Skip to main content

Strategaeth Coed a Choetiroedd RhCT – Dweud Eich Dweud

Hoffen ni annog pawb i siarad am goed, a dyna pam rydyn ni'n gofyn am eich barn chi ar ein Strategaeth Ddrafft Coed a Choetiroedd newyddar gyfer 2022/32. Ein nod ni yw diogelu ein coed a'n coetiroedd er mwyn i genedlaethau'r dyfodol eu mwynhau ac i helpu ein planed.

Rydyn ni'n ffodus i fod yng nghanol harddwch naturiol yma yn Rhondda Cynon Taf. Rydyn ni'n arbennig o ffodus o gael cynifer o goed amrywiol, a dyna pam rydyn ni'n lansio ymgynghoriad cyhoeddus fydd yn para wyth wythnos. 

Ble bynnag yr edrychwch chi, fe welwch chi goed – yn ein trefi a'n pentrefi, ar ein bryniau, yn ein strydoedd, ar ein llwybrau troed ac yn ein mannau gwyrdd di-ri. 

Strategaeth Ddrafft Coed a Choetiroedd  

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden:

"Mae ein Bwrdeistref Sirol yn fyd-enwog am ei dyffrynnoedd a'i harddwch naturiol. Mae ein hardal ni'n cael ei defnyddio'n rheolaidd ar gyfer dramâu teledu, rhaglenni dogfen a ffilmiau. 

"Mae hyn i gyd ar garreg ein drws a does dim modd i ni ei gymryd yn ganiataol o hyn ymlaen. Rhaid i ni i gyd wneud popeth o fewn ein gallu i warchod ein coetiroedd wrth i'r Cyngor ymdrechu i ddod yn Garbon Niwtral erbyn 2030. 

"Rydyn ni'n buddsoddi yn ein mannau gwyrdd ac yn darparu dulliau storio carbon naturiol fel y rhai y mae coed, mawnogydd, glaswelltir corsiog a chynefinoedd naturiol eraill yn eu rhoi i ni. Bydd y rhain yn gwella ansawdd aer ac yn lleihau effaith nwyon tŷ gwydr.

"Mae lleihau effaith Newid yn yr Hinsawdd yn rhywbeth y mae modd i ni i gyd ei wneud, a does dim ots os yw'r camau'n rhai mawr neu'n fach. Mae newid yn dechrau yma a nawr, gyda phob un ohonon ni.

"Bydd pob newid a wnawn ni i gyd yn gwneud gwahaniaeth i'n planed ni. Mae angen eich help chi arnon ni i gyflawni ein nodau. Dyma ein dyletswydd ni i genedlaethau'r dyfodol."

Rydyn ni wedi buddsoddi £50,000 mewn plannu coed ledled y Fwrdeistref Sirol, ac o ganlyniad rydyn ni wedi plannu dros 1,000 o goed. Mae angen coed arnon ni i oroesi, gan eu bod nhw'n rhyddhau'r ocsigen sydd ei angen arnon ni i gyd i fyw. Mae coed hefyd yn storio carbon, yn sefydlogi'r pridd ac yn gynefin i fywyd gwyllt.  

Plannu Coed RhCT  

Mae ein Strategaeth Coed a Choetiroedd yn ymwneud â'r deng mlynedd nesaf, gyda golwg ar y tymor hirach o 50 mlynedd ac wedi hynny. Er mwyn i bobl ddechrau trafod, rydyn ni'n lansio ein cyfnod ymgynghori fydd yn para wyth wythnos ar 1 Medi, cyn dod i ben ar 27 Hydref.

Mynd i'r afael â Newid yn yr Hinsawdd yn RhCT 

Rydyn ni eisiau i'r Cyngor fod yn garbon niwtral erbyn 2030. Rydyn ni wedi gwneud cynnydd da dros y deng mlynedd i leihau ein hôl troed carbon. Mae gyda ni dros 100 o osodiadau paneli solar ac rydyn ni wedi gosod systemau pŵer ynni-effeithlon sy'n cynhyrchu gwres a thrydan o'r un ffynhonnell ynni. Rydyn ni hefyd wedi gosod boeleri effeithlonrwydd uchel, unedau gwresogi, awyru ac aerdymheru, ac wedi newid i oleuadau LED ynni isel mewn adeiladau a goleuadau stryd  

Dyma'ch cyfle chi i ddweud eich dweud am ein coed!

Dyma fater i bawb!

#DewchiSiaradamGoedRhCT

Wedi ei bostio ar 07/09/22