Mae gadael eich cartref a symud i gartref gofal yn gam mawr. Mae'n bosibl y bydd modd i ni'ch helpu chi i edrych ar eich opsiynau a dod i benderfyniad sy'n gweddu i chi a'ch anghenion orau.
Mae cartrefi gofal un ai:
- yn gartrefi preswyl sy'n darparu cymorth a gofal personol. Bydd unrhyw ofal rydych chi'i angen o bryd i'w gilydd yn cael ei ddarparu trwy'ch meddyg ac yn cael ei roi gan nyrs ardal
- yn gartrefi nyrsio lle mae rhaid cael staff nyrsio cymwys ar ddyletswydd ar bob adeg. Mae modd i rai cartrefi nyrsio ddarparu gofal personol i breswylwyr sydd ddim angen gofal meddygol/nyrsio rheolaidd
Cartrefi gofal yn eich ardal
Nodwch eich cyfeiriad i weld y canlyniadau
Gwybodaeth am gartrefi gofal yn eich ardal chi
CartrefiGofal.Cymru - Y lle i ddod o hyd i wybodaeth am gartrefi gofal i oedolion yng Nghymru. Os ydych yn chwilio am gartref gofal i chi'ch hun neu i aelod o'ch teulu, rydych wedi dod i'r lle iawn. Rhestrir pob cartref gofal i oedolion yng Nghymru yma, gyda gwybodaeth sylfaenol yn cael ei diweddaru'n uniongyrchol gan y rheoleiddiwr gwasanaethau gofal - Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) bob wythnos.
Asesu'ch anghenion
Dydy gwneud penderfyniad i symud i gartref gofal ddim yn hawdd, yn enwedig os ydych chi'n sâl neu mewn profedigaeth. Pe hoffech chi gael cymorth gennyn ni, cysylltwch â'n Carfan Ymateb ar Unwaith a fydd wedyn yn trefnu asesiad anghenion er mwyn penderfynu a fydd gofal preswyl yn addas i chi. Fe gewch chi wybodaeth am y gwasanaethau eraill sydd ar gael hefyd.
Pam dewis gofal preswyl neu nyrsio?
Efallai'ch bod chi'n ei chael hi'n anodd gofalu amdanoch chi'ch hun yn eich cartref, efallai oherwydd salwch diweddar, neu achos eich bod chi'n mynd yn fwy bregus. Mae nifer o wasanaethau ar gael a all wneud eich bywyd yn haws. Mae gofal preswyl yn un posibilrwydd; mae gwasanaethau eraill yn cynnwys gofal cartref, gwasanaethau dydd, pryd ar glud, Gwifren Achub Bywyd (Lifeline) a Theleofal (Telecare), cymhorthion ac addasiadau yn y cartref. Gall pob un ohonyn nhw eich helpu chi i barhau i fyw yn annibynnol yn eich cartref eich hun.
Talu am ofal
Os ydych chi angen symud i gartref preswyl neu gartref nyrsio, mae'n ofynnol dan y Ddeddf Cymorth Gwladol i chi dalu rhywfaint tuag at gost eich llety. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'n tudalen Talu am Ofal.
Mae dyletswydd arnon ni i sicrhau bod eich cartref gofal yn darparu'r gofal sydd ei angen arnoch chi i ddiwallu'ch anghenion i gyd tra eich bod chi'n byw yno. Bydd ein Carfan Adolygu yn edrych ar eich lleoliad gofal cartref bob blwyddyn i sicrhau ei fod e'n parhau i gwrdd â'ch anghenion.
Carfan Ymateb ar Unwaith
Ffôn: 01443 425003