Skip to main content

Cadw Pethau'n Real yn RhCT

Yr wythnos ailgylchu yma (rhwng 17 a 23 Hydref), rydyn ni'n gofyn i drigolion 'GADW PETHAU'N REAL' i RCT!

Beth am gadw pethau'n REAL a gwneud popeth yn ein gallu i ailgylchu cymaint ag y gallwn ni er mwyn sicrhau ein bod ni'n lleihau ein gwastraff cartref yn gyffredinol?

Yr wythnos ailgylchu yma, y canolbwynt cenedlaethol yw i 'GADW PETHAU'N REAL' ac mae'n canolbwyntio ar y ffaith ein bod ni gyd yn bobl go iawn sy'n gwneud ein gorau glas i wneud gwahaniaeth yn ein cartrefi, ein cymunedau ac ar draws y byd. Rydyn ni'n ailgylchwyr O FRI yng Nghymru - rydyn ni'n DRYDYDD yn y byd!

Mae arolwg a gafodd ei gynnal yn ddiweddar ar Dewch i Siarad (adnodd ymgysylltu ar-lein y Cyngor) yn dangos bod 100% o'r rheiny a gymerodd ran yn defnyddio gwasanaethau ailgylchu'r Cyngor, dywedodd 97% eu bod nhw'n ei ddefnyddio'n wythnosol a dywedodd 95% eu bod yn defnyddio'r gwasanaeth gwastraff bwyd. Dyma newyddion GO IAWN gan drigolion GO IAWN - sy'n newyddion gwych!

Dyma'r ystadegau go iawn - rhwng Ebrill 2021 ac Ebrill 2022, fe wnaeth trigolion RhCT ailgylchu dros 59,900 tunnell. Y newyddion drwg ydy bod dros 4,220 yn rhagor o dunelli wedi gorfod cael eu taflu oherwydd halogiad - oni bai am hyn byddai 6.5% yn rhagor wedi cael ei hailgylchu!

Cafodd 12,300 tunnell o wastraff bwyd ei gasglu yn ystod yr un cyfnod - sy'n swm syfrdanol. OND, roedd yn rhaid taflu dros 482 tunnell oherwydd eu bod wedi'u halogi. Dyna bron i 4% yn fwy o wastraff bwyd a fyddai wedi gallu cael ei ailgylchu!

Y newyddion da ydy bod digon o ynni wedi'i gasglu o'r gwastraff bwyd a gafodd ei ailgylchu i bweru tua 1180 o aelwydydd!

Mae un peth yn sicr y gallwn ni i gyd ei wneud, a hynny yw gwneud yn siŵr nad ydy ein hymdrechion ailgylchu'n mynd yn wastraff drwy fod yn ddiog wrth y sinc a pheidio â rinsio ein heitemau cyn eu rhoi yn y bagiau clir! Gall yr un tun yna, gydag ychydig o weddillion bwyd, achosi bag cyfan o eitemau i beidio â chael eu hailgylchu – neu gallai hyd yn oed ddifetha lori lawn o eitemau. Mae'n bwysig iawn gwybod beth, ble a sut i ailgylchu eitemau'r cartref. Yn ddigon lwcus i chi, mae gan RCT adnodd chwilio A-Z sydd ar gael o fore gwyn tan nos i drigolion ei ddefnyddio!

Efallai na fydd modd ailgylchu rhai eitemau o ymyl y ffordd, ond mae opsiynau eraill...

Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned – Mae CHWE Chanolfan Ailgylchu yn y Gymuned ledled y Fwrdeistref Sirol, sydd ar agor 7 diwrnod yr wythnos rhwng 8am a 7.30pm (oriau agor yr haf). Mae pob canolfan yn derbyn nifer fawr o eitemau, o blastigau caled i bridd, pren a dyfeisiau trydanol sydd wedi torri. Mae modd gweld y manylion llawn ar www.rctcbc.gov.uk/canolfannauailgylchu

Siopau Ail-ddefnyddio – Mae tair siop ailddefnyddio bwrpasol, o’r enw ‘Y Sied’ ar draws y Fwrdeistref Sirol, gydag un ym mhob ardal yn Rhondda Cynon Taf. Mae'r siopau yma yn derbyn rhoddion er mwyn sicrhau bod eich eitemau diangen chi yn mynd i gartref newydd. Maen nhw hefyd ar agor i chi fynd yno i gael bargen a gwneud eich rhan chi i'r amgylchedd, gan wneud trysorau ar gael i bawb! O deganau i fyrddau a chadeiriau, mae gan Y Sied rhywbeth at ddant pawb! Mae modd gweld y manylion llawn ar https://www.rctcbc.gov.uk/YSied.

