Skip to main content

Dyma gyflwyno'r Waled Ddigidol Di-Arian Parod cwbl newydd

webthum

Dyma gyflwyno’r Waled Ddigidol Di-Arian Parod cwbl newydd – ffordd ddiogel a hawdd o dalu am eich gweithgareddau Hamdden am Oes.

Mae’r Waled Ddigidol Di-Arian Parod am ddim i'w ddefnyddio. Mae'n rhan o ymrwymiad parhaus Hamdden am Oes i gwsmeriaid, gan ddarparu opsiynau diogel, modern a chyfleus er mwyn iddyn nhw reoli eu cyfrifon a'u mynediad at hamdden yn y ffordd sy’n addas iddyn nhw.

Mae'r Waled Ddigidol Di-Arian Parod yn berffaith ar gyfer y rhai nad ydyn nhw'n talu aelodaeth fisol ac sydd am greu pot o gredyd, y mae modd ei ddefnyddio i fynd i'r gampfa, nofio, dosbarthiadau ffitrwydd, chwaraeon dan do ac ystafelloedd iechyd.

Mae modd i rieni a chynhalwyr hefyd ei ddefnyddio i ychwanegu at gyfrifon plant a phobl ifainc, fel bod credyd ar gael gyda nhw yn eu waled bob amser os ydyn nhw am fynd i nofio neu fynd i'r gampfa.

Mae modd i chi hyd yn oed ychwanegu at Waled Ddigidol Di-Arian Parod fel anrheg i ffrind neu aelod o'r teulu sy'n mwynhau cyfleusterau hamdden!

Mae'n ddiogel ac yn hawdd ychwanegu ato ac mae modd gwneud hyn drwy'r Ap Hamdden am Oes neu'r wefan. Mae modd i chi hefyd alw i heibio i'ch canolfan Hamdden am Oes agosaf a bydd staff yn rhoi credyd ar y cyfrif a'i nodi ar y system i chi.

Bob tro y byddwch chi'n defnyddio canolfan hamdden, bydd cost y gweithgaredd yn cael ei dynnu o falans y credyd fel bod modd i chi weld beth rydych chi'n ei wario a phryd y mae angen i chi ychwanegu ato.

Does dim angen swm penodol neu uchafswm arnoch chi i gredydu'ch cyfrif. I gael gwybod rhagor, gofynnwch i staff yn eich canolfan Hamdden am Oes agosaf neu bwriwch olwg ar adran Waled Ddigidol Di-Arian Parod yr Ap neu'r wefan.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: “Mae Hamdden am Oes yn addasu’n gyson fel bod mod iddo ddiwallu anghenion ei gwsmeriaid, yn enwedig yn y cyfnod cyfnewidiol yma pan fo pobl eisiau ac angen cadw llygad ar yr hyn y maen nhw'n ei wario.

“Aelodaeth fisol yw’r ffordd hawsaf a mwyaf fforddiadwy o hyd o gael mynediad i Hamdden am Oes, wrth i un taliad misol ganiatáu i chi gael mynediad diderfyn i'r gampfa, cyfleusterau nofio, dosbarthiadau ffitrwydd, chwaraeon dan do ac ystafelloedd iechyd ar draws ein holl ganolfannau.

“Fodd bynnag, rydyn ni’n effro i'r ffaith bod yna lawer o gwsmeriaid nad ydyn nhw’n barod i ymrwymo i aelodaeth fisol, neu ddim eisiau ymrwymo i aelodaeth fisol ac y byddai’n well gyda nhw dalu am eu gweithgareddau hamdden ar sail talu wrth fynd.

“Mae'r Waled Ddigidol Di-Arian Parod yn berffaith ar gyfer hyn. Rhowch gredyd ar eich cyfrif wrth i chi fynd yma ac acw, ac yna fydd dim rhaid i chi ychwanegu'ch manylion talu bob tro y byddwch chi am gadw lle mewn dosbarth talu wrth fynd drwy'r Ap.

“Mae modd i rieni neu gynhalwyr ei ddefnyddio ar gyfer plant a phobl ifainc, gan ychwanegu credyd at eu cyfrif ar benwythnosau a gwyliau'r ysgol fel bod modd iddyn nhw fanteisio ar gyfleusterau hamdden yn eu hamser rhydd. 

“Mae modd i chi wirio'ch balans ac ychwanegu credyd ar unrhyw adeg.”

 Lawrlwythwrch yr ap nawr

 AP Hamdden am Oes ar gyfer y ffôn symudol

Wedi ei bostio ar 18/10/22