Skip to main content

Cefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog

Veterans Service

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn parhau i gefnogi ei Gymuned Lluoedd Arfog a'i gyn-filwyr. Mae nifer ohonyn nhw wedi'u heffeithio gan yr hyn sy'n digwydd yn yr Wcráin ar hyn o bryd.

Mae nifer o bobl sydd eisoes yn dioddef o Anhwylder Straen Wedi Trawma o ganlyniad i'w hamser ar wasanaeth gweithredol yn gweld yr ymosodiad milwrol yn datblygu ar y teledu ac yn clywed adroddiadau graffig yn fyw ar y radio.

Mae Gwasanaeth Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog y Cyngor wrth law ac yn cynnig cymorth a chefnogaeth i'r rhai sydd eu hangen fwyaf. Dyma'r pwynt cyswllt cyntaf i lawer o gyn-filwyr a'u teuluoedd sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf.

MeddaiDirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Maureen Webber: “Mae’n bwysig bod pob un o’n cyn-filwyr o bob oed, a’u teuluoedd, yn gwybod bod Gwasanaeth Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog y Cyngor yno i gynnig cymorth, cefnogaeth ac arweiniad iddynt pryd bynnag maen nhw angen y cymorth yma yn ystod eu bywydau.

"Mae'r ffaith bod modd i ni weld y digwyddiadau diweddar yn yr Wcráin yn datblygu ar y teledu, oherwydd y sianeli newyddion sydd ar gael, yn ysgogi llawer o emosiynau gwahanol ar gyfer y rhai sydd wedi bod yn y lluoedd arfog ar ryw adeg yn ystod eu bywydau.

“Er bod y bobl yma'n byw yn ein trefi a’n pentrefi, mae nifer ohonyn nhw'n dal i ddioddef. Mawr yw'n dyled ni i'r Lluoedd Arfog, yn y gorffennol a heddiw. Fyddwn ni byth yn anghofio'r aberth maen nhw wedi'i wneud, ac yn parhau i'w wneud.

“Mae’r digwyddiadau hyn yn yr Wcráin yn drist iawn a byddwn ni'n parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i helpu ein cyn-filwyr gyda’u hiechyd a’u lles ar hyn o bryd.”

Cymorth Iechyd a Lles ar gyfer ein Lluoedd Arfog

Mae Gwasanaeth Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog y Cyngor yn cynnig cymorth ac arweiniad cyfrinachol i gyn-filwyr sy'n byw yn y Fwrdeistref Sirol, yn ogystal â'u teuluoedd, drwy gydol y flwyddyn. Mae'r grŵp yn cynnig ystod eang o gymorth am faterion megis Anhwylder Straen Wedi Trawma, Tai, Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Budd-daliadau, Cyllid a Chyflogaeth.

Trwy ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth diduedd ac ymroddgar AM DDIM, caiff aelodau'r Lluoedd Arfog, ddoe a heddiw, siarad â swyddogion penodol yn gyfrinachol. Ffoniwch 07747 485 619 neu anfon e-bost i GwasanaethiGynfilwyr@rctcbc.gov.uk.

Wedi ei bostio ar 10/03/22