Siopau Atgyweirio – Mae’r Cyngor yn cefnogi nifer o achlysuron atgyweirio dros dro lleol ac mae’n bwriadu datblygu ardal reolaidd yn y cyfleuster ‘Y Sied’ newydd yn Stryd y Canon, Aberdâr.

Archfarchnadoedd – Mae nifer o archfarchnadoedd lleol yn cynnig cynlluniau ailgylchu bagiau siopa/plastig meddal (e.e. bagiau bara) a hyd yn oed pecynnau creision, ynghyd ag ailgylchu batris. Edrychwch allan am y cynlluniau yma yn eich archfarchnad leol y tro nesaf y byddwch chi'n siopa. 

Ewch i'r trelar am gyngor - I helpu i ateb cwestiynau ynglŷn â beth sy'n gallu a beth sydd ddim yn gallu cael ei ailgylchu yn RhCT, bydd trelar hyrwyddo'r Cyngor yn ymweld â'r lleoedd canlynol o 10am ymlaen:

Dyddiad/Amser

Lle:

Dydd Mercher 19 Hydref

Canol Tref Pontypridd

Dydd Iau 20 Hydref

Llyfrgell Aberdâr

Dydd Gwener 21 Hydref

Asda, Tonypandy

Bydd y garfan yn cynnig cyngor cyffredinol am ailgylchu ac yn rhoi'r cyfle i drigolion gasglu eu hanfodion ailgylchu, o fagiau clir i finiau bwyd.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden:

"Hoffwn ddiolch i drigolion RhCT am eu hymdrechion ailgylchu ARBENNIG, maen nhw wedi bod yn wych. Os ydyn ni'n parhau yn yr un modd, byddwn ni'n cyrraedd targed ailgylchu Llywodraeth Cymru o 70% ymhell cyn 2024/25 - da iawn RhCT!

"Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn anodd iawn i aelwydydd ledled y sir ac rydw i'n falch iawn o'n trigolion cryf am barhau i ailgylchu, er gwaethaf yr heriau diweddar ac yn wyneb yr heriau sydd i ddod. 

“Fel Cyngor, rydyn ni'n ceisio gwneud ein gorau glas i sicrhau bod y broses ailgylchu mor hawdd a hygyrch â phosibl i bawb. Rydyn ni'n cynnig system archebu bagiau ailgylchu ar-lein, gwasanaeth dosbarthu, a system bag clir hawdd ar gyfer eitemau sych. Mae ein Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned o fewn ychydig o filltiroedd o bob preswylydd ac maen nhw ar agor bob diwrnod o'r wythnos, gan gynnwys gwyliau banc.

“Rhaid i ni barhau i fod yn falch o'n hymdrechion ailgylchu ni, ond mae cymaint yn rhagor mae modd inni ei wneud. Rydyn ni'n gwybod bod ein trigolion yn poeni am y newid yn yr hinsawdd a hoffen nhw wneud Cymru a Rhondda Cynon Taf yn llefydd glanach a gwyrddach. Gyda'n gilydd mae modd i ni sicrhau bod Cymru'n cipio'r fedal aur am ailgylchu ac ein bod ni'n amddiffyn ein planed gan ailgylchu'r pethau cywir a lleihau halogiad, bob tro.”

Yn ystod wythnos ailgylchu, bydd y Cyngor yn rhannu ffeithiau dyddiol ar ei dudalennau cyfryngau cymdeithasol ar sut y gallwch chi leihau halogiad wrth ailgylchu a GWELLA eich ymdrechion ailgylchu!

Dilynwch @CyngorRhCT/@RCTCouncil ar Facebook a Twitter.

Gallwch chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth hefyd drwy fynd i www.rctcbc.gov.uk/ailgylchu.

Wedi ei bostio ar 17/10/2022