Mae llawer o bobl yn meddwl am y costau tanwydd cynyddol a'r argyfwng costau byw felly hoffen ni godi ymwybyddiaeth o'r cyngor a'r gwasanaethau sydd ar gael i drigolion Rhondda Cynon Taf trwy Garfan Gwresogi ac Arbed y Cyngor.
O ganlyniad i effaith yr argyfwng costau byw, mae rhagor o unigolion a theuluoedd yn ei chael hi'n anodd talu biliau ynni i gadw eu cartrefi'n ddiogel ac yn gynnes. Yn ôl amcangyfrifon elusen National Energy Action, mae disgwyl y bydd tua 23% o aelwydydd yn y DU yn wynebu tlodi tanwydd, sef cynnydd o dros 50% yn ystod y chwe mis diwethaf.
Mae'r cynnydd yma o ganlyniad i filiau ynni cynyddol a pherfformiad ynni cartrefi, yn ogystal â'r argyfwng costau byw. Mae hyn yn golygu bod gan ragor o aelwydydd lai o arian i’w wario ar wresogi eu cartrefi neu ar fwyd. Efallai y bydd costau bwyd yn golygu na fydd gan rai aelwydydd arian yn weddill i dalu am wresogi'u cartref. Serch hynny, gall peryglon peidio â chadw'r cartref yn ddigon cynnes gael effaith niweidiol ar iechyd a lles meddyliol pobl.
Mae gan y Cyngor garfan benodol sy'n gallu helpu trigolion i gadw eu cartrefi'n gynnes trwy gynnig gwasanaethau a chyngor. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Cymorth Grant neu Fenthyciad – mae'n bosibl bod cymorth ariannol ar gael i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi (enghreifftiau o waith)
- RCT Switch - cyngor diduedd am ddim ynglŷn â newid tariff
- Cyngor cyffredinol ar effeithlonrwydd ynni er mwyn arbed ynni yn y cartref
- Cyngor o ran dyledion cyfleustodau (nwy, trydan a dŵr)
- Cyngor o ran gwneud y mwyaf o'ch incwm a rheoli arian
Gall y garfan hefyd atgyfeirio at y canlynol:
- Cyflenwyr ynni am ragor o gymorth ariannol
- Cyngor ar Bopeth (dyled, budd-daliadau a gwasanaethau cyngor i ddefnyddwyr)
- Yr Asiantaeth Gofal a Thrwsio
- Cynllun NYTH Llywodraeth Cymru
- Parseli neu Fanciau Bwyd
- Presgripsiynau
- Mynediad at gofrestri o wasanaethau sydd â blaenoriaeth
Mae modd gweld rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael yma
Wedi ei bostio ar 23/12/2022