Bydd cwsmeriaid Hamdden am Oes yn sylwi ar newidiadau i amserlenni a chynydd yn y capasiti yn y campfeydd, pyllau nofio a dosbarthiadau ffitrwydd o ddydd Llun Awst 9.
Wrth i ganllawiau a chyfyngiadau Covid gael eu llacio, mae staff ar draws y gwasanaeth yn paratoi i ddychwelyd yn raddol i alluogi'r un nifer o gwsmeriaid i ddefnyddio'u safleoedd ar yr un pryd ag yr oedd yn bosibl yn y cyfnod cyn Covid.
Yn ogystal â chynyddu'r niferoedd sy'n gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau a ddychwelodd beth amser yn ôl, mae Hamdden am Oes yn croesawu dychweliad chwaraeon tîm fel pêl-droed pum bob ochr dan do, pêl-rwyd a gymnasteg.
Hoffwn atgoffa cwsmeriaid bod Canolfan Hamdden Llantrisant a Chanolfan Chwaraeon Cwm Rhondda yn parhau i fod yn ganolfannau brechu torfol. Bydd y ddwy ganolfan yn parhau i gynnig dosbarthiadau campfa/nofio a ffitrwydd cyfyngedig yn ystod yr amser yma, a'u prif bwrpas yw parhau i gefnogi'r rhyddid cynyddol a roddir wrth ddilyn y rhaglen frechu COVID-19.
Mae Hamdden am Oes yn newid yn gyflym. Yr ap yw'r ffordd fwyaf effeithiol o gael y newyddion a'r amserlenni diweddaraf. Mae modd ei lwytho am ddim o siopau Apple a Google Play.
Mae modd i chi ddefnyddio'r ap i ddewis y ganolfan(nau) Hamdden am Oes i weld beth sydd ymlaen, faint o leoedd sydd ar ôl mewn sesiwn a sut i ymuno neu gadw lle ar-lein. Bydd yr ap yn rhoi gwybod i chi pan fydd capasiti ar gyfer gweithgareddau yn cynyddu a phryd bydd chwaraeon tîm yn ailddechrau yn syth i'ch ffôn neu ddyfais wrth i'r newidiadau gael eu cadarnhau.
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Threftadaeth: “Mae Hamdden am Oes yn ailagor ac yn ehangu’r ddarpariaeth yn ofalus fel y mae llacio'r cyfyngiadau sy’n gysylltiedig â Covid yn caniatáu hynny.
“Mae canllawiau'r Covid newydd yn caniatáu iddyn nhw ateb y galw clir gan lawer o gwsmeriaid am ragor o gapasiti yn y gweithgareddau y maen nhw wedi bod yn eu mwynhau - a dychweliad y chwaraeon y maen nhw wedi'u colli.
"Mae diwallu'r galw yma wrth barhau i gadw cwsmeriaid, staff a'r gymuned ehangach yn ddiogel yn her sylweddol. Rydyn ni'n canmol staff Hamdden am Oes ar draws pob un o'r 10 canolfan am eu hymdrechion parhaus.
“Mae'r cynnydd llwyddiannus a diogel i gapasiti Hamdden am Oes, fel y mae canllawiau'r Covid yn caniatáu, wedi bod yn bosibl diolch i gydweithrediad ein cwsmeriaid a'r ffaith eu bod nhw wedi ymddwyn mewn ffordd gyfrifol. Rydyn ni'n eu hannog nhw i fod yn effro i'r gofynion diogelwch parhaus.
“Yn olaf, mae Hamdden am Oes yn parhau i fod yr un mor ymrwymedig i anghenion y cwsmeriaid hynny sy'n dal i deimlo'n fwy diogel yn aros gartref. Ni fydd Hamdden am Oes yn cymryd ffi aelodau ganddyn nhw nes eu bod yn barod i ddychwelyd."
Rhaid i gwsmeriaid:
- Parhau i wisgo gorchuddion wyneb wrth gerdded o amgylch cyfleusterau hamdden - mae modd tynnu masgiau i wneud ymarfer corff yn unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru;
- Bod yn effro i'r ffaith bydd gweithdrefnau argaeledd, capasiti a chadw lle yn amrywio rhwng canolfannau. Bydd pob canolfan yn cyhoeddi eu canllawiau unigol / penodol ar Facebook a'r ap;
- Bod yn barod i barhau i gadw lle ymlaen llaw ar gyfer rhai gweithgareddau, megis nofio yn gynnar yn y bore. Unwaith eto, mae modd i hyn amrywio rhwng canolfannau, felly cadwch lygaid ar yr ap neu ffoniwch eich canolfan os dydych chi ddim yn siŵr;
- Defnyddio'r hylif glanweithio a ddarperir i lanhau eu hoffer ffitrwydd a'u hoffer ar gyfer dosbarthiadau ar ôl eu defnyddio (Bydd staff yn parhau i lanhau ystafelloedd, coridorau ac offer);
- Ystyried teimladau pobl eraill wrth ddefnyddio'r canolfannau. Efallai y bydd rhai cwsmeriaid yn dal i fod eisiau cadw pellter cymdeithasol;
- Bod yn ofalus wrth ddefnyddio cyfleusterau a rhoi gwybod i staff os oes gyda nhw bryderon;
- Bod yn effro i'r ffaith ein bod ni'n newid y ffordd rydyn ni'n gweithredu'n raddol dros yr wythnosau nesaf - byddwch yn amyneddgar.
Wedi ei bostio ar 06/08/2021