Skip to main content

Oriau Agor y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd 2023

Cyn gwyliau'r banc, gwyliau tymhorol, neu os bydd tywydd garw, fe wnawn ein gorau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar y dudalen yma, gan gynnwys y sefyllfa o ran gwasanaethau'r Cyngor sydd ar gael, a'r ffyrdd a'r ysgolion sydd ar gau.

I gael y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf, dilynwch ni ar Twitter a hoffwch ni ar Facebook 

Oriau Agor y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd 2023

Bydd y Cyngor, gan gynnwys y Ganolfan Alwadau i Gwsmeriaid AR GAU o 4pm ddydd Gwener 22 Rhagfyr tan 8:30am ddydd Mawrth 2 Ionawr 2024 – mae hyn yn berthnasol i BOB prif wasanaeth heblaw am argyfyngau tu allan i oriau'r swyddfa a rhai gwasanaethau hanfodol.

Os nad ydych chi'n gweld yr adran rydych chi'i heisiau isod, trowch i'r tudalennau neu wefannau unigol am wybodaeth ynglŷn â'u horiau agor dros y Nadolig. 

Bydd modd i chi ddefnyddio ystod o wasanaethau ar-lein yn ystod y cyfnod yma, ond rhaid i drigolion gofio efallai na fydd ceisiadau yn cael eu prosesu tan y bydd swyddfeydd yn ailagor am 9am ddydd Mawrth 2 Ionawr 2024.

Biniau ac ailgylchu

BYDD eich casgliadau Ailgylchu a Gwastraff YN NEWID dros y Nadolig. Gadewch eich eitemau yn eich man casglu arferol ar eich diwrnod casglu dros dro. Mae hyn yn berthnasol i BOB casgliad ailgylchu, gan gynnwys cewynnau, bwyd a bagiau ailgylchu CLIR.

Mae modd dod o hyd i fanylion LLAWN ar y tudalennau yma

Fydd gwastraff GWYRDD DDIM yn cael ei gasglu yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 25 Rhagfyr, er mwyn i ni allu defnyddio cymaint o adnoddau â phosibl i gasglu'r llwyth mawr o wastraff ailgylchu rydyn ni'n ei ddisgwyl eleni. Bydd gwasanaethau arferol yn ailddechrau ddydd Llun 15 Ionawr.

 

Casgliadau'r wythnos sy'n dechrau ddydd Llun 25 Rhagfyr  

Bydd casgliadau a fyddai fel arfer wedi’u cynnal ddydd Llun 25 Rhagfyr yn digwydd ddydd Mercher 27 Rhagfyr, a bydd pob casgliad yn digwydd 2 ddiwrnod yn hwyrach - felly bydd casgliadau dydd Llun yn digwydd ddydd Mercher, dydd Mawrth yn digwydd ddydd Iau, dydd Mercher ar y dydd Gwener, dydd Iau ar y dydd Sadwrn, a dydd Gwener ar y dydd Sul.

Bydd rhaid gosod gwastraff a deunydd ailgylchu'r cartref (ynghyd â gwastraff bwyd, cewynnau a bagiau ailgylchu CLIR) yn y man arferol erbyn 7am ar y diwrnod casglu dros dro.

Casgliadau'r wythnos sy'n dechrau ddydd Llun 1 Ionawr 2024 

Bydd pob casgliad yn digwydd ddiwrnod yn hwyrach - felly bydd casgliad dydd Llun yn digwydd ar y dydd Mawrth ac ati. Mae hyn yn wir ar gyfer POB casgliad ar gyfer ailgylchu, bwyd, cewynnau a bagiau du yr wythnos sy'n dechrau ddydd Llun, 1 Ionawr (wythnos y Flwyddyn Newydd).

Bydd rhaid gosod gwastraff a deunydd ailgylchu'r cartref (ynghyd â gwastraff bwyd a chewynnau) yn y man arferol erbyn 7am ar y diwrnod casglu.

Os nad yw'ch gwastraff / eitemau ailgylchu wedi cael eu casglu yn ôl y disgwyl, gadewch yr eitemau ar ymyl y ffordd. Mae'n bosibl bod ein gweithwyr yn gweithio oriau ychwanegol er mwyn ateb y galw. Bydd ein gweithwyr yn gweithio gyda'r nos ar adegau prysur.

Mae'r Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned ar agor rhwng 8am a 5.30pm bob dydd ac eithrio 24 a 31 Rhagfyr pan fyddan nhw'n cau am 3.30pm. Bydd pob canolfan ar gau Ddydd Nadolig, Dydd San Steffan, Dydd Calan gan ailagor ddydd Mawrth 2 Ionawr 2024.

Mae'r Cyngor hefyd yn cynnig gwasanaeth ailgylchu coed Nadolig rhwng 2 Ionawr a 2 Chwefror 2024. Bellach, mae modd i drigolion drefnu amser i ni gasglu'u coeden yn ystod y cyfnod yma.

