Skip to main content

Penodi Maer Newydd yn RhCT

Wendy Treeby - Mountain Ash West

Ar ôl cyfarfod Cyngor Rhondda Cynon Taf a gafodd ei gynnal ddydd Mercher, 19 Ionawr, mae'r Cynghorydd Wendy Treeby wedi'i phenodi'n Faer newydd Rhondda Cynon Taf.

Bydd y Cynghorydd Treeby, Aelod Etholedig Gorllewin Aberpennar, yn parhau yn y rôl am weddill blwyddyn y Cyngor ar ôl i'w rhagflaenydd, y Cynghorydd Jill Bonetto, adael. Mae hi'n ymuno â Chabinet y Cyngor yn Aelod ar Faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant.

Cadarnhau Aelodau newydd o'r Cabinet

Meddai'r Cynghorydd Treeby ei bod yn edrych ymlaen at ei chyfnod yn Faer Rhondda Cynon Taf. Mae hi wedi byw yma ar hyd ei hoes ac mae'n parhau i hyrwyddo'r Fwrdeistref Sirol ar bob cyfle.

Bydd y Cynghorydd Treeby yn cefnogi nifer o elusennau yn ystod ei chyfnod fel Maer Rhondda Cynon Taf, gan gynnwys Ambiwlans Awyr Cymru, Cymdeithas Strôc ac elusen Green Meadow Riding for the Disabled, yn ogystal â chefnogi'r Lluoedd Arfog.

Cymar y Maer am weddill flwyddyn y Cyngor yw Mr Paul Hammett.

Ar ôl ei phenodi, meddai'r Cynghorydd Wendy Treeby, Maer Rhondda Cynon Taf: “Bydd yn anrhydedd enfawr i mi wasanaethu yn Faer Rhondda Cynon Taf am weddill blwyddyn y Cyngor a bydda i'n falch iawn o wneud hynny.

“Hoffwn i dalu teyrnged i waith fy rhagflaenydd, y Cynghorydd Jill Bonetto, a dymuno’n dda iddi yn ei rôl newydd yn Aelod Cabinet ar Faterion Addysg a Gwasanaethau cynhwysiant gyda’r Awdurdod Lleol.

“Mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn hynod o anodd i ni i gyd, felly dyma ddiolch yn ddiffuant i’n holl staff rheng flaen sydd wedi rhoi cymaint o gefnogaeth a chymorth i gynifer o bobl pan roedd angen hynny.

“A finnau'n Faer, bydda i'n parhau i gefnogi llawer o elusennau a – lle bo'n ddiogel i wneud hynny – rwy'n edrych ymlaen at gwrdd â chymaint o bobl â phosib.”

Hefyd wedi ei phenodi yng nghyfarfod y Cyngor ddydd Mercher, 19 Ionawr, roedd Dirprwy Faer Rhondda Cynon Taf, y Cynghorydd Wendy Lewis, Aelod Etholedig Ward Llwynypia.

Wedi ei bostio ar 21/01/2022