Mae'r etholiadau lleol yn cael eu cynnal ddydd Iau 5 Mai 2022.
Byddan nhw'n cynnwys etholiadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ac etholiadau Cynghorau Cymuned mewn rhai llefydd. Bydd y bobl sy'n cael eu hethol yn cynrychioli eu hardal ac yn gwasanaethu tymor o BUM mlynedd.
Mae ymgeiswyr lleol ar gyfer yr etholiadau lleol bellach wedi'u cyhoeddi ac i'w gweld yma.
Bellach, mae gyda PHOB preswylydd 16 oed neu'n hŷn sydd wedi’i gofrestru’n gyfreithiol yr hawl i bleidleisio yng Nghymru – cofrestrwch yma.
Mae'n bosibl bod pethau wedi newid ers i chi bleidleisio ddiwethaf, felly gwiriwch i sicrhau bod yr wybodaeth ddiweddaraf gyda chi.
Mae ein Carfan Etholiadau wedi anfon llythyrau i bob cartref yn RhCT, felly gwiriwch eich bod chi ar ein cofrestr etholiadol a bod yr holl fanylion yn gywir.
Wedi ei bostio ar 06/04/22