Skip to main content

Yn galw ar ddefnyddwyr brwd y Lido!

Lido

Yn galw ar ddefnyddwyr brwd y Lido! Mae sesiynau nofio yn ystod y dydd a sesiynau hwyl ar ôl ysgol yn ailddechrau mis nesaf yn Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty!

Bydd y tocynnau'n mynd ar werth am 9am ddydd Llun, 16 Mai. Bryd hynny, bydd modd prynu tocynnau hyd at 30 Mehefin 2022. I brynu tocynnau ewch i www.lidoponty.co.uk

Bydd amserlen gwyliau'r ysgol yn Lido Ponty ar waith dros y Sulgwyn, gan ddechrau ddydd Sadwrn, 28 Mai ac yn parhau hyd at ddydd Sul, 5 Mehefin. Bydd dwy sesiwn nofio ben bore y diwrnod (saith diwrnod yr wythnos) a chwe sesiwn hwyl i deuluoedd. Bydd y tri phwll ar agor a bydd modd cael tro ar y gweithgareddau gwynt.

Bydd amserlen estynedig yn ystod y tymor yn dechrau ddydd Llun, 6 Mehefin ac yn parhau hyd at ddiwedd y tymor.

Bydd dwy sesiwn nofio ben bore yn y prif bwll a'r pwll gweithgareddau o ddydd Llun tan ddydd Gwener, a bydd sesiynau nofio mewn lonydd a nofio hamddenol yn y prif bwll am 9am. 10.45am, 12.30pm a 2.15pm. Bydd y pwll sblash gyda ffynnon i blant bach ar agor yn ystod y dydd.

Ar ôl ysgol, bydd dwy sesiwn hwyl i deuluoedd am 4pm a 5.45pm.

Bydd trefn gyfredol y penwythnos yn parhau, gyda dwy sesiwn nofio ben bore a sesiynau hwyl i deuluoedd drwy'r dydd.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings: "Rwy'n gwybod bod yr haf ar y ffordd pan mae amserlen estynedig Lido Ponty yn dechrau ac mae rhagor o gyfleoedd ar gael i fwynhau un o'r atyniadau mwyaf prydferth ac unigryw yng Nghymru.

"Hyd yn hyn, mae'r tymor wedi bod yn llwyddiannus iawn wedi inni ddechrau defnyddio system cadw lle newydd a chroesawu ymwelwyr i fwynhau'r Lido a'r pyllau awyr agored cynnes. Diolch yn fawr i bawb am eu cefnogaeth hyd yn hyn ac rydyn ni'n edrych ymlaen at weld wynebau hen a newydd drwy gydol y tymor."

Mae tocynnau ar gyfer sesiynau Lido Ponty hyd at 30 Mehefin yn mynd ar werth ddydd Llun, 16 Mai. Cadwch le ar-lein: www.lidoponty.co.uk

Dewiswch sesiwn nofio mewn lonydd/nofio hamddenol ar gyfer nofio oriau dydd a sesiynau hwyl i deuluoedd ar gyfer sesiynau ar ôl ysgol ac ar y penwythnos.

Fyddwn ni ddim yn cadw tocynnau i'w gwerthu ar y diwrnod nac yn gwerthu tocynnau wrth dderbynfa. Mae'r tocynnau i gyd ar gael ar y wefan. Os byddwch chi'n prynu tocyn ond yn methu mynd i'r sesiwn, cysylltwch â ni fel bod modd inni werthu'r tocyn.

Pe hoffech chi ganslo, addasu neu newid eich archeb, ffoniwch y dderbynfa neu e-bostiwch LidoPonty@rctcbc.gov.uk.

Wedi ei bostio ar 13/05/2022