Skip to main content

Cau ffordd ar fyr rybudd: Stryd Allen, Aberpennar

Mae angen cau Stryd Allen, Aberpennar, ar fyr rybudd er mwyn cynnal gwaith atgyweirio mewn perthynas â difrod sgwrfa yn dilyn Storm Christoph. Bydd gwelliannau'n cael eu cyflawni ar y lôn sy'n cysylltu â Stryd Phillip cyn i'r lôn gael ei defnyddio fel llwybr amgen ar gyfer trigolion.

Mae'r Cyngor wedi nodi difrod sgwrfa ar wal gynnal y briffordd, ac mae angen cynnal gwaith brys mewn perthynas â'r difrod yma. Bydd angen cau rhan uchaf Stryd Allen er mwyn cyflawni'r gwaith yma. Rydyn ni wrthi'n penodi contractwr a fydd yn gyfrifol am gyflawni'r gwaith. Bydd y ffordd yn cau am bedair wythnos, gan ddechrau ym mis Mawrth 2021.  Mae'r Cyngor hefyd yn cyflawni gwaith archwilio mewn perthynas â gwaith pellach sydd angen ei gyflawni ar y rhan yma o'r cwrs dŵr, sydd wedi gweld fflachlifogydd.

Mae'r Cyngor eisoes yn cyflawni gwaith ar y cwrs dŵr ar ran isaf Stryd Allen, yn rhan o gynllun lliniaru llifogydd Teras Granville.

O ganlyniad i hyn, bydd y llwybr amgen yn defnyddio'r lôn ganol sy'n cysylltu Stryd Allen â Stryd Phillip, er mwyn galluogi trigolion i gael mynediad i'w cartrefi. Bydd y rhan yma o'r ffordd yn elwa o waith gosod wyneb newydd ar y ffordd cyn cau Stryd Allen.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Mae'r Cyngor yn parhau i ymrwymo i gyflawni gwaith atgyweirio a diogelu strwythurau'r priffyrdd ar gyfer y dyfodol, yn enwedig o ran y rhai sydd wedi dioddef difrod yn ystod digwyddiadau storm diweddar. Yn ystod archwiliad a gafodd ei gynnal yn dilyn y storm ddiweddaraf, Storm Christoph, mae Swyddogion wedi nodi difrod i wal gynnal ar ben uchaf Stryd Allen. Yn anffodus, mae angen cynnal gwaith brys i sicrhau diogelwch y strwythur.

“Mae angen cau'r ffordd er mwyn cyflawni'r gwaith yma a gan fod Cynllun Lliniaru Llifogydd ar wahân yn cael ei gyflawni ar ran isaf Stryd Allen, bydd y Cyngor yn cyflawni gwaith gosod wyneb newydd ar y lôn rhwng Stryd Allen a Stryd Phillip a fydd yn cael ei defnyddio fel llwybr amgen. Hoffwn i ddiolch i drigolion am eu cydweithrediad yn ystod y cyfnod yma, wrth i ni fynd ati i ddatrys y broblem."

Wedi ei bostio ar 19/02/2021