Oherwydd y galw mawr gan y cyhoedd, mae Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty, wedi cadarnhau y bydd yn cynnig pedair sesiwn nofio mewn dŵr oer yn ystod hydref/gaeaf 2022.
Mae'r cyhoeddiad yma'n newyddion da i'r rheiny sy'n gwsmeriaid rheolaidd ac i'r rhai sy'n hoff iawn o'r Lido ac wedi gofyn iddi gadw ei drysau ar agor ar ôl i dymor arferol 2022 orffen – hyd yn oed os yw hynny'n golygu nofio mewn dŵr oerach!
Bydd y sesiynau gaeaf yma'n apelio at wahanol nofwyr yn Lido Ponty, yn enwedig y rheiny sydd eisoes, neu'n ystyried, nofio mewn dŵr oer.
Bydd y rheiny sy'n cymryd rhan mewn triathlon a chystadlaethau Iron Man hefyd yn elwa o'r cyfle i hyfforddi am gyhyd neu cyn lleied o amser a hoffen nhw yn y sesiynau mynediad agored.
Mae croeso i'r rheiny sy'n 16 oed a hŷn ymuno â'r sesiynau gaeaf yn Lido Ponty, ond mae telerau ac amodau pwysig i’w darllen cyn cymryd rhan. Mae'n bosibl darllen y rheiny, yma.
Er mwyn tawelu meddwl pob nofiwr, bydd arbenigwr a charfan achub bywyd Lido Ponty yn goruchwylio pob sesiwn, a bydd yr ystafelloedd newid a chawodydd dan do ar gael i'w defnyddio. (Mae modd defnyddio'r cawodydd a'r ystafelloedd newid awyr agored hefyd os ydych chi'n teimlo'n ddigon dewr!)
Byddwch chi'n nofio yn y prif bwll a'r pwll gweithgareddau, a bydd tymheredd y ddau bwll yn cael ei gynnal ar 15 gradd. Bydd y sesiynau yn costio £2 y pen.
Bydd y sesiynau nofio gaeaf yn cael eu cynnal am gyfnod cychwynnol o bedair wythnos, o 29 Hydref. Bydd y sesiynau yn cael eu cynnal rhwng 8am – 9am, 9.15am-10.15am & 10.30am-11.30am ar ddyddiau Sadwrn a Sul. Mae modd i nofwyr gadw eu lle ar gyfer y sesiwn ac aros i nofio am gyhyd a hoffen nhw.
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: "Mae wedi bod yn flwyddyn lwyddiannus arall i Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty. Rydyn ni wedi croesawu mwy na 112,000 o bobl ar gyfer sesiynau nofio ben bore a’r sesiynau hwyl i deuluoedd drwy gydol prif dymor 2022 - sy'n fwy nag unrhyw flwyddyn arall hyd yma.
"Rydyn ni'n effro i'r ffaith ei bod hi bob amser yn siomedig pan ddaw'r prif dymor i ben, ond rydyn ni'n edrych ymlaen at groesawu pawb yn ôl ar gyfer mwy o hwyl yn Lido Ponty yn 2023. Yn y cyfamser, rydyn ni'n edrych ymlaen at arbrofi'r amserlen nofio gaeaf ac yn paratoi ar gyfer sesiynau nofio Gŵyl San Steffan a Dydd Calan."
Mae modd ichi gadw eich lle ar gyfer y sesiynau nofio gaeaf, yma:
Mae disgwyl i'r tocynnau ar gyfer sesiynau nofio Gŵyl San Steffan a Dydd Calan fynd ar werth ym mis Rhagfyr.
Wedi ei bostio ar 19/10/22