Mae gwybodaeth fwy manwl am hwn ar gael ar dudalennau ailgylchu'r Nadolig ar y wefan yma 

Ewch i'r tudalennu ailgylchu am wybodaeth gyffredinol am ailgylchu, gan gynnwys dod o hyd i'ch diwrnod casglu a chanllawiau clir am yr hyn mae modd ei ailgylchu.

Gofal Cymdeithasol

Os oes angen i chi gysylltu ag aelod o'r Garfan Gofal Cymdeithasol dros gyfnod y Nadolig, defnyddiwch y rhifau ffôn canlynol:

  • Materion Gofal Cymdeithasol Brys tu allan i oriau'r swyddfa, gan gynnwys penwythnosau, gwyliau banc a chyfnod y Nadolig: 01443 743665.

I'r rheiny sydd angen cysylltu â'u darparwr gwasanaeth uniongyrchol dros benwythnos Gŵyl y Banc, cysylltwch â nhw'n uniongyrchol gan ddefnyddio'r manylion cyswllt y maen nhw wedi'u darparu.

Pryd-ar-glud

Bydd y garfan yn cefnogi ei chleientiaid dros gyfnod y Nadolig ac mae bwydlen wedi'i darparu i'r holl gleientiaid i archebu ymlaen llaw lle bo angen. 

Bydd y garfan Prydau yn y Gymuned yn cefnogi defnyddwyr y gwasanaeth dros gyfnod y Nadolig ac mae wedi trafod dewisiadau'r fwydlen gyda defnyddwyr y gwasanaeth i archebu ymlaen llaw lle bo angen. 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y tudalennau yma. 

Digartrefedd

Mae gwybodaeth a chyngor ar gael ar dudalen digartrefedd y wefan yma.

Mae gwasanaeth brys y tu allan i oriau arferol y swyddfa hefyd ar gael drwy gydol cyfnod y Nadolig drwy ffonio 01443 425011.

Y Swyddfa Gofrestru

Fydd y swyddfa gyffredinol DDIM ar agor dros gyfnod y Nadolig – 25 Rhagfyr hyd at 2Ionawr 2024, i fynd i'r afael â cheisiadau/materion sy'n ymwneud â thystysgrifau.  

Bydd y Swyddfa Gofrestru, Prif Adeiladau'r Cyngor, Pontypridd ar agor fel a ganlyn dros gyfnod y Nadolig: 

Dydd Gwener 22 Rhagfyr

AR AGOR

Dydd Sadwrn 23 Rhagfyr 

AR GAU / Seremonïau wedi'u trefnu yn unig

Dydd Sul 24 Rhagfyr (Noswyl Nadolig)

AR GAU / Seremonïau wedi'u trefnu yn unig

Dydd Llun 25 Rhagfyr (Dydd Nadolig)

AR GAU

Dydd Mawrth 26 Rhagfyr (Dydd San Steffan)

AR GAU

Dydd Mercher 27 Rhagfyr 

AR AGOR

Dydd Iau 28 Rhagfyr

AR AGOR

Dydd Gwener 29 Rhagfyr 

AR GAU

Dydd Sadwrn 30 Rhagfyr 

AR GAU

Dydd Sul 31 Rhagfyr (Nos Galan)

AR GAU / Seremonïau wedi'u trefnu yn unig

Dydd Llun 1 Ionawr 2024

AR GAU / Seremonïau wedi'u trefnu yn unig

Dydd Mawrth 2 Ionawr 2024

GWASANAETHAU ARFEROL YN AILDDECHRAU  

Mynwentydd a Gwasanaethau Profedigaethau

Bydd y brif swyddfa (Glyntaf) yn dilyn y drefn yma dros gyfnod y Nadolig: 

Dydd Gwener 22 Rhagfyr

AR AGOR - gwasanaethau claddu llawn tan 2pm yn unig

Dydd Sadwrn 23 Rhagfyr 

AR GAU

Dydd Sul 24 Rhagfyr (Noswyl Nadolig)

AR GAU

Dydd Llun 25 Rhagfyr (Dydd Nadolig)

AR GAU

Dydd Mawrth 26 Rhagfyr (Dydd San Steffan)

AR GAU

Dydd Mercher 27 Rhagfyr 

AR AGOR 09:00a.m. – 14:00 p.m.

Dydd Iau 28 Rhagfyr

AR AGOR 09:00a.m. – 14:00 p.m.

Dydd Gwener 29 Rhagfyr 

AR AGOR 09:00a.m. – 14:00 p.m.

