Bydd Ffordd Mynydd y Maerdy yn cau rhwng 7am a 4pm ddydd Sul 3 Rhagfyr er mwyn cynnal gwaith gosod wyneb newydd ar y ffordd ychwanegol, sy'n gysylltiedig â'r gwelliannau sylweddol i'r priffyrdd wedi'u cwblhau dros yr haf.
Bu buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd mewn sefydlogi llwybr y mynydd yn dilyn tirlithriad ochr Aberdâr y ffordd ym mis Rhagfyr 2015, yn ogystal â gwaith gosod wyneb newydd ar y ffordd, trwsio ac amnewid y waliau cynnal a gwaith draenio.
Roedd gwelliannau i ddiogelwch y ffordd hefyd yn rhan o'r cynllun oedd wedi'i ariannu gan Grant Diogelwch ar y Ffordd Llywodraeth Cymru.
Bydd arwyddion ar gyfer y llwybr amgen yn ystod y cyfnod yma.
Fydd mynediad i'r gwasanaethau argyfwng ddim yn parhau.
Mae trefniadau yn eu lle i ddarparu cysylltiadau yng Ngorsaf Fysiau Tonypandy ar gyfer teithwyr sy'n defnyddio gwasanaeth bws 172 Aberdâr-Porthcawl.
Wedi ei bostio ar 01/12/2017