DIWEDDARIAD, 04/05/22: Nodwch, dyma gadarnhau y bydd y prif gynllun yn cychwyn ddydd Llun, 9 Mai.
Mae'r Cyngor wedi ailgydio yn y gwaith ar Heol yr Orsaf yn Nhreorci i gryfhau strwythurau allweddol sy'n cefnogi'r ffordd. Mae'r gwaith paratoi wedi dechrau a bydd y prif waith yn dechrau yn gynnar ym mis Mai eleni.
Llynedd, dechreuodd cynllun trwsio a chynnal pwysig ar Gantilifer Nant Cwm-parc a Phont y Stiwt sy'n rhan o Heol yr Orsaf, yr A4061. Bu oedi dros y gaeaf o ganlyniad i gyfyngiadau tymhorol gan fod y gwaith yn digwydd yn agos at yr afon.
Aeth contractwr y Cyngor, Walters Ltd nôl i'r safle ar 19 Ebrill er mwyn ailgydio yn y gwaith a pharatoi'r safle, gan gynnwys sefydlu swyddfa reoli. Bydd y prif waith yn ailddechrau ddydd Llun, 9 Mai.
Mae'r gwaith sydd ar ddod (dechrau 9 Mai) yn cynnwys atgyfeirio'r afon er mwyn caniatáu gwaith yno, a dymchwel parapet concrid y wal gynnal ar yr A4061 Heol yr Orsaf yn ogystal â'r cafnau haearn sy’n cynnal y llwybr cerdded.
Caiff corred carreg bloc a pharapedau concrid eu gosod i lawr yr afon o Bont y Stiwt. Bydd gwaith trwsio a chryfhau yn digwydd ar Bont y Stiwt a bydd y llwybr cerdded yn cael ei ymestyn. Bydd arwyneb maes parcio'r llyfrgell hefyd yn cael ei drwsio ar ddiwedd y cynllun.
Trefniadau traffig dros dro
Bydd y ffordd ddi-enw at y maes parcio rhwng Stryd Dyfodwg a Stryd Illtyd ar gau trwy gydol y gwaith er mwyn caniatáu gwaith wrth yr afon. Bydd y ffordd yn cau ddydd Mawrth, 19 Ebrill. Bydd rhan o'r maes parcio ar gau er mwyn creu lle i swyddfa reoli a storfa'r contractwr.
Bydd rhaid cau'r lôn tua'r gogledd ar Heol yr Orsaf a'r llwybr cerdded am wythnos o ddydd Llun, 9 Mai. Bydd goleuadau traffig 4 ffordd ar waith yno. Bydd cau'r lôn yma'n golygu bod modd tynnu'r wal parapet oddi yno. Bydd rhaid symud safle bws y Parc a'r Dâr tua'r gogledd dros dro.
Er mwyn cwblhau'r cynllun erbyn diwedd mis Awst 2022 bydd rhaid atal traffig – bydd culhau'r lonydd ar Heol yr Orsaf yn golygu bod pellter diogel rhwng y traffig a'r gweithwyr.
Bydd y goleuadau traffig dros dro ar Heol yr Orsaf a'r safle bws newydd yn dychwelyd ar gyfer pythefnos olaf y cynllun. Bydd gwneud hyn yn golygu bod modd cwblhau'r gwaith a thynnu safle'r contractwr oddi yno.
Hoffai'r Cyngor ddiolch i breswylwyr a chymudwyr am eu cydweithrediad wrth gwblhau'r cynllun pwysig yma i gryfhau strwythurau allweddol.
Wedi ei bostio ar 04/05/2022