Mae tri chynllun lliniaru llifogydd pellach wedi'u cyhoeddi ar gyfer ardal Pentre, ar ôl i’r Cyngor sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â gwaith mewn tri lleoliad. Mae hyn yn dilyn buddsoddiad cychwynnol o bron £950,000 ar gyfer cymuned Pentre hyd yma, yn dilyn dinistr Storm Dennis.
Yn ddiweddar, mae'r Cyngor wedi sicrhau bron £200,000 o gyllid, sy'n cynnwys dyraniad o Gronfa Ffyrdd Cydnerth Llywodraeth Cymru i wella draeniad priffyrdd yng nghyffiniau Pentre Road, a dyraniad cyllid pellach a gafwyd o Gronfa Rheoli Llifogydd (Cynlluniau Bach) Llywodraeth Cymru, ar gyfer gwelliannau parhaus yng nghyffiniau Stryd Hyfryd, sy'n dilyn cyflwyno daliwr malurion wrth fynedfa'r parc. Bydd y rhan olaf o'r cyllid yn cael ei wario ar waith dylunio a datblygu ar gyfer cynllun yn Stryd Y Gwirfoddolwr.
Er eu bod yng nghyfnod cynnar eu datblygiad, rhagwelir y bydd y cynlluniau yma'n cael eu rhoi ar waith yn ystod Haf 2021.
Mae gwaith helaeth yn parhau ar ddylunio a datblygu'r cynllun lliniaru llifogydd gwerth miliynau o bunnoedd i leihau'r risg o lifogydd yn ardal Pentre.
Yn ddiweddar, mae preswylwyr wedi gweld rhywfaint o weithgarwch casglu data, wrth i ni gynnal arolwg o'r rhwydwaith draenio a lefelau'r ddaear. Bydd hyn yn parhau dros yr ychydig fisoedd nesaf wrth i fodel efelychu cyfrifiadurol cymhleth gael ei greu fel bod modd canfod datrysiad cynaliadwy i'r risg uchel o lifogydd.
Wrth i'r prosiect mawr ddatblygu, bydd y Cyngor yn parhau gyda'i raglen barhaus i wneud gwelliannau i'r system ddraenio. Mae'r gwaith o osod twll archwilio ac atgyweirio darn o gylfat bron wedi'i gwblhau yn Stryd Margaret.
Mae gwaith hefyd yn parhau ar uwchraddio Cilfach Nant-y-Pentre ac mae disgwyl i'r cynllun gael ei gwblhau ym mis Mai 2021. Yn ogystal â hynny, cwblhawyd astudiaethau ar orsaf bwmpio Stryd y Gwirfoddolwr, a bydd gwaith yn cael ei wneud i gynyddu ei effeithlonrwydd a'i gydnerthedd o fewn yr ychydig fisoedd nesaf.
Wedi ei bostio ar 23/04/21