Skip to main content

Adroddiadau statudol wedi'u cyhoeddi yn dilyn llifogydd Storm Bert

Mae'r Cyngor bellach wedi cyhoeddi pob un o'r pum adroddiad ymchwilio i lifogydd Adran 19 sy'n ymwneud â Storm Bert ym mis Tachwedd 2024. Mae'r rhain yn canolbwyntio ar leoliadau yr effeithiwyd arnyn nhw yng nghymunedau Aberaman, Pontypridd, Nantgarw, Porth a Threherbert.

O dan Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (Adran 19), mae'n ofynnol i'r Cyngor, yn ei rôl fel yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol, ymchwilio i achosion o lifogydd sylweddol a chyhoeddi ei ganfyddiadau. Rhaid i'r adroddiadau yma nodi pa Awdurdodau Rheoli Perygl sydd â chyfrifoldebau perthnasol, nodi'r swyddogaethau y mae pob awdurdod wedi'u harfer hyd yn hyn, ac amlinellu'r hyn y maen nhw'n bwriadu ei wneud yn y dyfodol i reoli'r perygl o lifogydd.

Mae'r Cyngor yn gyfrifol am reoli'r perygl o ddŵr wyneb, cyrsiau dŵr cyffredin a ffynonellau dŵr daear. Cyfrifoldeb Cyfoeth Naturiol Cymru yw llifogydd prif afonydd, a chyfrifoldeb Dŵr Cymru yw rheoli llifogydd o garthffosydd. 

Roedd Storm Bert yn storm law eithafol a arweiniodd at lawiad a lefelau afonydd uwch nag erioed ledled Rhondda Cynon Taf ar 23 a 24 Tachwedd 2024. Crynhodd a dadansoddodd Adroddiad Trosolwg cychwynnol a gyhoeddwyd gan y Cyngor ym mis Mawrth 2025 effeithiau'r storm, a arweiniodd at lifogydd y tu mewn i 438 o eiddo a llifogydd ar rwydweithiau'r rheilffyrdd a ffyrdd, canol trefi a pharciau busnes.

Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi'r rhaglen waith ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys llunio adroddiadau Adran 19 ar gyfer pum lleoliad yr effeithiwyd arnyn nhw – Heol Caerdydd yn Aberaman; Canol Tref Pontypridd; Stryd Rhydychen yn Nantgarw; Stryd Britannia yn ardal Porth; a Stryd Abertonllwyd, Stryd Dunraven a Stryd y Bryn yn Nhreherbert. Mae'r Cyngor bellach wedi cyhoeddi'r pum adroddiad perthnasol yma.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “A ninnau'n Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol, mae’r Cyngor wedi cyflawni ei ddyletswydd statudol i gyhoeddi adroddiadau Adran 19 ar gyfer y pum cymuned yr effeithiwyd arnyn nhw gan lifogydd yn ystod Storm Bert. Mae'r rhain yn ddogfennau ffeithiol, sydd ar gael i'r cyhoedd ac fe'u lluniwyd gan ddefnyddio tystiolaeth o sawl ffynhonnell. Maen nhw'n adrodd ar y swyddogaethau y mae'r Awdurdodau Rheoli Perygl perthnasol wedi'u cyflawni, a hefyd yn nodi'r hyn y maen nhw'n bwriadu ei wneud yn y dyfodol.

“Dyma roi sicrwydd i drigolion fod lliniaru llifogydd yn parhau i fod yn faes buddsoddi blaenoriaeth, a byddwn ni'n targedu ffynonellau llifogydd y mae'r Cyngor yn gyfrifol amdanyn nhw – sef dŵr wyneb, cyrsiau dŵr cyffredin a llifogydd dŵr daear.

“Ers Storm Dennis yn 2020, mae mwy na £100 miliwn wedi’i wario ar waith atgyweirio ac uwchraddio 100 o gyrsiau dŵr ychwanegol, i gynyddu gwydnwch mewn lleoliadau sydd wedi’u targedu. Bedair blynedd yn ddiweddarach, credwn fod y buddsoddiad yma wedi helpu i leihau'r perygl o lifogydd i 2,200 eiddo yn ystod Storm Bert. Ond, er bod Storm Bert wedi tynnu sylw at ein cynnydd pwysig hyd yn hyn, fe’n hatgoffodd hefyd fod llawer mwy i’w wneud o hyd – mae stormydd cryfion yn dod yn llawer mwy cyffredin wrth i'r hinsawdd newid.

