Mae'r Cyngor wedi trefnu bod gwasanaeth bws gwennol lleol yn rhedeg nos Sul o ganlyniad i gau Heol y Bont-Newydd yn Llantrisant. Mae'n angenrheidiol cau'r ffordd i hwyluso gwaith parhaus sy'n rhan o'r cynllun Llwybrau Diogel mewn Cymunedau.
Dechreuodd y cynllun a gyhoeddwyd yn flaenorol i weithredu mesurau diogelwch ar y ffyrdd ledled Llantrisant yn gynharach y mis yma. Wrth gyhoeddi'r gwaith, dywedodd y Cyngor y byddai angen cau'r ffordd er mwyn gosod llwyfandir cyffordd newydd, sy'n rhan o'r cynllun, yn Dan Caerlan.
Mae'r Cyngor yn cadarnhau y bydd hyn yn digwydd dros ddwy nos Sul er mwyn tarfu cyn lleied â phosib - Mawrth 28 ac Ebrill 18 (o 6pm). Bydd y ffordd yn ailagor erbyn 2am y bore Llun canlynol.
Ar y ddau achlysur, bydd yr B4595 Heol y Bont-Newydd yn cau o'r ddwy ochr i'w chyffordd â Dan Caerlan, am 325 metr. Bydd mynediad ar gael i gerbydau'r gwasanaethau brys, i gerddwyr ac i bob eiddo yn y cyffiniau.
Bydd llwybr amgen ar gyfer modurwyr yn cael ei arwyddo'n glir ar hyd Heol y Bont-Newydd, Ffordd Llantrisant, Heol Gwaunmeisgyn, Heol Tynant, Heol y Plwyf, Y Coetir, y B4595 Ffordd Llantrisant, yr A473, yr A4119, Heol Talbot a'r Stryd Fawr. Dilynwch y drefn yma i'r gwrthwyneb ar gyfer teithio i'r cyfeiriad arall.
Ni fydd gwasanaeth bws 100 Edwards Coaches rhwng Pontypridd ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn gallu gwasanaethu arosfannau bysiau yn Hen Dref Llantrisant o 6pm ar Fawrth 28 ac Ebrill 18. Bydd y gwasanaeth yn dargyfeirio trwy Yorkdale, yr A473 a Cross Inn, er mwyn gwasanaethu Gorsaf Fysiau Tonysguboriau ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
Felly, bydd Edwards Coaches yn gweithredu bws gwennol i'r ddau gyfeiriad rhwng Hen Dref Llantrisant a Gorsaf Fysiau Tonysguboriau am 7.55pm, 8.10pm, 9.05pm a 9.20pm. Bydd hyn yn galluogi teithwyr i gysylltu â gwasanaethau eraill yn yr orsaf fysiau yn ystod y cyfnodau y mae'r ffordd ar gau.
Wedi ei bostio ar 26/03/21