Dydd Sadwrn 30 Rhagfyr 

AR GAU

Dydd Sul 31 Rhagfyr (Nos Galan)

AR GAU

Dydd Llun 1 Ionawr 2024

AR GAU

Dydd Mawrth 2 Ionawr 2024

AR AGOR

Dydd Mercher 3 Ionawr 2024

AR AGOR

Dydd Iau 4 Ionawr 2024

GWASANAETHAU ARFEROL YN AILDDECHRAU  

Bydd gwasanaethau claddu llawn ar gael ar 22 Rhagfyr tan 2pm - Rhaid derbyn yr holl waith papur perthnasol erbyn 3pm ddydd Gwener 15 Rhagfyr ar yr hwyraf.

Fydd dim modd cynnal gwasanaethau claddu llawn nac ar gyfer gweddillion amlosgedig ar ddyfnder llawn yn ein mynwentydd o ddydd Mercher 27 Rhagfyr hyd at ddydd Mawrth 2 Ionawr 2024.

Dylid cyflwyno dogfennau wedi'u cwblhau ar gyfer gwasanaethau claddu wedi'u hamserlennu ar gyfer 4 Ionawr erbyn 3pm ar 21 Rhagfyr 2023 ar yr hwyraf.

Bydd ein gwasanaethau yn ailddechrau yn llawn ar 4 Ionawr 2024.  

Ar hyn o bryd, does dim newidiadau ar gyfer tiroedd mynwentydd dros gyfnod y Nadolig.

Bydd tiroedd mynwentydd ar agor bob dydd o 9am tan 4pm, hyd yn oed ar Ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan. 

Ambell waith, mae amgylchiadau eithriadol yn codi pan fydd rhaid inni gau mynwentydd i gerbydau ar fyr rybudd.  

Os bydd raid cau ffyrdd i gerbydau i mewn i fynwent, caiff hysbysiad ei osod ar gatiau'r fynwent a fydd yn rhoi gwybod i'r cyhoedd. Cyn gynted ag y bydd yn ddiogel, caiff gatiau'r fynwent i gerbydau eu hagor.  

Mae modd i gerddwyr ymweld â'r fynwent hyd yn oed pan fydd ffyrdd i gerbydau wedi'u cau. Er hynny, bydden ni'n argymell yn gryf i bobl fod yn ofalus pan fyddan nhw'n ymweld â'n mynwentydd pan fydd y tywydd yn arw ac i sicrhau eu bod yn gwisgo dillad ac esgidiau addas er mwyn osgoi cwympo ac anafiadau.   

Toiledau Cyhoeddus

Bydd yr holl doiledau cyhoeddus ledled Rhondda Cynon Taf yn gweithredu'r oriau canlynol dros yr ŵyl:

Dydd Gwener 22 Rhagfyr  

AR AGOR

Dydd Sadwrn 23 Rhagfyr 

Ar AGOR tan 4pm

Dydd Sul 24 Rhagfyr (Noswyl Nadolig)

AR GAU

Dydd Llun 25 Rhagfyr (Dydd Nadolig)

AR GAU

Dydd Mawrth 26 Rhagfyr (Dydd San Steffan)

AR GAU

Dydd Mercher 27 Rhagfyr

AR AGOR

Dydd Iau 28 Rhagfyr  

AR AGOR 

Dydd Gwener 29 Rhagfyr 

AR AGOR

Dydd Sadwrn 30 Rhagfyr 

Ar AGOR tan 4pm

Dydd Sul 31 Rhagfyr (Nos Galan)

AR GAU

Dydd Llun 1 Ionawr 2024

AR GAU

Dydd Mawrth 2 Ionawr 2024

GWASANAETHAU ARFEROL YN AILDDECHRAU  

Mae modd gweld manylion llawn a lleoliadau'r cyfleusterau yma -Toiledau Cyhoeddus

Canolfannau Hamdden

Ewch i'r wefan Hamdden neu ddilyn @RCTLeisureService ar Facebook i gael manylion am oriau agor eich canolfan leol.

Parc Treftadaeth Cwm Rhondda

Bydd Teithiau'r Aur Du yn ailddechrau ar 16 Ionawr 2024
Caffè Bracchi
Noswyl Nadolig - Ar agor tan 2pm
Bydd Caffè Bracchi ar gau dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd a bydd yn ailagor ar 4 Ionawr 2024.
Bydd Craft of Hearts ar agor tan Noswyl Nadolig. Bydd dosbarthiadau'n ailddechrau ar 9 Ionawr 2024. 

Lido Cenedlaethol Cymru – Lido Ponty

Ewch i wefan Lido Ponty neu dilynwch @LidoPonty ar Twitter a Facebook am fanylion gweithgareddau ac oriau agor.

Llyfrgelloedd

Bydd llyfrgelloedd ar gau o ddydd Llun 25 Rhagfyr tan ddydd Mawrth 2 Ionawr 2024.