“Rydyn ni'n parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau cyllid pwysig, ac mae’r Cyngor yn darparu cyllid cyfatebol ar draws sawl rhaglen allweddol. Yn 2025/26, mae £4.52 miliwn wedi'i sicrhau ar draws rhaglenni Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol a Grant ar gyfer Gwaith ar Raddfa Fach, ynghyd ag £1.5 miliwn drwy'r Gronfa Ffyrdd Cydnerth ac mae gwaith yn mynd rhagddo yn ein cymunedau ar hyn o bryd.

“Hoffwn hefyd ddiolch i aelodau’r cyhoedd a ymatebodd i’n galwad am gymorth ym mis Mawrth ac Ebrill eleni, i rannu profiadau, lluniau a fideos o Storm Bert. Fe wnaeth y dystiolaeth yma ein helpu ni i ddeall beth ddigwyddodd a sut y cafodd y llifogydd eu hachosi, yn ogystal â sefydlu beth sydd angen digwydd nesaf.”

Crynhoir canfyddiadau'r pum adroddiad ymchwilio i lifogydd Adran 19 ar gyfer Storm Bert isod. Cafodd y rhain eu paratoi ar sail arolygiadau gan garfan Rheoli Perygl Llifogydd RhCT yn y dyddiau yn dilyn y storm, gwybodaeth gan drigolion, busnesau, carfan Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd RhCT, Depo Priffyrdd a Gofal Strydoedd RhCT, a Chyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru mewn achosion lle'r oedd yn berthnasol.

Heol Caerdydd, Aberaman (Ardal Ymchwilio i Lifogydd RhCT 02)

Arweiniodd Storm Bert at lifogydd y tu mewn i 29 o gartrefi ac un eiddo dibreswyl, yn ogystal â llifogydd sylweddol ar briffyrdd. Y prif achos oedd dŵr ffo sylweddol dros y tir o lethrau serth uwchlaw Aberaman, yn draenio i dir is trwy gyrsiau dŵr cyffredin. Fe wnaeth llawer o'r rhain orlifo oherwydd cyfaint y dŵr ynddyn nhw. Canfuwyd hefyd fod asedau carthffosiaeth gyfun amrywiol yn gorlifo, yn ogystal â dŵr wyneb lleol yn cronni, wedi cyfrannu at hyn.

Yn ei rôl fel yr Awdurdod Rheoli Perygl ar gyfer cyrsiau dŵr cyffredin, dŵr wyneb a dŵr daear, mae'r Cyngor wedi ymgymryd â 14 o gamau gweithredu ac mae'n cynnig chwech arall, mewn perthynas â llifogydd sydd wedi digwydd. Dŵr Cymru yw'r Awdurdod Rheoli Perygl ar gyfer llifogydd carthffosydd, ac mae wedi cynnig dau gam gweithredu ar gyfer y dyfodol. Mae manylion am y rhain wedi'u cynnwys yn yr adroddiad llawn.

Pontypridd (Ardal Ymchwilio i Lifogydd RhCT 08)

Arweiniodd y storm at lifogydd y tu mewn i 23 o gartrefi a 39 o eiddo dibreswyl, llifogydd sylweddol ar briffyrdd, a llifogydd i Lido Cenedlaethol Cymru. Y prif ffynonellau ar gyfer y llifogydd oedd yr Afon Taf yn mynd y tu hwnt i gapasiti ei sianel a nifer o asedau carthffosiaeth gyfun yn gorlifo. Roedd yr Afon Rhondda hefyd yn ffynhonnell llifogydd yn Stryd y Felin.

Mae data ar lefelau afonydd o orsafoedd monitro Cyfoeth Naturiol Cymru ym Mhontypridd a Threhafod yn dangos bod lefelau arferol y ddwy afon bron i bedair gwaith yn fwy yn ystod Storm Bert. Cyfyngodd hyn ar allu'r rhwydwaith carthffosiaeth gyfun i reoli llifau, gan arwain at orlwytho asedau draenio amrywiol ac achosi llifogydd. Nodwyd hefyd fod dŵr yn treiddio i sylfeini cartrefi a busnesau, ynghyd â chroniad dŵr wyneb lleol, yn ffynonellau llifogydd.

Yn ei swyddogaeth fel yr Awdurdod Rheoli Perygl ar gyfer llifogydd prif afonydd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cynnig chwe cham gweithredu ar gyfer y dyfodol. Mae Dŵr Cymru wedi nodi saith cam gweithredu sy'n ymwneud â llifogydd carthffosydd, ac mae'r Cyngor sy'n Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol a'r Awdurdod Priffyrdd wedi nodi saith cam gweithredu pellach i reoli ffynonellau llifogydd lleol. Mae cynigion y pedwar Awdurdod wedi'u cynnwys yn yr adroddiad llawn.

