Skip to main content

Mae ceisiadau i drefnu parti stryd ar gyfer y Jiwbilî Blatinwm bellach ar agor

DIWEDDARIAD: 19/04/22

Gyda chymorth y Cyngor, mae modd i gymunedau sy'n dymuno cael parti stryd i ddathlu'r Jiwbilî Blatinwm ar benwythnos Gŵyl y Banc wneud cais i gau'r ffordd.

Ei Mawrhydi yw'r Frenhines Brydeinig gyntaf i ddathlu 70 o flynyddoedd o wasanaeth ar 6 Chwefror 2022. Er mwyn dathlu'r pen-blwydd yma, mae nifer o achlysuron a mentrau'n cael eu cynnal ledled y DU gan ddod i uchafbwynt gyda phenwythnos Gŵyl y Banc a fydd yn para 4 diwrnod o ddydd Iau 2 Mehefin tan ddydd Sul 5 Mehefin.

I helpu trigolion a chymunedau i ddod ynghyd i ddathlu'r garreg filltir hanesyddol yma, ac er mwyn ymuno ag ysbryd y dathliadau, fydd y Cyngor ddim yn codi tâl i gau'r ffordd fel y bydd yn ei wneud fel arfer ar gyfer y rheiny sy'n bwriadu cynnal parti stryd.  Cofiwch fod rhaid i bob stryd unigol wneud cais unigol i gau'r ffordd a rhaid i'r parti gael ei gynnal ar ddyddiau Gŵyl y Banc estynedig yn unig (2-5 Mehefin).

Mae'n cymryd amser i drefnu cau'r ffordd. Rhaid dilyn proses ymgeisio ffurfiol er mwyn cau unrhyw ffordd ar gyfer parti stryd, fel bod y Cyngor yn effro i bob un. Drwy wneud hyn bydd modd i'r Cyngor roi gwybod i sefydliadau partner eraill, gan gynnwys cwmnïau bysiau.

Rhaid i unrhyw un sy'n dymuno cynnal parti stryd wneud cais i'r Cyngor cyn y dyddiad cau sef dydd Iau, 28 Ebrill. Mae'n bosibl na fydd ceisiadau sy'n cael eu derbyn ar ôl y cyfnod yma'n cael eu derbyn. Mae modd cwblhau'r broses ar wefan y Cyngor.

Meddai llefarydd dros Gyngor Rhondda Cynon Taf: "Mae'r Cyngor wedi derbyn nifer o ymholiadau gan y cyhoedd ynglŷn â chynnal parti stryd yn eu cymunedau i ddathlu Jiwbilî Blatinwm y Frenhines ar benwythnos Gŵyl y Banc estynedig ym mis Mehefin, ac am wybod a oes hawl ganddyn nhw i wneud hynny ai peidio. Mae'r Cyngor yn rhoi cymorth i drigolion trwy beidio â chodi'r tâl arferol ar gyfer cau'r ffordd, er mwyn helpu cymunedau i ddathlu'r pen-blwydd arbennig yma.

"I sicrhau bod y dathliadau'n cael eu cynnal yn y ffordd fwyaf diogel posibl, bydd raid i bod stryd gael ei chau'n ffurfiol. Bydd hyn yn rhoi gwybod i'r Cyngor am yr achlysuron, ac yn golygu y bydd modd i ni roi gwybod i'n partneriaid megis y gwasanaethau brys a chwmniau bysys, fel bod modd iddyn hwythau ddiwygio'u llwybrau nhw hefyd. Mae'r broses i wneud cais bellach ar agor, ac i'r rheiny sy'n dymuno cynnal parti, rydyn ni'n gofyn i chi lenwi'r ffurflen gais ar-lein cyn gynted â phosibl - a chyn y dyddiad cau sef 28 Ebrill."

Wedi ei bostio ar 16/03/22