Skip to main content

DIRWY o dros £3,360 am dipio'n anghyfreithlon

Tipiwch yn anghyfreithlon yn Rhondda Cynon Taf ac fe fyddwch chi'n cael eich dal fel dysgodd y SAITH unigolyn yma'n ddiweddar!

Dros y mis diwethaf mae SAITH unigolyn wedi'u dal yn gyfrifol mewn llys am eu tipio anghyfrifol, anystyriol. Mae hyn wedi arwain at dros £3,660 mewn dirwyon - cyfartaledd o dros £520 yr un!

Dyma atgoffa trigolion fod dyletswydd gofal arnyn nhw i gael gwared ar eu gwastraff yn briodol, ac i sicrhau bod eitemau'n cael eu gwaredu'n gywir. Os na fyddwch chi'n gwneud hyn, efallai bydd y gost yn fwy na theithio ychydig filltiroedd ychwanegol i'r ganolfan ailgylchu yn y gymuned agosaf!

Roedd gweithredoedd yr unigolion yn cynnwys gosod eitemau dros waliau eu gerddi – gan adael eitemau ar draws priffyrdd cyhoeddus am wythnosau, gadael eitemau wrth Ganolfan Ailgylchu yn y Gymuned pan fo'r ganolfan ar gau a gofyn i gwmni heb ei gofrestru i waredu eu gwastraff gan arwain at dipio'n anghyfreithlon. 

Mae Adran 33(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 yn disgrifio'r drosedd o dipio’n anghyfreithlon fel a ganlyn (yn Saesneg yn unig): “illegal deposit of any waste onto land that does not have a licence to accept it”.  Mae modd i unrhyw un sy'n cael gwared ar eu gwastraff yn anghyfreithlon wynebu dirwy sylweddol fel mae’r bobl yma wedi cael gwybod!

Fydd achosion o dipio'n anghyfreithlon, taflu sbwriel neu beidio â chodi baw cŵn mewn man cyhoeddus ddim yn cael eu goddef yn Rhondda Cynon Taf. Mae'r achosion diweddaraf yn dangos y bydd y Cyngor yn defnyddio pob un o'i bwerau i ddal unigolion sy'n gyfrifol am ddifetha ei drefi a'i ardaloedd gwledig.

Yn ogystal â chynnal gwiriadau rheolaidd ledled y Fwrdeistref Sirol ac ymateb i bryderon sy'n dod i law, mae gan y Cyngor nifer o gamerâu cudd, symudol sy'n cael eu gosod mewn lleoliadau ble mae achosion o dipio'n anghyfreithlon.

Mae gan y Cyngor wasanaeth diderfyn wythnosol, sy'n casglu sbwriel sych, gwastraff bwyd a chewynnau i'w hailgylchu o ymyl y ffordd. Yn ogystal â hynny, mae gan y Cyngor nifer o ganolfannau ailgylchu yn y gymuned ledled y Fwrdeistref Sirol, felly does dim esgus dros dipio’n anghyfreithlon, yn enwedig tipio'r eitemau hynny y mae modd eu casglu o ymyl y ffordd neu eu hailgylchu yma yn Rhondda Cynon Taf.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Threftadaeth:

“Fyddwn ni ddim yn goddef tipio anghyfreithlon yn ein Bwrdeistref Sirol. Does BYTH esgus i ddifetha'n trefi, strydoedd na'n pentrefi gyda'ch gwastraff a byddwn ni'n dod o hyd i'r rhai sy'n gyfrifol ac yn eu dwyn i gyfrif.

"Fel y mae'r achosion yma'n dangos, rydyn ni'n ymchwilio i BOB adroddiad am dipio'n anghyfreithlon a byddwn ni'n cael gwybod yr holl fanylion fel y mae'r troseddwr yma wedi cael gwybod.

"Mae cael gwared ar dipio’n anghyfreithlon yn ein Bwrdeistref Sirol yn costio cannoedd ar filoedd o bunnoedd y byddai modd eu gwario ar wasanaethau rheng flaen allweddol.

 “Byddwn ni'n defnyddio POB pŵer sydd ar gael inni, i ddal i gyfrif y rheini sy'n gyfrifol am eu gweithredoedd. Mae llawer o'r eitemau rydyn ni'n eu clirio oddi ar ein strydoedd, ein trefi a'n mynyddoedd yn eitemau y mae modd eu hailgylchu neu waredu yn y Canolfannau Ailgylchu  yn y Gymuned neu hyd yn oed eu casglu o ymyl y ffordd - heb unrhyw gost ychwanegol."

I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut i roi gwybod i ni am achosion o Dipio'n Anghyfreithlon, Ailgylchu a Chanolfannau Ailgylchu yn y Gymuned yn RhCT, dilynwch y Cyngor ar Facebook/Twitter neu alw heibio i www.rctcbc.gov.uk

Wedi ei bostio ar 17/11/2021