Stryd Rhydychen, Nantgarw (Ardal Ymchwilio i Lifogydd RhCT 12)

Yn ystod y storm bu llifogydd mewn 18 o gartrefi a thri eiddo dibreswyl, yn ogystal â llifogydd sylweddol ar briffyrdd. Canfuwyd mai'r brif ffynhonnell oedd yr Afon Taf yn gorlifo ei glannau wrth bibell cludo cyfleustodau (service crossing) a oedd wedi'i thynnu.

Datgelodd data Cyfoeth Naturiol Cymru ar lefelau afonydd o'i orsaf fonitro yng Nglan-bad fod lefel arferol yr afon dros bedair gwaith yn fwy yn ystod Storm Bert (5.07 metr) – dim ond 0.42 metr yn is na'i lefel uchaf a gofnodwyd erioed. Gwaethygodd croniad dŵr wyneb y priffyrdd y llifogydd hefyd. Achoswyd hyn gan ffactorau megis llif afonydd yn mynd i mewn i systemau draenio dŵr wyneb, a dwyster y glawiad.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n gyfrifol am lifogydd prif afonydd, yn cynnig pedwar cam gweithredu ar gyfer y dyfodol, tra bod y Cyngor sy'n Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol a'r Awdurdod Priffyrdd hefyd wedi cyflwyno pedwar cam gweithredu i reoli llifogydd dŵr wyneb. Disgrifir y rhain yn yr adroddiad llawn.

Stryd Britannia, Porth (Ardal Ymchwilio i Lifogydd RhCT 17)

Arweiniodd Storm Bert at lifogydd mewn 24 o gartrefi, ynghyd â llifogydd sylweddol ar y briffordd. Mae'r adroddiad yn sefydlu mai prif ffynhonnell y llifogydd oedd yr Afon Rhondda yn gorlifo ei glan ddeheuol mewn sawl lleoliad.

Dangosodd data o orsaf fonitro Trehafod Cyfoeth Naturiol Cymru fod lefel yr afon dros dri metr yn uwch na'i lefel arferol (3.6 metr) – dim ond 0.36 metr yn is na'r lefel uchaf a gofnodwyd erioed. Cyfrannodd llifau o dwll archwilio sy'n gysylltiedig â'r cwrs dŵr cyffredin yn Heol Coedcae at lifogydd y brif afon yn Stryd y Nant, a achoswyd gan falurion yn rhwystro'r llif. Gwaethygwyd y llifogydd gan groniad dŵr wyneb ar y briffordd, ac achoswyd hyn gan ffactorau megis llifau’r brif afon yn mynd i mewn i systemau draenio dŵr wyneb a dwyster y glawiad.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru, yr Awdurdod Rheoli Perygl ar gyfer llifogydd prif afonydd, wedi cynnig tri cham gweithredu ar gyfer y dyfodol. Mae'r Cyngor, yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol, wedi cynnig tri cham gweithredu ar gyfer cyrsiau dŵr cyffredin a dŵr wyneb. Mae'r adroddiad Adran 19 yn disgrifio'r camau gweithredu yma'n llawn.

Stryd Abertonllwyd, Treherbert (Ardal Ymchwilio i Lifogydd RhCT 25)

Yn ystod y storm bu llifogydd y tu mewn i 37 o gartrefi a dau eiddo dibreswyl, yn ogystal â llifogydd sylweddol ar briffyrdd. Y brif ffynhonnell oedd dŵr ffo dros dir a lifodd o lethrau serth uwchlaw Treherbert, gan ddraenio i dir is trwy gyrsiau dŵr cyffredin. Fe wnaeth llawer o'r rhain orlifo oherwydd cyfaint y dŵr ynddyn nhw. Cyfrannodd croniad lleol o ddŵr wyneb hefyd at y llifogydd. Roedd hyn yn deillio o law trwm a seilwaith oedd wedi'i orlethu.

Y Cyngor yw'r Awdurdod Rheoli Perygl ar gyfer y llifogydd dŵr wyneb a chyrsiau dŵr cyffredin a ddigwyddodd yn y lleoliad yma. Mae wedi ymgymryd â 14 o gamau gweithredu ac yn cynnig chwech arall, a rhestrir y rhain yn yr adroddiad Adran 19.

Wedi ei bostio ar 08/10/2025