydd Iau, 9 Hydref, a bydd Carfan Gofal y Strydoedd RhCT yn mynd ati i'w gwblhau dros y tair wythnos nesaf.
Bydd gweithwyr yn cyrraedd y safle trwy sawl mynedfa ar hyd Heol Gelliwion a thrwy waelod Ystad Ddiwydiannol Hen Lofa'r Maritime. Efallai y byddwch chi'n gweld rhagor o draffig adeiladu o bryd i'w gilydd yn ystod oriau gwaith (8am-5pm, dydd Llun i ddydd Gwener).
Efallai y bydd angen cyfyngu mynediad i gerddwyr ar safle'r domen dros dro, er mwyn sicrhau diogelwch wrth i'r gwaith fynd rhagddo. Mae hyn oherwydd natur gul rhai llwybrau.
Bydd y mannau yma wedi’u hamlygu’n glir gan ffensys dros dro, a byddan nhw'n cael eu hailagor ar ddiwedd pob diwrnod gwaith – fodd bynnag, efallai y bydd eithriadau lle mae angen i rai llwybrau aros ar gau dros nos i sicrhau diogelwch.
Diolch ymlaen llaw i'r gymuned leol am eich cydweithrediad.
Wedi ei bostio ar 09/10/2025