Manylion am Wasanaethau'r Llyfrgelloedd

Bydd Canolfan Dysgu Gydol Oes Gartholwg ar gau o 23 Rhagfyr tan ddydd Mawrth 2 Ionawr 2024 a bydd gweithgareddau yn ailddechrau yr wythnos ganlynol.

Gwasanaeth Cyngor IBobUn

Bydd swyddfeydd IBobUn ar gau o ddydd Llun 25 Rhagfyr ac yn ailagor ddydd Mawrth 2 Ionawr 2024.

Parc Gwledig Cwm Dâr

Bydd y parc ar agor bob dydd ond bydd y Ganolfan i Ymwelwyr ar gau rhwng 23 Rhagfyr a 2 Ionawr

Caffi Cwtsh
Dydd Nadolig - ar gau
Gŵyl San Steffan - ar gau
27/12/23 – 31/12/23 - Oriau agor arferol
Dydd Calan  - ar gau

Parc Beiciau Disgyrchiant
23 Rhagfyr - ar agor 9am - 5pm
24 Rhagfyr - ar gau
Dydd Nadolig - ar gau
Gŵyl San Steffan - ar gau
27 Rhagfyr - 30 Rhagfyr - ar agor 9am - 5pm
31 Rhagfyr - ar agor 9am - 2.30pm
1 Ionawr 2024 - ar gau 

Theatrau

Ewch i wefan Theatrau RhCT neu ddilyn @RCTtheatres ar Twitter a @ColiseumTheatreAberdare @ParkandDare ar Facebook am fanylion.

Cau Ysgolion a Chludiant Ysgol

Mae pob ysgol AR GAU o ddydd Gwener 22 Rhagfyr (heblaw am ddiwrnodau HMS wedi'u trefnu) dros wyliau'r Nadolig.

  • Bydd ysgolion yn ailagor ddydd Llun 8 Ionawr (heblaw am ar ddiwrnodau HMS wedi'u trefnu ar ôl gwyliau'r Nadolig).

Dilynwch y dolenni isod i fwrw golwg ar yr wybodaeth ddiweddaraf am ysgolion sy wedi'u cau, amserlenni tymhorau'r ysgolion a chludiant ysgol.

Ffyrdd ar Gau

Dyma'r tudalennau ar gyfer yr wybodaeth ddiweddaraf am ffyrdd sydd ar gau -

Meysydd Parcio

Mae modd parcio ym meysydd parcio talu ac arddangos y Cyngor yn Aberdâr a Phontypridd AM DDIM ar ôl 10am bob dydd ym mis Rhagfyr yn rhan o fenter parcio dros yr ŵyl y Cyngor.  

Cofiwch fod meysydd parcio'r Llyfrgell, y Stryd Las, Stryd y Dug a'r Stryd Fawr yn Aberdâr, a maes parcio Heol y Weithfa Nwy ym Mhontypridd, yn rhai cyfnod byr a chewch chi ddim parcio am fwy na phedair awr yno. Dyma atgoffa'r rheiny sy'n parcio cyn 10am bod angen iddyn nhw arddangos tocyn tan 10am yn unig. 

Unwaith eto, fydd dim rhaid talu am barcio ym meysydd parcio'r Cyngor yn y ddwy dref ar ôl 10am bob dydd drwy fis Rhagfyr i gyd – o ddydd Gwener, 1 Rhagfyr, i ddydd Sul, 31 Rhagfyr. Bwriad y cynnig yw annog trigolion i wneud cymaint o’u siopa Nadolig yn lleol â phosibl, gan roi hwb i’n masnachwyr gwych yng nghanol y dref yr adeg yma o’r flwyddyn. 

 

Nodwch fod y meysydd parcio hynny sydd ar glo y tu allan i oriau codi tâl arferol, e.e. maes parcio aml-lawr Stryd y Santes Catrin ym Mhontypridd, ar gau bob dydd Sul ac ar Wyliau Banc.

Trafnidiaeth Gyhoeddus

Mae'r Cyngor yn falch o gyhoeddi y bydd Cynllun Uchafswm o £1 am Docyn Bws Un Ffordd ar gyfer pob taith bws sy'n dechrau ac yn gorffen yn Rhondda Cynon Taf yn cael ei gyflwyno ar gyfer mis Rhagfyr 2023 - gan ddarparu teithio rhatach dros gyfnod yr ŵyl.

Rhagor o wybodaeth

Cysylltwch â'r cwmnïau perthnasol yn uniongyrchol am ragor o wybodaeth am newidiadau i wasanaethau yn ystod cyfnod y Nadolig ac yn ystod tywydd garw.

Cysylltu â'r Cyngor mewn Argyfwng:

Cofiwch, mae modd cysylltu â'r Cyngor os bydd argyfwng dros Ŵyl y Banc drwy ffonio 01443 425011, tu allan i oriau gweithio neu os bydd tywydd garw, 24 awr y dydd a saith diwrnod yr wythnos.