Skip to main content

Gweithiwr Ieuenctid RhCT yn Weithiwr Ieuenctid y Flwyddyn Cymru

Cheryl

Rydyn ni'n falch iawn bod Cheryl Fereday, Swyddog Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid yng Ngwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid (YEPS) Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, wedi ei chyhoeddi yn “Weithiwr Ieuenctid y Flwyddyn Cymru”.

Mae Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid Llywodraeth Cymru yn cydnabod ac yn dathlu gwaith ieuenctid rhagorol yng Nghymru. Caiff gwobr Gweithiwr Ieuenctid y Flwyddyn ei dyfarnu i Weithwyr Ieuenctid rhagorol sydd wedi mynd y tu hwnt i'w rôl arferol ac sydd wedi cael effaith eithriadol ar bobl ifainc.

Wrth ddisgrifio pam cafodd Cheryl ei henwebu ar gyfer y wobr, mae gwefan y gwobrau yn nodi ei bod “yn fodel rôl gwych i'r rhai sy'n gweithio ochr yn ochr â hi – yn ymroddedig, gwybodus, dibynadwy a bob amser wrth law os oes angen help neu gefnogaeth ar unrhyw un."

Rôl bresennol Cheryl yw darparu gwasanaeth o ansawdd uchel i bobl ifainc rhwng 16 a 24 oed sy'n agored i niwed a chefnogi pobl ifainc lle mae anawsterau cymhleth yn effeithio ar ymgysylltu a chyfranogi.

Yn ddiweddar, arweiniodd raglen beilot lwyddiannus, y 'Rhaglen Dod yn Annibynnol', a oedd yn cynnig cefnogaeth, cyngor ac arweiniad i bobl ifainc 16 i 24 oed wrth iddyn nhw droi'n oedolion ifanc. Roedd y prosiect yn hanfodol bwysig gan ei fod yn ymgysylltu â grŵp hynod o fregus o bobl ifanc ag anghenion cymhleth.

Cheryl ddyluniodd a chyflwynodd y prosiect ac roedd yn ymdrin â phynciau, dysgu a materion nad ydyn nhw'n cael sylw helaeth yn gyffredinol yn yr ysgol, fel perthnasoedd, diogelwch ar y we, iechyd rhywiol, a sgiliau byw'n annibynnol.

Tynnodd y panel beirniadu sylw at ehangder profiad Cheryl, ei heffaith amlwg a'i hymrwymiad tymor hir, ynghyd â'i hagwedd gadarnhaol tuag at ddulliau newydd.

Meddai'r Cynghorydd Christina Leyshon, Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau i Blant: “Rwy’n falch iawn bod Cheryl wedi cael yr anrhydedd yma. Mae'n haeddiannol iawn, ac mae hi'n glod i'n Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid (YEPS) yma yn RhCT.

“Mae hyn yn dilyn y cyhoeddiad yn gynharach y mis hwn y byddai YEPS yn derbyn Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru. Mae'r Wobr Efydd a gafodd ei chyflwyno i'r Gwasanaeth yn cydnabod ei waith o ran rheoli cyflawniad, ansawdd ymarfer ei waith gyda phobl ifainc a'u dysg a'u datblygiad.

“Fel y gwnaeth y beirniaid yn glir, roedd dealltwriaeth Cheryl o anghenion pobl ifainc yn amlwg ac mae ei hempathi, ei charedigrwydd a’i hymroddiad llwyr i’r bobl ifainc y mae’n gweithio gyda nhw yn ysbrydoledig. Mae hi'n glod i Rondda Cynon Taf.”

Mae modd darllen mwy am y gwobrau yma – https://llyw.cymru/gwobrau-rhagoriaeth-gwaith-ieuenctid/enillwyr-a-theilyngwyr/gwobrau-2021/cheryl-fereday?_ga=2.257549771.1327071572.1639386717-1476143813.1620736980

Wedi ei bostio ar 15/12/2021